Deall sut mae Cefnogi Unigolion gyda Chyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig

ID Uned:
CCY312
Cod Uned:
PT13CY023
Lefel:
Tri
Credydau:
3
Sector:
1.3
LDCS:
PT1
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH):
28
Dyddiad cofrestru diwethaf:
31/08/2023
Cyfyngiad oedran isaf:
16
CQFW logo

Pwrpas a Nod

Mae’r uned yn rhoi ystod o wybodaeth a dealltwriaeth am gyflyrau ar y sbectrwm awtistig ac yn archwilio damcaniaethau a chysyniadau am awtistiaeth. Mae’n galluogi dysgwyr i fyfyrio ynghylch effaith y cyflyrau hyn ar fywydau unigolion a’r bobl sy’n agos atynt, ac i ddysgu am arferion da mewn meysydd fel cyfathrebu a chefnogaeth

CANLYNIADAU DYSGU

Bydd y myfyriwr yn

MEINI PRAWF ASESU

Mae’r myfyriwr yn gallu
1. Deall beth yw prif nodweddion chyflyrau ar y sbectrwm awtistig
1.1Esbonio pam ei fod yn bwysig cydnabod bod gan bob unigolyn ar y sbectrwm awtistig ei alluoedd, anghenion, cryfderau, doniau a diddordebau ei hun
1.2Dadansoddi prif nodweddion diagnostig y cyflyrau ar y sbectrwm awtistig, a elwir yn gyffredin yn “driad o ddiffygion”
1.3Esbonio ystyr y term ‘sbectrwm’ mewn perthynas ag awtistiaeth drwy gyfeirio at y syniad o is-gyflyrau ac amrywiad unigol o fewn y sbectrwm awtistig
1.4Disgrifio'r anawsterau â’r synhwyrau a’r anawsterau canfyddiadol y mae unigolion â chyflwr ar y sbectrwm awtistig yn eu profi’n aml
1.5Disgrifio cyflyrau eraill y gellir eu cysylltu â’r sbectrwm awtistig
1.6Disgrifio sut mae galluoedd ieithyddol a deallusol yn amrywio rhwng unigolion ac is-grwpiau ar draws y sbectrwm
2. Deall sut gall cyflyrau ar y sbectrwm awtistig effeithio ar fywydau unigolion a’r bobl o’u cwmpas
2.1Disgrifio’r ffyrdd y gall awtistiaeth effeithio ar fywydau unigolion, eu rhieni/gofalwyr a’u brodyr a’u chwiorydd, a phobl eraill sy'n agos atynt, o ddydd i ddydd
2.2Esbonio sut gall cyflyrau ar y sbectrwm awtistig effeithio’n wahanol ar unigolion yn ôl ffactorau fel rhyw, ethnigrwydd, a’r amgylchedd cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol
2.3Esbonio sut gall safbwyntiau stereoteipiedig, gwahaniaethu a diffyg dealltwriaeth o gyflyrau ar y sbectrwm awtistig ychwanegu at yr anawsterau mae unigolion a’u teuluoedd yn eu profi'n barod
2.4Disgrifio ffyrdd o helpu unigolyn a/neu ei riant/gofalwr/brodyr a chwiorydd/partner i ddeall ei gyflwr ar y sbectrwm awtistig
3. Deall gwahanol ddamcaniaethau a chysyniadau am awtistiaeth
3.1Esbonio damcaniaethau am awtistiaeth sy’n gysylltiedig â:
 • swyddogaeth yr ymennydd a geneteg
 • seicoleg
3.2Esbonio pam fod gwahanol derminoleg yn cael ei defnyddio i ddisgrifio’r sbectrwm awtistig Disgrifio cryfderau a chyfyngiadau gwahanol fathau o derminoleg
3.3Esbonio cyfraniadau grwpiau hawliau awtistiaeth a goblygiadau eu barn o ran cefnogi unigolion sydd â chyflwr ar y sbectrwm awtistig
3.4Amlinellu pynciau llosg sy'n ymwneud â chwilio am ffyrdd o wella ac ymyriadau ar gyfer cyflyrau ar y sbectrwm awtistig ac ar gyfer diagnosis cyn-geni
3.5Esbonio pam ei fod yn bwysig ystyried gwahaniaethau o ran barn am yr hyn sy'n bwysig mewn bywyd, a sut y gall hyn fod yn arbennig o bwysig wrth gefnogi unigolion ar y sbectrwm awtistig
4. Deall y fframwaith cyfreithiol a pholisi sy’n sail i arferion da o ran cefnogi unigolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig
4.1Nodi pa ddeddfwriaeth a pholisi a chanllaw lleol a chenedlaethol sy'n bodoli
4.2Esbonio i ba unigolion neu sefyllfaoedd y mae’r ddeddfwriaeth, y polisi a’r canllaw lleol a chenedlaethol yn berthnasol
4.3Esbonio sut gall y ffyrdd mae deddfwriaeth a pholisi a chanllaw lleol a chenedlaethol yn berthnasol i unigolion ar y sbectrwm awtistig amrywio yn ôl eu hanghenion penodol.
5. Deall sut mae cyfathrebu’n effeithiol ag unigolion gyda chyflwr ar y sbectrwm awtistig
5.1Rhoi enghreifftiau o sut gall “ymddygiad heriol” fod yn ffordd o fynegi emosiynau lle mae gwahaniaethau o ran cyfathrebu
5.2Disgrifio dulliau a systemau sy’n cael eu defnyddio i ddatblygu a chefnogi ffordd yr unigolyn o gyfathrebu
5.3Esbonio sut i sicrhau bod dulliau cyfathrebu mor effeithiol â phosibl drwy addasu eich arddull cyfathrebu geiriol a di-eiriau eich hun
6. Deall sut mae cefnogi unigolion gyda chyflwr ar y sbectrwm awtistig
6.1Esbonio pam ei bod yn bwysig sefydlu cynllun sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n darparu ar gyfer dewisiadau ac anghenion penodol yr unigolyn
6.2Esbonio pam ei bod yn bwysig ymgynghori â theuluoedd/rhieni/gofalwyr wrth ddarparu cymorth a chynllun sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
6.3Disgrifio’r gwahanol dechnegau a dulliau o gefnogi unigolion gyda chyflwr ar y sbectrwm awtistig i ddysgu a datblygu sgiliau newydd
6.4Esbonio sut i osgoi gorlwytho’r synhwyrau, neu sut i ysgogi’r synhwyrau yn amlach, drwy addasu’r amgylchedd ffisegol a synhwyraidd

