1. |
Deall beth yw pwrpas goruchwyliaeth broffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol neu mewn lleoliadau plant a phobl ifanc. |
|
1.1 | Dadansoddi egwyddorion, cwmpas a phwrpas goruchwyliaeth broffesiynol.
| 1.2 | Amlinellu damcaniaethau a modelau goruchwyliaeth broffesiynol.
| 1.3 | Esbonio sut mae'r gofynion o ran deddfwriaeth, codau ymarfer a ffyrdd o weithio y cytunwyd arnynt yn dylanwadu ar oruchwyliaeth broffesiynol.
| 1.4 | Esbonio sut mae canfyddiadau ymchwil, adolygiadau beirniadol ac ymchwiliadau yn gallu cael eu defnyddio yng nghyswllt goruchwyliaeth broffesiynol.
| 1.5 | Esbonio sut mae goruchwyliaeth broffesiynol yn gallu diogelu'r canlynol:
• Yr unigolyn
• Y Goruchwyliwr
• Y Sawl sy’n cael ei Oruchwylio |
|
2. |
Deall sut mae egwyddorion goruchwyliaeth broffesiynol yn gallu cael eu defnyddio i lywio'r gwaith o reoli perfformiad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol neu mewn lleoliadau plant a phobl ifanc. |
|
2.1 | Esbonio'r cylch rheoli perfformiad
| 2.2 | Dadansoddi sut mae goruchwyliaeth broffesiynol yn cefnogi perfformiad
| 2.3 | Dadansoddi sut mae dangosyddion perfformiad yn gallu cael eu defnyddio i fesur ymarfer |
|
3. |
Gallu paratoi ar gyfer goruchwyliaeth broffesiynol gyda'r rheini sy’n cael eu goruchwylio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol neu mewn lleoliadau plant a phobl ifanc. |
|
3.1 | Esbonio ffactorau sy’n achosi anghydbwysedd o ran pwer yng nghyswllt goruchwyliaeth broffesiynol.
| 3.2 | Esbonio sut i fynd i'r afael ag anghydbwysedd o ran pwer yn ei arferion goruchwylio ei hun
| 3.3 | Gyda'r sawl sy’n cael ei oruchwylio, cytuno ar gyfrinachedd, ffiniau, rolau ac atebolrwydd o fewn y broses goruchwyliaeth broffesiynol
| 3.4 | Gyda'r sawl sy’n cael ei oruchwylio, cytuno ar ba mor aml ac ymhle y dylai goruchwyliaeth broffesiynol ddigwydd
| 3.5 | Gyda'r sawl sy'n cael ei oruchwylio, cytuno ar ba ffynonellau tystiolaeth y gellir eu defnyddio fel sail ar gyfer goruchwyliaeth broffesiynol
| 3.6 | Gyda'r sawl sy'n cael ei oruchwylio, cytuno ar y camau y dylid eu rhoi ar waith i baratoi ar gyfer goruchwyliaeth broffesiynol |
|
4. |
Gallu darparu goruchwyliaeth broffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol neu mewn lleoliadau plant a phobl ifanc. |
|
4.1 | Helpu'r rheini sy’n cael eu goruchwylio i bwyso a mesur eu harferion
| 4.2 | Rhoi adborth cadarnhaol ar eu cyflawniadau i'r rheini sy'n cael eu goruchwylio
| 4.3 | Rhoi adborth adeiladol y gellir ei ddefnyddio i wella perfformiad
| 4.4 | Helpu'r rheini sy'n cael eu goruchwylio i ganfod eu hanghenion datblygu eu hunain
| 4.5 | Adolygu ac addasu targedau goruchwyliaeth broffesiynol er mwyn cyflawni amcanion dynodedig y lleoliad gwaith
| 4.6 | Helpu'r rheini sy'n cael eu goruchwylio i archwilio dulliau gwahanol o fynd i'r afael â sefyllfaoedd heriol
| 4.7 | Cofnodi penderfyniadau goruchwylio y cytunwyd arnynt |
|
5. |
Gallu delio â sefyllfaoedd o wrthdaro wrth gynnal goruchwyliaeth broffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol neu mewn lleoliadau plant a phobl ifanc. |
|
5.1 | Rhoi enghreifftiau o’i ymarfer ei hun o ddelio â sefyllfaoedd o wrthdaro wrth gynnal goruchwyliaeth broffesiynol
| 5.2 | Pwyso a mesur ei arferion ei hun wrth ddelio â sefyllfaoedd o wrthdaro yn ystod y broses o gynnal goruchwyliaeth broffesiynol |
|
6. |
Gallu gwerthuso ei ymarfer ei hun wrth gynnal goruchwyliaeth broffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol neu mewn lleoliadau plant a phobl ifanc. |
|
6.1 | Cael adborth gan y rheini y mae’n eu goruchwylio ar ei ddull gweithredu ei hun yng nghyswllt y broses oruchwylio
| 6.2 | Addasu ei ddull gweithredu ei hun yng nghyswllt goruchwyliaeth broffesiynol yng ngoleuni adborth gan y rheini y mae’n eu goruchwylio ac eraill. |
|