Cefnogi Unigolion ar Ddiwedd eu Hoes

ID Uned:
CCY277
Cod Uned:
PT13CY014
Lefel:
Tri
Credydau:
7
Sector:
1.3
LDCS:
PT1
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH):
53
Dyddiad cofrestru diwethaf:
30/11/2028
Cyfyngiad oedran isaf:
16
Access to HE logo Cym

Pwrpas a Nod

Mae’r uned hon wedi’i hanelu at y rheini sy’n gweithio mewn amrywiaeth eang o leoliadau. Mae'n rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar y dysgwr i gefnogi gofal diwedd oes.

CANLYNIADAU DYSGU

Bydd y myfyriwr yn

MEINI PRAWF ASESU

Mae’r myfyriwr yn gallu
1. Deall gofynion deddfwriaeth a dulliau gweithio y cytunwyd arnynt i amddiffyn hawliau unigolion ar ddiwedd eu hoes.
1.1Amlinellu gofynion cyfreithiol a dulliau gweithio y cytunwyd arnynt sydd wedi'u cynllunio i amddiffyn hawliau unigolion mewn gofal diwedd oes.
1.2 Esbonio sut mae deddfwriaeth sydd wedi’i chynllunio i ddiogelu hawliau unigolion mewn gofal diwedd oes yn berthnasol i’w rôl ei hun.
2. Deall ffactorau sy’n effeithio ar ofal diwedd oes.
2.1Amlinellu pwyntiau allweddol damcaniaethau am y prosesau emosiynol a seicolegol y gall unigolion a phobl allweddol eu profi wrth ymdrin â marwolaeth.
2.2 Esbonio sut mae credoau, crefydd a diwylliant unigolion a phobl allweddol yn dylanwadu ar ofal diwedd oes.
2.3 Esbonio pam y gallai pobl allweddol fod â rôl unigryw yng ngofal diwedd oes unigolyn.
2.4 Esbonio pam nad yw cymorth ar gyfer iechyd a llesiant unigolyn bob amser yn berthnasol i’w gyflwr terfynol.
3. Deall cynllunio gofal ymlaen llaw mewn perthynas â gofal diwedd oes.
3.1Disgrifio’r manteision i unigolyn o gael cymaint o reolaeth â phosibl dros ei ofal diwedd oes.
3.2 Esbonio pwrpas cynllunio gofal ymlaen llaw mewn perthynas â gofal diwedd oes.
3.3 Disgrifio ei rôl ei hun o ran cefnogi a chofnodi penderfyniadau am gynllun gofal ymlaen llaw.
3.4 Amlinellu materion moesegol a chyfreithiol a allai godi mewn perthynas â chynllunio gofal ymlaen llaw.
4. Gallu darparu cymorth i unigolion a phobl allweddol yn ystod gofal diwedd oes.
4.1Cefnogi'r unigolyn a phobl allweddol i archwilio eu meddyliau a'u teimladau am farwolaeth a marw.
4.2 Darparu cymorth i’r unigolyn a phobl allweddol sy’n parchu eu credoau, eu crefydd a’u diwylliant.
4.3 Dangos ffyrdd o helpu’r unigolyn i deimlo ei fod yn cael ei barchu a’i werthfawrogi drwy gydol y cyfnod diwedd oes.
4.4 Darparu gwybodaeth i’r unigolyn a/neu bobl allweddol am salwch yr unigolyn a’r cymorth sydd ar gael.
4.5 Rhoi enghreifftiau o sut y gellir gwella llesiant unigolyn drwy:
  • ffactorau amgylcheddol
  • ymryiadau anfeddygol
  • defnyddio cyfarpar a chymhorthion
  • therapïau amgen.
4.6 Helpu i weithio mewn partneriaeth â phobl allweddol i gefnogi llesiant yr unigolyn.
5. Deall sut i fynd i'r afael â materion sensitif mewn perthynas â gofal diwedd oes.
5.1Esbonio pwysigrwydd cofnodi sgyrsiau arwyddocaol yn ystod gofal diwedd oes.
5.2 Esbonio ffactorau sy'n dylanwadu ar bwy ddylai roi newyddion arwyddocaol i unigolyn neu bobl allweddol.
5.3 Disgrifio gwrthdaro a materion cyfreithiol neu foesegol a allai godi mewn perthynas â marwolaeth, marw neu ofal diwedd oes.
5.4 Dadansoddi ffyrdd o fynd i’r afael â gwrthdaro o’r fath.
6. Deall rôl sefydliadau a gwasanaethau cymorth sydd ar gael i unigolion a phobl allweddol mewn perthynas â gofal diwedd oes.
6.1Disgrifio rôl sefydliadau cymorth a gwasanaethau arbenigol a allai gyfrannu at ofal diwedd oes.
6.2 Dadansoddi rôl a gwerth eiriolwr mewn perthynas â gofal diwedd oes.
6.3 Esbonio sut mae sefydlu pryd y gallai eiriolwr fod yn fuddiol.
6.4 Esbonio pam y gall cymorth ar gyfer anghenion ysbrydol fod yn arbennig o bwysig ar ddiwedd oes.
6.5 Disgrifio amrywiaeth o ffynonellau cymorth i fynd i’r afael ag anghenion ysbrydol.
7. Gallu cael gafael ar gymorth ar gyfer yr unigolyn neu bobl allweddol gan y tîm ehangach.
7.1Nodi pryd fyddai’r adeg gorau i gynnig cymorth gan aelodau eraill o’r tîm.
7.2 Cysylltu ag aelodau eraill o’r tîm i ddarparu cymorth penodol i’r unigolyn neu i bobl allweddol.
8. Gallu cefnogi unigolion drwy’r broses o farw.
8.1Cyflawni ei rôl ei hun yng ngofal yr unigolyn.
8.2 Helpu i fynd i’r afael ag unrhyw drallod sy’n cael ei brofi gan yr unigolyn yn brydlon ac mewn ffyrdd y cytunwyd arnynt.
8.3 Addasu cymorth i adlewyrchu anghenion neu ymatebion newidiol yr unigolyn.
8.4 Asesu pryd mae angen i unigolyn a phobl allweddol fod ar eu pen eu hunain.
9. Gallu gweithredu ar ôl marwolaeth unigolion.
9.1Esbonio pam ei bod yn bwysig gwybod am ddymuniadau unigolyn ar gyfer eu gofal ar ôl marwolaeth.
9.2 Cymryd camau yn syth ar ôl marwolaeth sy’n parchu dymuniadau’r unigolyn ac yn dilyn ffyrdd o weithio y cytunwyd arnynt.
9.3 Disgrifio ffyrdd o gefnogi pobl allweddol yn syth ar ôl marwolaeth unigolyn.
10. Gallu rheoli eu teimladau eu hunain mewn perthynas ag unigolion sy’n marw, neu farwolaeth unigolion.
10.1Nodi ffyrdd o reoli eu teimladau eu hunain mewn perthynas ag unigolion sy’n marw, neu farwolaeth unigolion.
10.2 Defnyddio systemau cymorth i ddelio â’ch teimladau eich hun mewn perthynas ag unigolion sy’n marw, neu farwolaeth unigolyn.

