Cyflwyniad i Ymwybyddiaeth o Nam ar y Synhwyrau

ID Uned:
CCY237
Cod Uned:
PT12CY030
Lefel:
Dau
Credydau:
2
Sector:
1.3
LDCS:
PT1
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH):
16
Dyddiad cofrestru diwethaf:
31/08/2023
Cyfyngiad oedran isaf:
16
CQFW logo

Pwrpas a Nod

Pwrpas yr uned hon yw rhoi'r wybodaeth gyflwyniadol i ddysgwr am nam ar y synhwyrau.

CANLYNIADAU DYSGU

Bydd y myfyriwr yn

MEINI PRAWF ASESU

Mae’r myfyriwr yn gallu
1. Deall y ffactorau sy’n effeithio ar unigolyn sydd â nam ar eu synhwyrau a’r camau y gellir eu cymryd i oresgyn y rhain.
1.1Disgrifio sut mae amrywiaeth o ffactorau’n cael effaith negyddol a chadarnhaol ar unigolion sydd â nam ar eu synhwyrau.
1.2Nodi camau y gellir eu cymryd i oresgyn ffactorau sy’n cael effaith negyddol ar unigolion sydd â nam ar eu synhwyrau.
1.3Esbonio sut mae agweddau a chredoau yn gallu effeithio ar unigolion sydd â nam ar eu synhwyrau.
1.4Nodi camau y gellid eu cymryd i oresgyn agweddau a chredoau sy’n anablu.
2. Deall pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol ar gyfer unigolion sydd â nam ar eu synhwyrau.
2.1Amlinellu beth sydd angen ei ystyried wrth gyfathrebu ag unigolion sydd â’r canlynol:
  • colli golwg
  • colli clyw
  • dallfyddardod.
2.2Disgrifio sut y gall cyfathrebu effeithiol gael effaith gadarnhaol ar fywydau unigolion sydd â nam ar eu synhwyrau.
2.3Esbonio sut y gellir sicrhau bod gwybodaeth ar gael i unigolion sydd â nam ar eu synhwyrau.
3. Gwybod beth yw prif achosion a chyflyrau nam ar y synhwyrau.
3.1Amlinellu prif achosion nam ar y synhwyrau.
3.2Esbonio'r gwahaniaeth rhwng nam cynhenid a chaffaeledig ar y synhwyrau.
3.3Nodi pa ganran o’r boblogaeth gyffredinol sy’n debygol o fod â nam ar ei synhwyrau.
4. Gwybod sut i adnabod pan fydd unigolyn yn colli ei olwg a / neu ei glyw.
4.1Amlinellu dangosyddion ac arwyddion:
  • colli golwg
  • dallfyddardod
  • colli clyw.
4.2Esbonio lle gellir dod o hyd i gyngor a chymorth ychwanegol mewn perthynas â nam ar y synhwyrau.
5. Gwybod sut mae rhoi gwybod am bryderon am nam ar y synhwyrau.
5.1Disgrifio i bwy a sut y gellir rhoi gwybod am bryderon am golli golwg a / neu glyw.

Dulliau Asesu:

Does dim dulliau asesu wedi cael eu rhagnodi ar gyfer yr uned hon. Dylai’r asesiadau a ddefnyddir fod yn addas i’r diben ar gyfer yr uned a’r dysgwyr, ac yn cynhyrchu tystiolaeth o gyrhaeddiad o safbwynt holl feini prawf yr asesiad.

Gwybodaeth Asesu:

Nid oes unrhyw wybodaeth asesu penodol sydd i'w defnyddio gyda'r uned hon.

Os nad yw wedi’i nodi’n benodol yn y wybodaeth asesu, mae datganiad lluosog mewn unrhyw faen prawf asesu yn golygu o leiaf dau.

Mapiadau Eraill:

Mapping to National Occupational Standards (NOS) and the Knowledge and Skills Framework(KSF) for the NHS

NOS ref: Sensory Services 1,2,3,4,5,6,7,8,9,11

Gofynion Aseswyr:

Dylid asesu'r uned hon yn unol ag Egwyddorion Asesu Fframwaith Cymwysterau a Chredydau ar gyfer Sgiliau Gofal a Datblygu.

Gwybodaeth ychwanegol
Gallai nam ar y synhwyrau gynnwys:
Colli golwg
Colli clyw
Dallfyddardod

Gallai’r Ffactorau gynnwys:
Cyfathrebu
Gwybodaeth
Cynlluniau ac arferion cyfarwydd
Symudedd