Hyrwyddo Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

ID Uned:
CCY680
Cod Uned:
AJ25CY001
Lefel:
Pump
Credydau:
4
Sector:
15.3
LDCS:
AJ221
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH):
Dyddiad cofrestru diwethaf:
31/08/2020
Cyfyngiad oedran isaf:
19
CQFW logo

Pwrpas a Nod

Pwrpas yr uned hon yw asesu gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwr a’r sgiliau sy’n ofynnol iddo eu cael yng nghyswllt dull gweithredu ar sail system gyfan ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Mae'r uned yn trin a thrafod modelau ymarfer ac yn galw am ddangos sgiliau a dealltwriaeth o systemau a phrosesau.

CANLYNIADAU DYSGU

Bydd y myfyriwr yn

MEINI PRAWF ASESU

Mae’r myfyriwr yn gallu
1. Deall amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yn ei faes cyfrifoldeb ei hun
1.1Esbonio modelau ymarfer sy'n sail i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ei faes cyfrifoldeb ei hun
1.2 Dadansoddi effeithiau posib rhwystrau i gydraddoldeb a chynhwysiant yn ei faes cyfrifoldeb ei hun
1.3 Dadansoddi effaith deddfwriaeth a mentrau polisi ar hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ei faes cyfrifoldeb ei hun
2. Gallu hyrwyddo amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant
2.1Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym maes polisi ac ymarfer
2.2 Herio gwahaniaethu ac allgáu ym maes polisi ac ymarfer
2.3 Rhoi gwybodaeth i bobl eraill am y canlynol:
 • sut mae gwahaniaethu yn effeithio ar bobl
 • effaith cynhwysiant
 • gwerth amrywiaeth
2.4 Cefnogi pobl eraill i herio gwahaniaethu ac allgáu
3. Deall sut mae datblygu systemau a phrosesau sy’n hyrwyddo amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant
3.1Dadansoddi sut mae systemau a phrosesau yn gallu hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant neu atgyfnerthu gwahaniaethu ac allgáu
3.2 Gwerthuso pa mor effeithiol yw systemau a phrosesau o ran hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ei faes cyfrifoldeb ei hun
3.3 Cynnig gwelliannau er mwyn mynd i'r afael â bylchau a diffygion mewn systemau a phrosesau
4. Gallu delio â'r risgiau sy’n codi wrth gydbwyso hawliau'r unigolyn a dyletswydd o ofal broffesiynol
4.1Disgrifio'r mathau o gyfyng-gyngor sy’n gallu codi yn ei faes cyfrifoldeb ei hun wrth gydbwyso hawliau'r unigolyn a dyletswydd o ofal
4.2 Esbonio’r egwyddor o wneud dewisiadau deallus
4.3 Esbonio sut mae materion sy'n ymwneud â gallu unigol yn gallu effeithio ar wneud dewisiadau deallus
4.4 Cynnig strategaeth ar gyfer rheoli risgiau wrth gydbwyso hawliau’r unigolyn a dyletswydd o ofal yn ei faes cyfrifoldeb ei hun

Dulliau Asesu:

Does dim dulliau asesu wedi cael eu rhagnodi ar gyfer yr uned hon. Dylai’r asesiadau a ddefnyddir fod yn addas i’r diben ar gyfer yr uned a’r dysgwyr, ac yn cynhyrchu tystiolaeth o gyrhaeddiad o safbwynt holl feini prawf yr asesiad.

Gwybodaeth Asesu:

Nid oes unrhyw wybodaeth asesu penodol sydd i'w defnyddio gyda'r uned hon.

Os nad yw wedi’i nodi’n benodol yn y wybodaeth asesu, mae datganiad lluosog mewn unrhyw faen prawf asesu yn golygu o leiaf dau.

Mapiadau Eraill:

Mapping to National Occupational Standards (NOS) and the Knowledge and Skills Framework(KSF) for the NHS
NOS ref: LMCS B1 HSC 45 LDSS/GCU 5 LDSS 408

Mapio i’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau'r GIG
Cyfeirnod y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol: LMCS B1 HSC 45 LDSS/GCU 5 LDSS 408

Gofynion Aseswyr:

Dylid asesu'r uned hon yn unol ag Egwyddorion Asesu Sgiliau Gofal a Datblygu QCF
Rhaid asesu Canlyniadau Dysgu 2 a 4 yn y lleoliad gwaith