Dulliau Asesu:

Does dim dulliau asesu wedi cael eu rhagnodi ar gyfer yr uned hon. Dylai’r asesiadau a ddefnyddir fod yn addas i’r diben ar gyfer yr uned a’r dysgwyr, ac yn cynhyrchu tystiolaeth o gyrhaeddiad o safbwynt holl feini prawf yr asesiad.

Gwybodaeth Asesu:

Nid oes unrhyw wybodaeth asesu penodol sydd i'w defnyddio gyda'r uned hon.

Os nad yw wedi’i nodi’n benodol yn y wybodaeth asesu, mae datganiad lluosog mewn unrhyw faen prawf asesu yn golygu o leiaf dau.

Mapiadau Eraill:

N/A

Gofynion Aseswyr:

Rhaid asesu’r uned hon yn unol ag Egwyddorion Asesu FfCCh ar gyfer Sgiliau Gofal a Datblygu.

Gwybodaeth ychwanegol:
Y derminoleg a ddewiswyd i ddisgrifio’r Sbectrwm Awtistig yn yr uned hon yw Cyflwr ar y Sbectrwm Awtistig (ASC), un o blith sawl defnydd gwahanol yn y maes hwn. Mewn lleoliadau diagnosis a lleoliadau clinigol ac ymchwil eraill, y term mwyaf cyffredin yw Anhwylderau Sbectrwm Awtistiaeth (ASDs). Mae defnyddiau eraill, fel ‘awtistiaeth’ fel term cyffredinol ar gyfer y sbectrwm, hefyd yn cael eu defnyddio’n aml yn anffurfiol a chan sefydliadau fel y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol. Mae’r term Cyflwr ar y Sbectrwm Awtistig wedi’i ddewis yma gan ei fod yn ymadrodd mwy niwtral ac yn llai meddygol nag Anhwylderau Sbectrwm Awtistiaeth yn y cyd-destun hwn.

Unigolyn ydy rhywun y mae angen gofal neu gymorth arno

Mae dewisiadau ac anghenion penodol – yn cynnwys: arferion, amserlenni a strwythurau; lefelau ysgogi’r synhwyrau; diddordebau neu ddefodau arbennig, ac ati

Gall niwed gynnwys: rhywun yn manteisio ar rywun arall oherwydd diffyg dealltwriaeth gymdeithasol; torri’r gyfraith heb sylweddoli ei fod ef/hi yn gwneud rhywbeth niweidiol; camdriniaeth; gorbryder eithafol, ac ati