Deall Profiadau Plant a Phobl Ifanc o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (TEMCDThRh)

ID Uned:
CDL554
Cod Uned:
PS23CY037
Lefel:
Tri
Credydau:
1
Sector:
1.3
LDCS:
PS24
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH):
6
Dyddiad cofrestru diwethaf:
31/07/2029
Cyfyngiad oedran isaf:
18
CQFW logo

Pwrpas a Nod

Mae’r uned hon wedi’i chynllunio i fodloni gofyniad y cwricwlwm i ddysgwyr Grwp 4 fel y’i nodir yng nghanllawiau statudol y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol o dan adran 15 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ac adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r uned hon yn codi ymwybyddiaeth dysgwr o brofiadau plant a phobl ifanc o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

CANLYNIADAU DYSGU

Bydd y myfyriwr yn

MEINI PRAWF ASESU

Mae’r myfyriwr yn gallu
1. Deall sut y gall plant a phobl ifanc brofi trais yn erbyn menywod, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol.
1.1Crynhoi sut y gall plant a phobl ifanc brofi TEMCDThRh.
1.2 Crynhoi effaith TEMCDThRh ar blant a phobl ifanc.
2. Deall sut i gynorthwyo plant a phobl ifanc yng nghyswllt datgelu.
2.1Egluro sut y mae plant a phobl ifanc yn datgelu TEMCDThRh.
2.2 Disgrifio gofynion statudol wrth ymateb i blant a phobl ifanc sy’n datgelu TEMCDThRh.
2.3 Egluro’i rôl a’i ffiniau ei hun yng nghyswllt datgelu achos o gam-drin plant.
3. Deall sut y mae gwasanaethau’n cefnogi anghenion plant a phobl ifanc y mae camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt.
3.1Egluro sut y mae gwasanaethau’n cefnogi anghenion plant a phobl ifanc y mae camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt.

Dulliau Asesu:

Does dim dulliau asesu wedi cael eu rhagnodi ar gyfer yr uned hon. Dylai’r asesiadau a ddefnyddir fod yn addas i’r diben ar gyfer yr uned a’r dysgwyr, ac yn cynhyrchu tystiolaeth o gyrhaeddiad o safbwynt holl feini prawf yr asesiad.

Gwybodaeth Asesu:

Gwybodaeth Asesu:
Y maes llafur

Uned codi ymwybyddiaeth yw hon. Rhaid i’r hyn a ddysgir gwmpasu:

AC 1.1
 

  • Profiad plant a phobl ifanc o gamdriniaeth ddomestig gan rieni.
  • Profiad pobl ifanc o fod yn ddioddefwyr uniongyrchol yn eu perthnasoedd personol.
  • Profiadau pobl ifanc sy’n cam-drin.
  • Camfanteisio’n rhywiol ar blant.
  • Cam-drin plant yn rhywiol.
  • Priodas dan orfod a thrais ar sail anrhydedd.
  • Anffurfio organau cenhedlu benywod.

AC 1.2
 
  • Effaith TEMCDThRh ar blant a phobl ifanc.

AC 2.1
 
  • Y gwahanol ffyrdd y gall plant a phobl ifanc ddatgelu.
  • Y rhwystrau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu wrth ddatgelu.
  • Gwahanol ffyrdd o alluogi plant a phobl ifanc i ddatgelu.

AC 2.2
 
  • Y gofynion statudol wrth ymateb i ddatgelu gan blant a phobl ifanc.

AC 2.3
 
  • Ffiniau ymarferwyr yng nghyswllt datgelu.

AC 3.1
 
  • Sut y mae cydweithredu amlasiantaethol yn cynorthwyo plant a phobl ifanc sydd wedi profi camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol.
  • Sut i weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc y mae camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt.
Asiantaethau lleol a chenedlaethol sy’n cynorthwyo plant a phobl ifanc y mae camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt.

Os nad yw wedi’i nodi’n benodol yn y wybodaeth asesu, mae datganiad lluosog mewn unrhyw faen prawf asesu yn golygu o leiaf dau.

ADCDF:

Gellir integreiddio’r themâu allweddol canlynol i’r uned hon


Iechyd

Mapiadau Eraill:

SFJAG4, SFJBG101, SFJB1401, SFJB1402, SFJGK511.

Gofynion Aseswyr:

Nid oes unrhyw wybodaeth ynghylch gofynion penodol ar gyfer aseswyr i’r uned hon. Dylai canolfannau ddewis aseswyr sydd wedi cael eu hyfforddi mewn asesu, ac sydd â chymhwysedd sy’n benodol i’r pwnc i asesu ar y lefel hon.