Cyflawni Triniaethau Electrocardiograff (ECG) Arferol

ID Uned:
CCY544
Cod Uned:
PH13CY035
Lefel:
Tri
Credydau:
4
Sector:
1.2
LDCS:
PH1
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH):
30
Dyddiad cofrestru diwethaf:
31/08/2028
Cyfyngiad oedran isaf:
16
Access to HE logo Cym

Pwrpas a Nod

Mae’r uned hon yn cynnwys cyflawni recordiad electrocardiograff (ECG) wrth orffwys a recordiad electrocardiograff (ECG) wrth gerdded. Mae’r uned yn cynnwys cysylltu a datgysylltu electrodau a chasglu data yn barod i’w ddadansoddi.
Mae modd gwneud hyn mewn nifer o leoliadau gofal megis adrannau cleifion allanol, ardaloedd wardiau a meddygfeydd.

CANLYNIADAU DYSGU

Bydd y myfyriwr yn

MEINI PRAWF ASESU

Mae’r myfyriwr yn gallu
1. Deall y ddeddfwriaeth, y canllawiau cenedlaethol, y polisïau, y protocolau a’r ymarfer da cyfredol sy’n effeithio ar ei swyddogaeth ei hun.
1.1Crynhoi’r deddfwriaeth, y canllawiau cenedlaethol, y polisïau, y protocolau a’r canllawiau ymarfer da cyfredol ar gyfer cynnal triniaethau electrocardiograff arferol.
1.2 Egluro ei gyfrifoldebau a’i atebolrwydd ei hun mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth, y canllawiau cenedlaethol, y polisïau, y protocolau a’r canllawiau ymarfer da cyfredol.
1.3 Egluro’r ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw weithredoedd neu esgeulustod mewn gofal a allai fod yn niweidiol
2. Deall pwrpas a swyddogaethau electrocardiograffau.
2.1Egluro pwrpas triniaethau electrocardiograff.
Disgrifio math, nodweddion cyffredin a gofynion gosod dyfeisiau recordio a ddefnyddir mewn triniaethau electrocardiograff.
Egluro strwythur a swyddogaeth y galon.
Adnabod electrocardiograff arferol a pherthnasu hyn â system dargludiad y galon.
Disgrifio gosod yr electrodau yn gywir ar gyfer triniaethau wrth orffwys ac wrth gerdded.
Egluro pam ei bod hi’n bwysig gosod yr electrodau yn gywir.
Adnabod ffynonellau posibl o arteffactau ac egluro sut mae eu hadnabod.
3. Gallu paratoi i gyflawni triniaethau electrocardiograff arferol.
3.1Defnyddio rhagofalon safonol ar gyfer rheoli heintiau.
3.2 Cadarnhau pwy yw’r unigolyn a chael caniatâd dilys a’r rheswm dros gyfeirio.
3.3 Cadarnhau bod yr unigolyn yn ffit i fynd drwy’r driniaeth.
3.4 Rhoi gwybod i’r unigolyn a’r gofalwyr am y driniaeth a’r gofynion ar gyfer eu cydymffurfiad.
3.5 Adnabod unrhyw ffactorau neu anghenion arbennig a allai effeithio ar y prawf neu ganlyniadau’r prawf.
3.6 Gofyn am gyfarwyddyd pan fydd angen trefniadau eraill i ddiwallu anghenion arbennig.
3.7 Sefydlu pa mor addas yw’r cyfarpar ar gyfer y driniaeth.
3.8 Paratoi safleoedd a gosod electrodau, gan ystyried unrhyw anghenion arbennig a ganfuwyd.
4. Gallu cyflawni triniaethau electrocardiograffeg arferol.
4.1Rhoi gwybod i’r unigolyn a’i ofalwyr am y driniaeth a’r cam nesaf.
4.2 Gwneud yn siwr bod preifatrwydd ac urddas yr unigolyn yn cael eu cynnal bob amser.
4.3 Cyfleu gwybodaeth mewn ffordd sy’n sensitif i gredoau personol a dewis personol yr unigolyn.
4.4 Annog yr unigolyn i ymlacio ac aros yn llonydd drwy gydol electrocardiograff gorffwys.
4.5 Gwneud yn siwr bod yr unigolyn yn deall yr angen i recordio arwyddion a symptomau drwy gydol electrogardiograff cerdded.
4.6 Labelu dogfennau a dyfeisiau recordio yn unol â pholisi a phrotocol lleol.

Dulliau Asesu:

Does dim dulliau asesu wedi cael eu rhagnodi ar gyfer yr uned hon. Dylai’r asesiadau a ddefnyddir fod yn addas i’r diben ar gyfer yr uned a’r dysgwyr, ac yn cynhyrchu tystiolaeth o gyrhaeddiad o safbwynt holl feini prawf yr asesiad.

Gwybodaeth Asesu:

Nid oes unrhyw wybodaeth asesu penodol sydd i'w defnyddio gyda'r uned hon.

Gwybodaeth ychwanegol:
Rhaid i ganiatâd dilys fod yn unol â diffiniad gwlad y DU.

Gall anghenion arbennig gynnwys yr angen i ddefnyddio safleoedd gwahanol er mwyn gosod yr electrodau oherwydd gorchuddion, cymhorthion sain, aelodau ar goll ac ati

Os nad yw wedi’i nodi’n benodol yn y wybodaeth asesu, mae datganiad lluosog mewn unrhyw faen prawf asesu yn golygu o leiaf dau.

Mapiadau Eraill:

Mapio i Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG.
Mapping to National Occupational Standards (NOS) and the Knowledge and Skills Framework(KSF) for the NHS.

NOS ref: CHS130

Gofynion Aseswyr:

Rhaid asesu’r uned hon yn unol ag Egwyddorion Asesu Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Sgiliau Iechyd.