Undertake Stoma Care

ID Uned:
CCY530
Cod Uned:
PH13CY025
Lefel:
Tri
Credydau:
4
Sector:
1.2
LDCS:
PH1
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH):
30
Dyddiad cofrestru diwethaf:
30/06/2020
Cyfyngiad oedran isaf:
16
CQFW logo

Pwrpas a Nod

Mae’r uned hon wedi’i hanelu at y rheini sy’n gofalu am unigolion sydd â stoma perfedd/pledren. Gall hyn fod ar gyfer unigolion sydd â stomas newydd neu unigolion sydd â stomas ers tro ond na allant reoli eu gofal stoma eu hunain.
Mae’r uned hon yn berthnasol mewn amrywiaeth o amgylcheddau gofal gan gynnwys ysbytai, cartrefi gofal, cartref yr unigolyn ei hun neu amgylcheddau cymunedol eraill megis meddygfeydd.

CANLYNIADAU DYSGU

Bydd y myfyriwr yn

MEINI PRAWF ASESU

Mae’r myfyriwr yn gallu
1. Deall y ddeddfwriaeth, y canllawiau cenedlaethol, y polisïau, y protocolau a’r ymarfer da cyfredol sy’n gysylltiedig ag asesu ar gyfer gofal stoma.
1.1Crynhoi’r ddeddfwriaeth, y canllawiau cenedlaethol, y polisïau, y protocolau a’r ymarfer da cyfredol sy’n gysylltiedig ag ymgymryd â gofal stoma.
1.2 Egluro ei gyfrifoldebau a'i atebolrwydd ei hun mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth, y canllawiau cenedlaethol, y polisïau a’r protocolau sefydliadol cyfredol sy'n effeithio ar ymarfer gwaith wrth gyflawni gofal stoma.
2. Deall yr anatomi a’r ffisioleg sy’n gysylltiedig â chyflyrau sy’n galw am ofal stoma.
2.1Disgrifio’r rhesymau pam fydd stoma yn cael ei ddefnyddio.
2.2 Disgrifio’r anatomi mewn perthynas â lleoliad, swyddogaeth a’r rhesymau dros golostomïau, cwndidau ilëol a neffrostomi.
2.3 Disgrifio canlyniadau posibl halogiad yn systemau draenio’r stoma.
2.4 Disgrifio effeithiau deiet a symudedd ar weithrediad stoma.
3. Gallu paratoi unigolion ar gyfer gofal stoma.
3.1Cadarnhau pwy yw’r unigolyn a chael caniatâd dilys.
3.2 Cyfleu gwybodaeth mewn ffordd sy’n sensitif i gredoau personol a dewis personol yr unigolyn.
3.3 Cyflawni archwiliadau paratoi yn unol â chynllun gofal yr unigolyn.
3.4 Defnyddio rhagofalon safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau.
3.5 Gweithredu mesurau iechyd a diogelwch sy’n berthnasol i’r driniaeth a’r amgylchedd.
3.6 Paratoi cyfarpar a deunyddiau ar gyfer gofal stoma fel y rhagnodir/manylir yng nghynllun gofal yr unigolyn.
4. Gallu cyflawni gofal stoma ar gyfer unigolion.
4.1Disgrifio’r ffactorau a fydd yn effeithio ar lefel y cymorth y mae ei angen.
4.2 Cytuno ar lefel y gefnogaeth y mae ei hangen gyda’r unigolyn.
4.3 Dangos technegau i gyflawni gofal stoma yn unol â pholisi a phrotocol lleol.
4.4 Egluro’r camau i’w cymryd os yw’n ymddangos bod y cyfarpar gofal stoma yn amhriodol neu’n anaddas.
4.5 Helpu unigolion i ddewis a bwyta ac yfed bwyd a diod.
4.6 Helpu unigolion i gymryd unrhyw feddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn i gynnal gweithrediad effeithiol y stoma.
4.7 Rhoi'r cyfle i unigolion waredu eu cyfarpar gofal stoma wedi'i ddefnyddio eu hunain.
4.8 Rhoi’r cyfle i unigolion gynnal eu glanweithdra personol eu hunain.
4.9 Darparu cefnogaeth weithredol i unigolion sy’n rheoli eu stoma eu hunain.
4.10 Gwaredu cyfarpar a dilladau budur yn unol â pholisi a phrotocol lleol.
5. Gallu monitro ac archwilio unigolion sy'n dilyn gofal stoma.
5.1Monitro cyflwr yr unigolyn drwy gydol y gofal stoma.
5.2 Gwirio am unrhyw effeithiau er gwaeth a chymhlethdodau posibl.
5.3 Monitro ac adrodd ar batrwm gweithrediad stoma’r unigolyn, ansawdd gwastraff y corff ac unrhyw newidiadau.
5.4 Cofnodi canlyniadau’r gweithgarwch gofal stoma yn unol â pholisi a phrotocol lleol.
5.5 Adrodd am ganfyddiadau i gydweithwyr yn unol â pholisi a phrotocol lleol.

Dulliau Asesu:

Does dim dulliau asesu wedi cael eu rhagnodi ar gyfer yr uned hon. Dylai’r asesiadau a ddefnyddir fod yn addas i’r diben ar gyfer yr uned a’r dysgwyr, ac yn cynhyrchu tystiolaeth o gyrhaeddiad o safbwynt holl feini prawf yr asesiad.

Gwybodaeth Asesu:

Nid oes unrhyw wybodaeth asesu penodol sydd i'w defnyddio gyda'r uned hon.

Gwybodaeth ychwanegol:
Mae cefnogaeth weithredol yn annog unigolion i wneud cymaint â phosibl drostynt eu hunain er mwyn cynnal eu hannibyniaeth a’u gallu corfforol ac mae’n annog pobl ag anableddau i gynyddu eu potensial a’u hannibyniaeth eu hunain.

Os nad yw wedi’i nodi’n benodol yn y wybodaeth asesu, mae datganiad lluosog mewn unrhyw faen prawf asesu yn golygu o leiaf dau.

Mapiadau Eraill:

Amherthnasol.
N/A.

Gofynion Aseswyr:

Rhaid asesu’r uned hon yn unol ag Egwyddorion Asesu Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Sgiliau Iechyd