| 1. |
Deall eich cyfrifoldebau eich hun, a chyfrifoldebau pobl eraill, mewn perthynas ag iechyd a diogelwch. |
|
| 1.1 | Nodi deddfwriaeth sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch mewn lleoliad gwaith iechyd neu ofal cymdeithasol. | | 1.2 | Esbonio prif bwyntiau’r polisïau a’r gweithdrefnau iechyd a diogelwch y cytunwyd arnynt gyda’r cyflogwr. | | 1.3 | Dadansoddi prif gyfrifoldebau iechyd a diogelwch: - chi eich hun
- y cyflogwr neu’r rheolwr
- eraill yn y lleoliad gwaith.
| | 1.4 | Nodi tasgau penodol yn y lleoliad gwaith na ddylid eu gwneud heb gael hyfforddiant arbennig. |
|
| 2. |
Gallu cyflawni eich cyfrifoldebau eich hun o ran iechyd a diogelwch. |
|
| 2.1 | Defnyddio polisïau a gweithdrefnau neu ffyrdd eraill o weithio y cytunwyd arnynt sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch. | | 2.2 | Cefnogi pobl eraill i ddeall a dilyn arferion diogel. | | 2.3 | Monitro a rhoi gwybod am risgiau iechyd a diogelwch posibl. | | 2.4 | Defnyddio asesiad risg mewn perthynas ag iechyd a diogelwch. | | 2.5 | Dangos ffyrdd o leihau risgiau a pheryglon posibl. | | 2.6 | Cael gafael ar wybodaeth neu gymorth ychwanegol mewn perthynas ag iechyd a diogelwch. |
|
| 3. |
Deall y gweithdrefnau ar gyfer ymateb i ddamweiniau a salwch sydyn. |
|
| 3.1 | Disgrifio’r gwahanol fathau o ddamweiniau a salwch sydyn sy’n gallu digwydd yn eich lleoliad gwaith. | | 3.2 | Esbonio’r gweithdrefnau i’w dilyn os bydd damwain neu salwch sydyn yn digwydd. |
|
| 4. |
Gallu lleihau lledaeniad heintiau. |
|
| 4.1 | Esbonio eich rôl eich hun o ran cefnogi pobl eraill i ddilyn arferion sy’n lleihau lledaeniad heintiau. | | 4.2 | Dangos y dull a argymhellir ar gyfer golchi dwylo. | | 4.3 | Dangos ffyrdd o sicrhau nad yw eich iechyd a’ch hylendid eich hun yn peri risg i unigolyn neu i bobl eraill yn y gwaith. |
|
| 5. |
Gallu symud a thrin cyfarpar a gwrthrychau eraill yn ddiogel. |
|
| 5.1 | Esbonio prif bwyntiau deddfwriaeth sy’n ymwneud â symud a chodi a chario. | | 5.2 | Esbonio egwyddorion ar gyfer symud a chodi a chario yn ddiogel. | | 5.3 | Symud a chodi a chario cyfarpar a gwrthrychau eraill yn ddiogel. |
|
| 6. |
Gallu trin deunyddiau a sylweddau peryglus. |
|
| 6.1 | Disgrifio mathau o sylweddau peryglus y gellir dod o hyd iddynt yn y lleoliad gwaith | | 6.2 | Dangos arferion diogel ar gyfer: - storio sylweddau peryglus
- defnyddio sylweddau peryglus
- cael gwared ar ddeunyddiau a sylweddau peryglus.
|
|
| 7. |
Gallu hyrwyddo diogelwch tân yn y gweithle. |
|
| 7.1 | Disgrifio arferion sy’n atal tân rhag: | | 7.2 | Dangos mesurau sy'n atal tân rhag cynnau. | | 7.3 | Esbonio’r gweithdrefnau brys i’w dilyn os bydd tân yn y lleoliad gwaith. | | 7.4 | Sicrhau bod llwybrau gadael clir yn cael eu cynnal bob amser. |
|
| 8. |
Gallu defnyddio mesurau diogelwch yn y lleoliad gwaith. |
|
| 8.1 | Dangos y defnydd o weithdrefnau y cytunwyd arnynt ar gyfer gwirio pwy yw’r unigolion sy’n gofyn am fynediad at: | | 8.2 | Dangos sut y defnyddir mesurau i sicrhau eich diogelwch eich hun a diogelwch pobl eraill yn y lleoliad gwaith. | | 8.3 | Esbonio pwysigrwydd sicrhau bod pobl eraill yn gwybod ble’r ydych chi. |
|
| 9. |
Disgrifio arwyddion cyffredin a dangosyddion straen. Disgrifio arwyddion sy’n dangos straen. Dadansoddi ffactorau sy’n tueddu i achosi straen. Cymharu strategaethau ar gyfer rheoli straen. |
|
| 9.1 | Disgrifio arwyddion cyffredin a dangosyddion straen. | | 9.2 | Disgrifio arwyddion sy’n dangos straen. | | 9.3 | Dadansoddi ffactorau sy’n tueddu i achosi straen. | | 9.4 | Cymharu strategaethau ar gyfer rheoli straen. |
|