Rydyn ni’n chwilio am staff!

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y swyddi gwag canlynol:

Ymgynghorydd Cefnogi Cwsmeriaid - Rôl Prentisiaeth​ 

Disgrifiad Swydd

Mae Agored Cymru yn gorff dyfarnu blaenllaw yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i rymuso dysgwyr a thrawsnewid bywydau trwy gymwysterau hyblyg, o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y dysgwr.  Rydym yn arbenigo mewn creu cyfleoedd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol - nid yn unig i unigolion ond i gymunedau ledled Cymru. 

A ydych chi’n angerddol am ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ac yn edrych i roi hwb i’ch gyrfa wrth ennill cymhwyster gwerthfawr a gydnabyddir yn genedlaethol?
Ymunwch â ni fel Prentis Ymgynghorydd Cefnogi Cwsmeriaid a dod yn rhan o sefydliad cefnogol, sy’n cael ei yrru gan bwrpas ac sy’n rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn. 

Yn y rôl prentisiaeth gyffrous hon byddwch yn rhan annatod o’n Tîm Cefnogi Cwsmeriaid sy’n darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gwsmeriaid a thimau mewnol.  Byddwch yn ennill profiad ymarferol mewn gwasanaeth cwsmeriaid, gweinyddiaeth a chyfathrebu digidol - a hynny i gyd wrth weithio tuag at gymhwyster Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes, a ddyfernir gan Agored Cymru.  

Drwy gydol eich prentisiaeth,  byddwch yn cael eich cefnogi’n llawn gyda hyfforddiant a mentora yn y gwaith.  Efallai y byddwch hefyd yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol - gan roi sylfaen gadarn o sgiliau trosglwyddadwy i chi ar gyfer eich dyfodol. 

Os ydych chi wedi’ch cymell i ennill cymhwyster cydnabyddedig a phrofiad yn y byd go iawn wrth weithio mewn sefydliad sy’n newid bywydau, gwnewch gais heddiw a chymerwch y cam cyntaf tuag at yrfa ystyrlon a boddhaus mewn cefnogi cwsmeriaid.  I fynegi diddordeb neu i ofyn am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â: Fiona.Dowd@agored.cymru 

 

Cyfarwyddwyr anweithredol 

Disgrifiad Swydd

Mae Agored Cymru yn gorff dyfarnu Cymreig ac yn fenter gymdeithasol sy’n ymrwymedig i helpu dysgwyr o bob oed a chefndir i wireddu eu potensial. Gyda dros 30 mlynedd o brofiad, rydym yn datblygu cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol — o Sgiliau Hanfodol i Gynaliadwyedd — gan wasanaethu ysgolion, sefydliadau addysg bellach, darparwyr hyfforddiant ac cyflogwyr ledled Cymru a thu hwnt.

Rydym yn falch o hyrwyddo dwyieithrwydd, tegwch ac effaith gymdeithasol drwy gefnogi’r iaith Gymraeg a gweledigaeth Llywodraeth Cymru o Gymru wirioneddol ddwyieithog.

Rydym yn chwilio am hyd at 3 Chyfarwyddwr Anweithredol newydd i gryfhau dyfnder ein Bwrdd ym meysydd addysg a strategaeth ddigidol. Os oes gennych wybodaeth a phrofiad o ysgolion, addysg bellach neu dechnolegau dysgu digidol, hoffem glywed gennych.

Disgwylir i chi fynychu a chyfrannu’n ystyrlon at bum cyfarfod bob blwyddyn ac ymuno ag un o’n prif bwyllgorau: y Pwyllgor Busnes, Cyllid a Phobl (BFPC) neu’r Pwyllgor Safonau Ansawdd a Rheoleiddio (QSRC).

Bydd eich rôl yn cynnwys cefnogi ac herio’r Prif Weithredwr a’r tîm arweinyddiaeth uwch yn adeiladol, arwain blaenoriaethau strategol, a monitro perfformiad y sefydliad. Mae ymrwymiad cryf i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a dwyieithrwydd yn hanfodol.

Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth lunio cyfeiriad strategol Agored Cymru, sicrhau llywodraethu da, ac arwain ein cenhadaeth i drawsnewid bywydau drwy addysg.

Ceisiadau ar agor nawr. I fynegi diddordeb neu i ofyn am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â: Fiona.Dowd@agored.cymru