Dulliau Asesu:

Does dim dulliau asesu wedi cael eu rhagnodi ar gyfer yr uned hon. Dylai’r asesiadau a ddefnyddir fod yn addas i’r diben ar gyfer yr uned a’r dysgwyr, ac yn cynhyrchu tystiolaeth o gyrhaeddiad o safbwynt holl feini prawf yr asesiad.

Gwybodaeth Asesu:

Rhaid asesu deilliannau dysgu 4, 7, 8, 9 a 10 mewn amgylchedd gwaith go iawn ac mewn ffyrdd nad ydynt yn amharu ar ofal unigolyn ar ddiwedd oes.

Bydd Deddfwriaeth a ffyrdd o weithio y cytunwyd arnynt yn cynnwys polisïau a gweithdrefnau lle mae’r rhain yn berthnasol, a gallant ymwneud â’r canlynol:

  • cydraddoldeb, amrywiaeth a gwahaniaethu
  • diogelu data, cofnodi, adrodd, cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth
  • gwneud ewyllys ac ewyllys fyw
  • delio ag eiddo personol pobl sydd wedi marw
  • tynnu cyfarpar meddygol oddi ar bobl sydd wedi marw
  • ymwelwyr
  • diogelu oedolion agored i niwed.
Gallai systemau ar gyfer cynllunio gofal uwch gynnwys y canlynol:
  • Fframwaith Safon Aur
  • Blaenoriaethau sy’n cael eu ffafrio mewn gofal.
Mae unigolyn yn berson y mae angen gofal diwedd oes arno.

Gallpobl allweddol gynnwys y canlynol:
  • aelodau o’r teulu
  • ffrindiau
  • pobl eraill sy’n bwysig i lesiant yr unigolyn.
Gall sefydliadau cymorth a gwasanaethau arbenigol gynnwys y canlynol:
  • cartrefi nyrsio a chartrefi gofal
  • gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol
  • gwasanaethau cartref, seibiant a dydd
  • cyfarwyddwyr angladdau.
Gallaelodau eraill o’r tîm gynnwys y canlynol:
  • rheolwr llinell
  • cynrychiolwyr crefyddol
  • nyrs arbenigol
  • therapydd galwedigaethol neu therapydd arall
  • gweithiwr cymdeithasol
  • pobl allweddol.
Gall y camau gynnwys y canlynol:
  • ymweld â chorff yr unigolyn sydd wedi marw
  • rhoi gwybod am y farwolaeth drwy sianeli y cytunwyd arnynt
  • rhoi gwybod i bobl allweddol.
Bydd ffyrdd o weithio y cytunwyd arnynt yn cynnwys polisïau a gweithdrefnau lle mae’r rhain yn bodoli.

Os nad yw wedi’i nodi’n benodol yn y wybodaeth asesu, mae datganiad lluosog mewn unrhyw faen prawf asesu yn golygu o leiaf dau.

Mapiadau Eraill:

Mapio i’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG.

Cyfeirnod y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol: HSC385

Gofynion Aseswyr:

Dylid asesu'r uned hon yn unol ag Egwyddorion Asesu QCF ar gyfer Sgiliau Gofal a Datblygu.