Mynegi a Deall Dymuniadau ac Anghenion gyda Phlant Bach (Sylfaen)

ID Uned:
BZE964
Cod Uned:
FN31CY095
Lefel:
Un
Credydau:
1
Sector:
12.1
LDCS:
FN357
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH):
Dyddiad cofrestru diwethaf:
31/07/2016
CQFW logo

CANLYNIADAU DYSGU

Bydd y myfyriwr yn

MEINI PRAWF ASESU

Mae’r myfyriwr yn gallu
1. Gofyn i blentyn a ydy e/hi eisiau rhywbeth penodol.
1.1Gofyn 'Wyt ti eisiau.......?' gan ddefnyddio geirfa addas ar gyfer cylch meithrin, e.e. diod, mynd i'r ty bach, mynd ar y llithren.
2. Gofyn i blant a ydyn nhw eisiau rhywbeth penodol.
2.1Dweud 'Dych chi eisiau ......?' gan ddefnyddio geirfa addas ar gyfer cylch meithrin.
3. Gofyn i blentyn fynegi dymuniad.
3.1Dweud 'Beth wyt ti eisiau?'.
4. Gofyn i blant fynegi dymuniad.
4.1Dweud 'Beth dych chi eisiau?'.
5. Deall ymateb y plentyn/plant i 3 a 4.
5.1Dweud ymadroddion 'Dw i eisiau ......' syml sydd yn codi'n aml o fewn cylch meithrin.
6. Mynegi'r angen i blentyn wneud rhywbeth penodol.
6.1Dweud 'Rhaid i ti ......' gan ddefnyddio geirfa addas ar gyfer cylch meithrin, e.e. olchi dy ddwylo, eistedd ar y mat, wrando ar y stori.
7. Mynegi'r angen i blant wneud rhywbeth penodol.
7.1Dweud 'Rhaid i chi ......' gan ddefnyddio geirfa addas ar gyfer cylch meithrin.

Dulliau Asesu:

Does dim dulliau asesu wedi cael eu rhagnodi ar gyfer yr uned hon. Dylai’r asesiadau a ddefnyddir fod yn addas i’r diben ar gyfer yr uned a’r dysgwyr, ac yn cynhyrchu tystiolaeth o gyrhaeddiad o safbwynt holl feini prawf yr asesiad.

Gwybodaeth Asesu:

Nid oes unrhyw wybodaeth asesu penodol sydd i'w defnyddio gyda'r uned hon.

Os nad yw wedi’i nodi’n benodol yn y wybodaeth asesu, mae datganiad lluosog mewn unrhyw faen prawf asesu yn golygu o leiaf dau.

Gofynion Aseswyr:

Nid oes unrhyw wybodaeth ynghylch gofynion penodol ar gyfer aseswyr i’r uned hon. Dylai canolfannau ddewis aseswyr sydd wedi cael eu hyfforddi mewn asesu, ac sydd â chymhwysedd sy’n benodol i’r pwnc i asesu ar y lefel hon.