Siarad: Cynnal sgwrs ag ymwelwyr - Presennol (Uwch)

ID Uned:
BZW192
Cod Uned:
FN33CY402
Lefel:
Tri
Credydau:
1
Sector:
12.1
LDCS:
FN357
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH):
Dyddiad cofrestru diwethaf:
31/07/2016
CQFW logo

CANLYNIADAU DYSGU

Bydd y myfyriwr yn

MEINI PRAWF ASESU

Mae’r myfyriwr yn gallu
1. Paratoi cwestiynau addas ar gyfer holi grŵp o siaradwyr Cymraeg.
1.1Llunio cwestiynau amrywiol ac estynedig i holi siaradwyr Cymraeg ynglŷn â’u bywydau pob dydd a'u diddordebau.
1.2Defnyddio ystod helaeth o batrymau, amserau a geirfa.
2. Holi nifer o siaradwyr Cymraeg am eu bywydau pob dydd ac ymestyn y sgwrs.
2.1Sgwrsio'n estynedig ag o leiaf tri siaradwr Cymraeg gwahanol.
2.2Deall y siaradwyr Cymraeg yn ddidrafferth, ymateb yn estynedig a holi ymhellach yn fyrfyfyr.
2.3Cyfrannu'n llawn at y sgwrs trwy sôn am ei fywyd pob dydd ei hun yn estynedig.
2.4Amrywio'r amserau a'r patrymau'n briodol yn ôl y galw.

Dulliau Asesu:

  • Cwestiwn ac ateb llafar
  • Trafodaeth grwp
Does dim dulliau asesu wedi cael eu rhagnodi ar gyfer yr uned hon. Dylai’r asesiadau a ddefnyddir fod yn addas i’r diben ar gyfer yr uned a’r dysgwyr, ac yn cynhyrchu tystiolaeth o gyrhaeddiad o safbwynt holl feini prawf yr asesiad.

Gwybodaeth Asesu:

Nid oes unrhyw wybodaeth asesu penodol sydd i'w defnyddio gyda'r uned hon.

Os nad yw wedi’i nodi’n benodol yn y wybodaeth asesu, mae datganiad lluosog mewn unrhyw faen prawf asesu yn golygu o leiaf dau.

Gofynion Aseswyr:

Nid oes unrhyw wybodaeth ynghylch gofynion penodol ar gyfer aseswyr i’r uned hon. Dylai canolfannau ddewis aseswyr sydd wedi cael eu hyfforddi mewn asesu, ac sydd â chymhwysedd sy’n benodol i’r pwnc i asesu ar y lefel hon.