Rhoi Cymorth ar gyfer Cwsg

ID Uned:
CCY268
Cod Uned:
PT12CY053
Lefel:
Dau
Credydau:
2
Sector:
1.3
LDCS:
PT1
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH):
13
Dyddiad cofrestru diwethaf:
30/11/2028
Cyfyngiad oedran isaf:
16
Access to HE logo Cym

Pwrpas a Nod

Mae’r uned hon wedi’i hanelu at y rheini sy’n gweithio mewn amrywiaeth eang o leoliadau. Mae’n rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar y dysgwr i sefydlu amodau sy’n addas ar gyfer cwsg a chefnogi’r unigolyn i gysgu.

CANLYNIADAU DYSGU

Bydd y myfyriwr yn

MEINI PRAWF ASESU

Mae’r myfyriwr yn gallu
1. Deall pa mor bwysig yw cwsg.
1.1Esbonio sut mae cwsg yn cyfrannu at lesiant unigolyn.
1.2 Nodi rhesymau pam y gallai unigolyn ei chael hi’n anodd cysgu.
1.3 Disgrifio’r effeithiau tymor byr a thymor hir posibl ar unigolyn nad yw’n gallu cysgu’n dda.
2. Gallu sefydlu amodau addas ar gyfer cysgu.
2.1Disgrifio amodau sy’n debygol o fod yn addas ar gyfer cysgu.
2.2 Lleihau agweddau ar yr amgylchedd sy’n debygol o wneud cysgu’n anodd i unigolyn.
2.3 Addasu eich ymddygiad eich hun i gyfrannu at amgylchedd tawel.
2.4 Disgrifio’r camau i’w cymryd os yw ymddygiad neu symudiad pobl eraill yn effeithio ar allu unigolyn i gysgu.
3. Gallu helpu unigolyn i gysgu.
3.1Esbonio pa mor bwysig yw dull cyfannol o helpu pobl i gysgu.
3.2 Annog yr unigolyn i gyfleu’r gefnogaeth sydd ei hangen arno i gysgu.
3.3 Helpu’r unigolyn i ddod o hyd i le i gysgu sy'n cyd-fynd â'i gynllun gofal.
3.4 Cefnogi’r unigolyn i ddefnyddio cymhorthion cysgu mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu’r cynllun gofal ac yn dilyn y ffyrdd o weithio y cytunwyd arnynt.
4. Gallu monitro cwsg.
4.1Sefydlu sut bydd cwsg yn cael ei fonitro gyda’r unigolyn a phobl eraill.
4.2 Cofnodi arsylwadau y cytunwyd arnynt sy’n ymwneud â chwsg yr unigolyn a’r cymorth a roddwyd.
5. Gwybod sut mae cael gafael ar wybodaeth a chyngor am anawsterau cysgu.
5.1Disgrifio sefyllfaoedd lle byddai angen cymorth neu wybodaeth ychwanegol am gwsg.
5.2 Esbonio sut mae cael gafael ar wybodaeth a chymorth ychwanegol.

Dulliau Asesu:

Does dim dulliau asesu wedi cael eu rhagnodi ar gyfer yr uned hon. Dylai’r asesiadau a ddefnyddir fod yn addas i’r diben ar gyfer yr uned a’r dysgwyr, ac yn cynhyrchu tystiolaeth o gyrhaeddiad o safbwynt holl feini prawf yr asesiad.

Gwybodaeth Asesu:

Rhaid asesu canlyniadau dysgu 2,3 a 4 mewn amgylchedd gwaith go iawn.

Mae unigolyn yn golygu rhywun y mae angen gofal neu gefnogaeth arno.

Byddffyrdd o weithio y cytunwyd arnynt yn cynnwys polisïau a gweithdrefnau, lle mae’r rhain yn bodoli.
Gall
pobl eraill gynnwys y canlynol:

  • teulu
  • ffrindiau
  • eiriolwyr
  • rheolwr llinell
  • gweithwyr iechyd proffesiynol
  • pobl eraill sy’n bwysig i lesiant yr unigolyn.

Os nad yw wedi’i nodi’n benodol yn y wybodaeth asesu, mae datganiad lluosog mewn unrhyw faen prawf asesu yn golygu o leiaf dau.

Mapiadau Eraill:

Mapping to National Occupational Standards (NOS) and the Knowledge and Skills Framework(KSF) for the NHS.

NOS ref: HSC216

Gofynion Aseswyr:

Rhaid asesu’r uned hon yn unol ag Egwyddorion Asesu FfCCh ar gyfer Sgiliau Gofal a Datblygu.