1. |
Deall y ddeddfwriaeth, y canllawiau cenedlaethol, y polisïau, y protocolau a’r ymarfer da cyfredol sy’n ymwneud â gofalu am unigolion sydd â chathetrau wrethrol. |
|
1.1 | Crynhoi’r ddeddfwriaeth, y canllawiau cenedlaethol, y polisïau, y protocolau a’r ymarfer da cyfredol sy’n ymwneud â gofalu am unigolion sydd â chathetrau wrethrol.
| 1.2 |
Egluro ei gyfrifoldebau a'i atebolrwydd ei hun mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth, y canllawiau cenedlaethol, y polisïau a’r protocolau sefydliadol cyfredol sy'n effeithio ar ymarfer gwaith wrth gyflawni gweithgareddau gofalu. |
|
2. |
Deall triniaeth gosod cathetr wrethrol. |
|
2.1 | Disgrifio anatomi a ffisioleg rhan isaf llwybr wrinol dynion a menywod.
| 2.2 |
Disgrifio swyddogaethau rhan isaf llwybr wrinol a statws ymataliaeth.
| 2.3 |
Disgrifio'r ffactorau achosol sy’n gallu pennu’r angen am gathetrau wrinol wrethrol.
| 2.4 |
Egluro effeithiau gosod cathetr wrethrol ar esmwythder ac urddas unigolyn.
| 2.5 |
Disgrifio pryd mae cynnal dadansoddiad, cael sampl cathetr o wrin (CSU) neu sgrinio am facteria sydd â mwy nag un ymwrthedd. |
|
3. |
Deall sut mae defnyddio cyfarpar gofalu am gathetr. |
|
3.1 | Disgrifio cyfarpar gofalu am gathetr mae modd ei ddefnyddio i ddiwallu anghenion penodol unigolion.
| 3.2 |
Disgrifio’r mathau o gyngor gofalu am gathetr i’w roi i unigolion.
| 3.3 |
Disgrifio’r arwyddion, y modd gweithredu, y sgil effeithiau, y rhybuddion, y gwrtharwyddion a’r cydadweithiau posibl sy’n gysylltiedig â gofal cathetr wrethrol.
| 3.4 |
Disgrifio’r feddyginiaeth, y gwrthfiotigau, yr asiantau anesthetig a'r atebion cysylltiedig a ddefnyddir ar gyfer unigolion sydd â chathetrau wrethrol. |
|
4. |
Gallu paratoi unigolion i ofalu am gathetrau wrethrol. |
|
4.1 | Cadarnhau pwy yw’r unigolyn a chael caniatâd dilys.
| 4.2 |
Cyfleu gwybodaeth gywir mewn ffordd sy’n sensitif i gredoau personol a dewis personol yr unigolyn.
| 4.3 |
Cytuno ar lefel y gefnogaeth y mae ei hangen gyda’r unigolyn.
| 4.4 |
Defnyddio rhagofalon safonol ar gyfer atal a rheoli heintiau.
| 4.5 |
Gweithredu mesurau iechyd a diogelwch sy’n berthnasol i’r driniaeth a’r amgylchedd.
| 4.6 |
Cyflawni archwiliadau paratoi yn unol â chynllun gofal yr unigolyn. |
|
5. |
Gallu gofalu am unigolion sydd â chathetrau wrethrol. |
|
5.1 | Cefnogi’r unigolyn a phobl berthnasol eraill i ofalu am gathetrau yn unol â pholisi a phrotocol lleol.
| 5.2 |
Defnyddio cyfarpar gofalu am gathetr yn unol â chyfarwyddyd y gwneuthurwr; gan roi gwybod am unrhyw nam/ddiffyg yn unol â pholisi a phrotocol lleol.
| 5.3 |
Defnyddio a storio cyfarpar a deunyddiau yn unol â pholisi a phrotocol lleol.
| 5.4 |
Gwaredu cyfarpar sy’n ymwneud â chathetrau yn unol â pholisi a phrotocol lleol.
| 5.5 |
Mesur a chofnodi unrhyw allbwn wrethrol o fewn polisi a phrotocol lleol. |
|
6. |
Gallu monitro ac archwilio unigolion sy'n mynd drwy ofal cathetr wrethrol. |
|
6.1 | Monitro cyflwr yr unigolyn am effeithiau er gwaeth a chymhlethdodau posibl, gan gymryd camau priodol yn unol â pholisi a phrotocol lleol.
| 6.2 |
Arsylwi a chynnal glanweithdra’r meatws.
| 6.3 |
Dod â defnyddio cathetr wrethrol i ben yn unol â pholisi a phrotocol lleol.
| 6.4 |
Cofnodi gwybodaeth yn y cofnodion gofal cathetr parhaus yn unol â pholisi a phrotocol lleol. |
|