Egwyddorion Diogelu ac Amddiffyn mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

ID Uned:
CCY220
Cod Uned:
PT12CY018
Lefel:
Dau
Credydau:
3
Sector:
1.3
LDCS:
PT1
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH):
26
Dyddiad cofrestru diwethaf:
30/09/2023
Cyfyngiad oedran isaf:
16
CQFW logo

Pwrpas a Nod

Mae’r uned hon wedi’i hanelu at y rheini sy’n gweithio mewn amrywiaeth eang o leoliadau. Mae’r uned hon yn cyflwyno maes pwysig diogelu unigolion rhag camdriniaeth. Mae’n nodi gwahanol fathau o gam-drin a’r arwyddion a’r symptomau a allai awgrymu bod cam-drin yn digwydd. Mae’n ystyried pryd y gallai unigolion fod yn arbennig o agored i gael eu cam-drin a beth y mae’n rhaid i ddysgwr ei wneud os oes amheuaeth neu honiad o gam-drin.

CANLYNIADAU DYSGU

Bydd y myfyriwr yn

MEINI PRAWF ASESU

Mae’r myfyriwr yn gallu
1. Gwybod sut i adnabod arwyddion o gam-drin.
1.1Diffinio’r mathau canlynol o gam-drin:
  • Cam-drin corfforol
  • Cam-drin rhywiol
  • Cam-drin emosiynol/seicolegol
  • Cam-drin ariannol
  • Cam-drin sefydliadol
  • Hunan-esgeuluso
  • Esgeulustod gan eraill.
1.2Nodi’r arwyddion a/neu’r symptomau sy’n gysylltiedig â phob math o gam-drin.
1.3Disgrifio ffactorau a allai gyfrannu at sicrhau bod unigolyn yn fwy agored i gael eu cam-drin.
2. Gwybod sut i ymateb i amheuaeth o gam-drin neu gam-drin honedig.
2.1Esbonio'r camau i'w cymryd os oes amheuaeth bod unigolyn yn cael eu cam-drin.
2.2Esbonio'r camau i'w cymryd os bydd unigolyn yn honni eu bod yn cael eu cam-drin.
2.3Nodi ffyrdd o sicrhau bod tystiolaeth o gam-drin yn cael ei chadw.
3. Deall cyd-destun cenedlaethol a lleol diogelu ac amddiffyn rhag camdriniaeth.
3.1Nodi polisïau cenedlaethol a systemau lleol sy’n ymwneud â diogelu ac amddiffyn rhag camdriniaeth.
3.2Esbonio rôl gwahanol asiantaethau o ran diogelu ac amddiffyn unigolion rhag cael eu cam-drin.
3.3Nodi adroddiadau ar fethiannau difrifol i amddiffyn unigolion rhag cael eu cam-drin.
3.4Nodi ffynonellau gwybodaeth a chyngor am eu rôl eu hunain o ran diogelu ac amddiffyn unigolion rhag cael eu cam-drin.
4. Deall ffyrdd o leihau’r tebygolrwydd o gam-drin.
4.1Esbonio sut y gellir lleihau’r tebygolrwydd o gam-drin drwy:
  • weithio gyda gwerthoedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • annog cyfranogiad gweithredol
  • hyrwyddo dewis a hawliau.
4.2​Esbonio pwysigrwydd trefn gwyno hygyrch ar gyfer lleihau’r tebygolrwydd o gam-drin.
5. Gwybod sut i adnabod a rhoi gwybod am arferion anniogel.
5.1Disgrifio arferion anniogel a allai effeithio ar les unigolion.
5.2Esbonio'r camau i'w cymryd os oes arferion anniogel wedi cael eu nodi.
5.3Disgrifio’r camau i’w cymryd os oes amheuaeth o gam-drin neu arferion anniogel wedi’u cofnodi ond nad oes dim wedi’i wneud mewn ymateb.

