Mae Agored Cymru yn falch o gefnogi’r Sefydliad Dysgu a Gwaith ac Addysg Oedolion Cymru fel cyrff trefnu sector ar gyfer rhaglen dysgu oedolion Taith. Mae’n bleser gennym gynnig cydnabyddiaeth o gyflawniad ac ardystiad i unigolion sy’n cymryd rhan yn y rhaglen.
Rhaglenni Dysgu wedi’u Teilwra a’r Marc Ansawdd
Gellid defnyddio’r ddau lwybr i gefnogi, cydnabod a darparu ardystiad ar gyfer:
- Symudedd dysgwyr a staff unigol, neu grwpiau ohonynt, i Gymru ac oddi yno
- Datblygu sgiliau a chymwyseddau allweddol a phrofi diwylliannau newydd, wrth hyrwyddo Cymru a’r iaith Gymraeg a’i diwylliant ledled y byd ar yr un pryd.
Rhaglenni Dysgu Agored Cymru wedi’u Teilwra
- Cydnabyddiaeth genedlaethol ac allanol o gyflawniad cyfranogwyr.
- Canlyniadau dysgu mesuradwy a meini prawf asesu cysylltiedig, sydd wedi’u meincnodi yn erbyn fframweithiau cenedlaethol ac sy’n bodloni safonau cyrff dyfarnu cenedlaethol
- Wedi’i deilwra i ofynion darparwyr, yn bodloni anghenion cyfranogwyr ac yn adlewyrchu’r profiad symudedd yn gywir.
- Ystod eang o unedau parod ar draws ystod eang o feysydd pwnc a lefelau/gwerth credyd
- Gellir datblygu unedau newydd sy’n bwrpasol, hyblyg ac unigryw i brosiectau penodol
- Gellir eu hymgorffori mewn cwricwla
- Cefnogi’r rhai sydd â’r lleiaf o gymwysterau a darparu cyfleoedd dilyniant
- Wedi’i gynllunio i gasglu tystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol
- Mae’n cynnwys 3 maes gweithgaredd allweddol: - Cyn lleoli, yn ystod lleoliad ac ar ôl lleoliad. Er enghraifft, nodi sgiliau a chyflawniadau cyn lleoliad, adeiladu portffolio sgiliau personol yn ystod lleoliad, ac ysgrifennu (neu ddiweddaru) CV ar ôl lleoliad.
Marc Ansawdd Agored Cymru
- Mesur rhagoriaeth, dilysu a dathlu arfer rhagorol wrth gyflwyno dysgu yng Nghymru.
- Gellir ei gymhwyso i wahanol fathau a strwythurau dysgu h.y. wyneb yn wyneb; e-ddysgu; seminarau; cynadleddau; gweminarau; a sesiynau diweddaru byr
- Mae datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) wrth galon y Marc Ansawdd
- Mae’n sicrhau bod cyfranogwyr yn cael y cyfleoedd dysgu gorau posibl fel y gallant gynyddu eu gwybodaeth a gwella eu harferion sector
- Pwyntiau DPP wedi’u cymhwyso lle bo’n berthnasol.
Mae’r Pynciau Allweddol yn cynnwys
- Sgiliau digidol
- Iaith a diwylliant
- Cyflogadwyedd, datblygu gyrfa, arweinyddiaeth, cydweithio, lles y gweithlu
- Ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol
- Hunan-rymuso, hunan-barch a chymhelliant
- Ymwybyddiaeth o wydnwch, lles ac iechyd meddwl
- Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- Datblygu cymunedol, integreiddio ac adeiladu cymunedau cydlynol
- Ymwybyddiaeth amgylcheddol, newid hinsawdd a sgiliau gwyrdd
Gallai fod yn bwrpasol ar gyfer sectorau penodol neu lwybrau dilyniant.
Y Manteision
- Mecanwaith i alluogi darparwyr i fonitro a mesur cyflawniad
- Gellir atodi pwyntiau DPP lle bo’n berthnasol
- Cefnogi darparwyr i ddatblygu dulliau gwerthuso sy’n asesu gwerth ac effaith y rhaglen
- Wedi’i adeiladu i gefnogi cyfnewidfeydd rhyngwladol ar draws pob sector yng Nghymru
- Yn cefnogi cyfnewidfeydd hyblyg, gan gynnwys cyfnewidiadau tymor byr, cymysg a rhithwir
- Ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg
- Bydd cyfranogwyr llwyddiannus yn derbyn ‘tystysgrif cyflawniad’ Agored Cymru sy’n cyfeirio’n uniongyrchol at raglen Taith
- Fforddiadwy, hygyrch ac yn werthfawr i gyfranogwyr.
Cysylltwch â ni
gwybodaeth@agored.cymru
02920 747866
Peter Johnson
Pennaeth Datblygu Busnes a Chefnogi Cwsmeriaid
Jo Creeden
Dirprwy Brif Weithredwr
