Fel elusen gofrestredig a menter gymdeithasol, rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod dysgwyr o bob oed a gallu yn gwireddu eu llawn botensial.
Mae gennym ni 30 mlynedd o brofiad ac arbenigedd dihafal o ddatblygu cymwysterau a chefnogi dysgu, asesu a gwirio yng Nghymru.
Mae ein staff yn deall beth y mae cyflogwyr yng Nghymru am ei gael, a beth sydd ei angen arnynt, o ran sgiliau a phrofiad.
Rydym yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau i ddylunio a datblygu cymwysterau, unedau ac adnoddau.
Ymhlith y sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw ar hyn o bryd mae:
- Llywodraeth Cymru
- Cynghorau Sgiliau Sector
- ColegauCymru
- Sefydliadau Addysg Bellach
- Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
- Ymddiriedolaethau’r GIG
- Awdurdodau Lleol
- Darparwyr Addysg Uwch
- Sefydliadau trydydd sector
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi weithio gyda ni, cysylltwch â'r Tim Rheoli Canolfannau