Dulliau Asesu:

Does dim dulliau asesu wedi cael eu rhagnodi ar gyfer yr uned hon. Dylai’r asesiadau a ddefnyddir fod yn addas i’r diben ar gyfer yr uned a’r dysgwyr, ac yn cynhyrchu tystiolaeth o gyrhaeddiad o safbwynt holl feini prawf yr asesiad.

Gwybodaeth Asesu:

An individual will usually mean the person supported by the learner but may include those for whom there is no formal duty of care.

Factors may include:

  • a setting or situation
  • the individual.
The actions to take constitute the learner’s responsibilities in responding to allegations or suspicions of abuse. They include actions to take if the allegation or suspicion implicates:
  • a colleague
  • someone in the individual’s personal network
  • the learner
  • the learner’s line manager
  • others.
A setting where there is no formal duty of care includes adult health or social care settings.

Local systems may include:
  • employer/organisational policies and procedures
  • multi-agency adult protection arrangements for a locality.
Person centred values include:
  • individuality
  • rights
  • choice
  • privacy
  • independence
  • dignity
  • respect
  • partnership.
Active participation is a way of working that recognises an individual’s right to participate in the activities and relationships of everyday life as independently as possible; the individual is regarded as an active partner in their own care or support, rather than a passive recipient.

Unsafe practices may include:
  • poor working practices
  • resource difficulties
  • operational difficulties.

Os nad yw wedi’i nodi’n benodol yn y wybodaeth asesu, mae datganiad lluosog mewn unrhyw faen prawf asesu yn golygu o leiaf dau.

Mapiadau Eraill:

Mapio i’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) a Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau y GIG.

Cyfeirnod y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol: HSC 24 & HSC 240 Mae’r cynnwys yn ailymddangos yng ngofynion gwybodaeth HSC NOS drwyddo draw.

Gofynion Aseswyr:

Dylid asesu'r uned hon yn unol ag Egwyddorion Asesu QCF ar gyfer Sgiliau Gofal a Datblygu.

Gwybodaeth ychwanegol:
Fel arfer, bydd unigolyn yn golygu’r unigolyn sy’n cael ei gefnogi gan y dysgwr ond gall gynnwys y rheini nad oes dyletswydd gofal ffurfiol ar eu cyfer

Gall y ffactorau gynnwys:
• lleoliad neu sefyllfa
• yr unigolyn

Mae’r camau i’w cymryd yn cynnwys cyfrifoldebau’r dysgwr wrth ymateb i honiadau neu amheuon o gamdriniaeth. Maent yn cynnwys camau i’w cymryd os yw’r honiad neu’r amheuaeth yn ymwneud â:
• Chydweithiwr
• Rhywun yn rhwydwaith personol yr unigolyn
• Y dysgwr
• Rheolwr llinell y dysgwr
• Eraill

Mae lleoliad lle nad oes dyletswydd gofal ffurfiol yn cynnwys lleoliadau iechyd neu ofal cymdeithasol i oedolion.

Gall systemau lleol gynnwys:

  • polisïau a gweithdrefnau’r cyflogwr/sefydliad
  • trefniadau amddiffyn oedolion aml-asiantaeth ar gyfer ardal

Mae gwerthoedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cynnwys:
  • Unigolrwydd
  • Hawliau
  • Dewis
  • Preifatrwydd
  • Annibyniaeth
  • Urddas
  • Parch
  • Partneriaeth

Mae cyfranogiad gweithredol yn ffordd o weithio sy’n cydnabod hawl unigolyn i gymryd rhan yng ngweithgareddau a pherthnasau bywyd bob dydd mor annibynnol â phosibl; mae’r unigolyn yn cael ei ystyried yn bartner gweithredol yn ei ofal neu gymorth ei hun, yn hytrach nag yn dderbynnydd goddefol.

Gall arferion anniogel gynnwys:
  • arferion gweithio gwael
  • anawsterau o ran adnoddau
  • anawsterau gweithredol