Marc Ansawdd

Beth yw Marc Ansawdd Agored Cymru?

Mae Marc Ansawdd Agored Cymru’n mesur rhagoriaeth rhaglenni dysgu. Mae’n dilysu ac yn dathlu arferion eithriadol mewn darparu dysgu yng Nghymru. Asesir rhaglenni dysgu yn erbyn cyfres o safonau sy’n seiliedig ar arferion da ac ymchwil cyfredol mewn addysg a hyfforddiant.

 

Beth yw'r Manteision?

Sicrwydd Ansawdd a Datblygu Sefydliadol

Mae’r Marc Ansawdd yn rhan o sicrwydd ansawdd sefydliad ac yn arwydd ei fod yn rhoi ystyriaeth o ddifrif i ansawdd ei ddysgu a bod gwella a datblygu’n rhan ganolog o’i arferion. Mae’r hunanasesu manwl a’r dilysu allanol yn sail i ddatblygu sefydliadol a dysgu.

Hyblygrwydd

Mae hyblygrwydd yn rhan greiddiol o Farc Ansawdd Agored Cymru gyda cheisiadau’n cael eu gwneud ar gyfer llawer o wahanol fathau a strwythurau o ddysgu. Mae’r rhain yn cynnwys darparu wyneb yn wyneb, boed yn ddigwyddiadau unigol neu’n rhaglen ddysgu; e-ddysgu; seminarau; cynadleddau; gweminarau a sesiynau diweddaru byrion.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Mae datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) wrth galon y Marc Ansawdd. Mae Agored Cymru eisiau sicrhau bod dysgwyr a chyfranogwyr yn cael y cyfleoedd dysgu gorau un fel eu bod yn gallu ehangu eu gwybodaeth a gwella eu harfer yn y sector.

Cyfathrebu Rhagoriaeth

Mae sefydliadau ymgeisio llwyddiannus yn defnyddio Marc Ansawdd Agored Cymru i fynegi bod eu rhaglen ddysgu wedi cyrraedd y safonau addysgol uchaf. Mae sefydliadau, cyflogwyr, dysgwyr a chyfranogwyr yn gwybod bod y rhaglen ddysgu wedi cael ei chynllunio’n dda a bod y dilysiad Marc Ansawdd allanol yn cynyddu hyder y partion i gyd.

 

Pa sefydliadau all wneud cais am Farc Ansawdd?

Gall unrhyw sefydliadau wneud cais am Farc Ansawdd, gan gynnwys canolfannau Agored Cymru.

 

Sut mae’n gweithio?

Bydd sefydliadau’n cael aelod penodol o’n tîm a fydd yn asesu'r rhaglen ddysgu arfaethedig yn erbyn Safonau’r Marc Ansawdd. Ar ôl i’r rhaglen gael ei dilysu, bydd y Marc Ansawdd yn cael ei ddyfarnu ar gyfer ei ddefnyddio am gyfnod penodol o amser.

 

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng dysgu achrededig a’r Marc Ansawdd?

  • Dim ond rhaglenni dysgu sy’n para deg awr neu fwy, gan gynnwys yr asesiad achredu, ellir eu trosi’n gredyd. Mae un credyd gyfwerth â deg awr o ddysgu. Byddai rhaglenni dysgu sy’n fyrrach na hyn yn ddelfrydol ar gyfer symud ymlaen am y Marc Ansawdd.
  • Byddai’n rhaid i raglen ddysgu sefydliad gael ei datblygu’n uned ddysgu er mwyn iddi gael ei hachredu a byddai rhaglen ddysgu, wrth symud ymlaen ar gyfer y Marc Ansawdd, yn cael ei hasesu yn erbyn cyfres o safonau sydd wedi’u sefydlu.
  • Ni fyddai’n rhaid i raglen ddysgu sydd wedi derbyn Marc Ansawdd gael ei hasesu am lefel ei chymhlethdod dysgu. Byddai’n rhaid gwneud hyn wrth ddatblygu unedau achrededig.
  • Nid oes unrhyw ofynion i gwrs sydd wedi derbyn Marc Ansawdd gynhyrchu tystiolaeth o asesu dysgwyr, yn wahanol i uned achrededig. Nid yw hyn yn golygu nad yw canlyniadau dysgwyr yn bwysig i raglen ddysgu sydd wedi derbyn Marc Ansawdd.
  • Caiff dysgwyr a chyfranogwyr dderbyn tystysgrif bresenoldeb neu oriau DPP. Mae hyn yn golygu na fydd dysgwyr a chyfranogwyr ar gwrs Marc Ansawdd yn ennill credydau tuag at gymwysterau.

 

Gwneud cais am Farc Ansawdd

Does dim dwy raglen ddysgu yr un fath gan fod y pynciau, y cynulleidfaoedd targed a’r gweithredu’n gallu bod yn wahanol. Mae hyn yn golygu bod Agored Cymru’n cydnabod bod rhaglenni dysgu yn unigol iawn ac mae ein dilysiad Marc Ansawdd yn adlewyrchu hyn. Felly, bydd costau’r Marc Ansawdd yn adlewyrchu’r elfen unigol hon a bydd y prisiau’n unigol ar gyfer sefydliadau.

Cysylltwch â marcansawdd@agored.cymru i drafod y marc ansawdd.