Defnyddio a Datblygu Systemau sy’n Hyrwyddo Cyfathrebu

ID Uned:
CCY674
Cod Uned:
AF35CY001
Lefel:
Pump
Credydau:
3
Sector:
14.2
LDCS:
AF3
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH):
Dyddiad cofrestru diwethaf:
31/08/2020
Cyfyngiad oedran isaf:
19
CQFW logo

Pwrpas a Nod

Pwrpas yr uned hon yw asesu gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwr a’r sgiliau sydd eu hangen arno i ddatblygu systemau cyfathrebu sy’n bodloni canlyniadau unigol ac sy’n hybu gweithio mewn partneriaeth Mae'r uned yn trin a thrafod heriau a rhwystrau i gyfathrebu a pham ei bod yn bwysig rheoli gwybodaeth yn effeithiol.

CANLYNIADAU DYSGU

Bydd y myfyriwr yn

MEINI PRAWF ASESU

Mae’r myfyriwr yn gallu
1. Gallu rhoi sylw i'r amrywiol ofynion cyfathrebu sy'n berthnasol i'w rôl ei hun
1.1Adolygu'r amrywiol grŵpiau ac unigolion y mae'n rhaid iddo roi sylw i'w hanghenion cyfathrebu er mwyn cyflawni ei rôl ei hun
1.2 Esbonio sut mae cefnogi cyfathrebu effeithiol o fewn ei rôl ei hun
1.3 Dadansoddi'r rhwystrau a'r heriau cyfathrebu sy'n berthnasol i'w rôl ei hun
1.4 Rhoi strategaeth ar waith a fydd yn chwalu rhwystrau i gyfathrebu
1.5 Defnyddio dulliau cyfathrebu gwahanol er mwyn diwallu anghenion amrywiol
2. Gallu gwella systemau ac arferion cyfathrebu sy’n cefnogi canlyniadau cadarnhaol i unigolion
2.1Monitro pa mor effeithiol yw systemau ac arferion cyfathrebu
2.2 Gwerthuso pa mor effeithiol yw systemau ac arferion cyfathrebu sy’n bodoli eisoes
2.3 Cynnig gwelliannau i systemau ac arferion cyfathrebu er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion
2.4 Arwain y gwaith o roi arferion a systemau cyfathrebu ar eu newydd wedd yn eu lle
3. Gallu gwella systemau cyfathrebu er mwyn cefnogi gweithio mewn partneriaeth
3.1Defnyddio systemau cyfathrebu i hybu gweithio mewn partneriaeth
3.2 Cymharu pa mor effeithiol yw systemau cyfathrebu gwahanol o ran gweithio mewn partneriaeth
3.3 Cynnig gwelliannau i systemau cyfathrebu at ddibenion gweithio mewn partneriaeth
4. Gallu defnyddio systemau at ddibenion rheoli gwybodaeth yn effeithiol
4.1Esbonio’r tensiynau cyfreithiol a moesegol sy’n codi rhwng cadw cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth
4.2 Dadansoddi nodweddion hanfodol cytundebau rhannu gwybodaeth o fewn a rhwng sefydliadau
4.3 Dangos sut mae defnyddio systemau rheoli gwybodaeth sy’n bodloni gofynion cyfreithiol a moesegol

Dulliau Asesu:

Does dim dulliau asesu wedi cael eu rhagnodi ar gyfer yr uned hon. Dylai’r asesiadau a ddefnyddir fod yn addas i’r diben ar gyfer yr uned a’r dysgwyr, ac yn cynhyrchu tystiolaeth o gyrhaeddiad o safbwynt holl feini prawf yr asesiad.

Gwybodaeth Asesu:

Nid oes unrhyw wybodaeth asesu penodol sydd i'w defnyddio gyda'r uned hon.

Os nad yw wedi’i nodi’n benodol yn y wybodaeth asesu, mae datganiad lluosog mewn unrhyw faen prawf asesu yn golygu o leiaf dau.

Mapiadau Eraill:



Mapio i’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau'r GIG
Cyfeirnod y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol: LMCS E1 HSC 41

Gofynion Aseswyr:

Dylid asesu'r uned hon yn unol ag Egwyddorion Asesu Sgiliau Gofal a Datblygu QCF
Rhaid asesu CD1, 2, 3 a 4 yn y lleoliad gwaith

Gwybodaeth ychwanegol:
MPA1.5 Gall dulliau cyfathrebu gynnwys y canlynol:
• geiriol
• dieiriau
• arwyddion
• lluniau
• ysgrifenedig
• electronig
• gyda chymorth
• personol
• sefydliadol
• ffurfiol
• anffurfiol
• cyhoeddus (gwybodaeth/deunyddiau hyrwyddo)

MPA3.3 Gweithio mewn Partneriaeth: Cydweithio’n effeithiol â phobl, gweithwyr proffesiynol, asiantaethau a sefydliadau er mwyn gwella lles pobl a chefnogi canlyniadau cadarnhaol a gwell.