Yn ystod y 1980au, dechreuwyd ymgyrch a gafodd ei gyrru gan oedolion er mwyn i addysg anffurfiol gael cydnabyddiaeth ac achrediad.

Daeth dros 5 miliwn o oedolion i gysylltiad â’r ymgyrch a fu’n ysgogiad i ffurfio dros 30 sefydliad gwahanol: Rhwydwaith y Coleg Agored yn ddiweddarach.

Cafodd y Rhwydwaith cyntaf ei ffurfio ym Manceinion ym 1981. Lai na deng mlynedd yn ddiweddarach, roedd y Rhwydwaith wedi cynyddu  i dros 30 sefydliad.

Ar yr un pryd, roedd yr ymgyrch ‘Mynediad i Addysg Uwch' yn mynd o nerth i nerth, a oedd yn cynnig llwybr gwahanol i’r brifysgol i oedolion heb gymwysterau mynediad ffurfiol.

Gyda’i gilydd, datblygodd y ddwy ymgyrch fecanweithiau cadarn i gydnabod llwyddiant dysgwyr ac i hwyluso datblygiad dysgwyr.

Rhwydwaith y Coleg Agored oedd y grŵp cyntaf o gyrff achredu i ddefnyddio credydau fel sail i’r system ddyfarniadau.

Yn 1986, sefydlwyd NOCN gan aelodau o Rwydwaith y Coleg Agored. Roedd hyn yn galluogi’r aelodau i weithio gyda’i gilydd, i drafod syniadau a phrofiadau ac i archwilio meysydd i’w datblygu

Yn 1989, ffurfiwyd Fforwm Mynediad Cymru, a gafodd y dasg o sefydlu a datblygu gweithgarwch Mynediad i Addysg Uwch yng Nghymru.

Yn 1990, Consortiwm Coleg Agored a Mynediad De Orllewin Cymru (SWWOCAC) oedd un o Rwydweithiau cyntaf y Coleg Agored i arwyddo’r Cytundeb Casglu a Throsglwyddo Credydau arloesol.

Roedd y cytundeb hwn yn galluogi dysgwyr i gael cydnabyddiaeth ffurfiol am eu dysgu drwy ddyfarnu credydau iddynt ac yn helpu i sicrhau bod modd trosglwyddo credydau rhwng sefydliadau.

Yn 1990, cafodd y credydau cyntaf eu dyfarnu i ddysgwyr yng Nghymru.

Erbyn 1994, roedd 3 Rhwydwaith y Coleg Agored yng Nghymru: De Orllewin Cymru; De Ddwyrain Cymru; a Gogledd Cymru. Unodd y Rhwydweithiau hyn yn 2005 i ffurfio Rhwydwaith Coleg Agored Cymru gan eu bod am gael eu cynnwys yn uniongyrchol mewn datblygiadau cenedlaethol ym maes addysg a hyfforddiant.

Yn 1994, gwnaeth Prosiect Credydau a Modiwleiddio Cymru gyflwyno system unedau (Credis yn ddiweddarach). Roedd hyn yn golygu y gallai sefydliadau addysg bellach ddefnyddio credydau i ategu cymwysterau eraill.

Yn 2003, cyflwynodd Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru (APADGOS) mewn partneriaeth â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Cymru.

Roedd y Fframwaith hwn yn darparu system achredu unedig ar gyfer cyrsiau addysg bellach, dysgu gydol oes a hyfforddiant galwedigaethol.

Roedd Rhwydwaith Coleg Agored Cymru a NOCN yn llofnodwyr gwreiddiol ar Gytundeb Cyffredinol Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Cymru.

Roedd y cytundeb hwn yn cefnogi Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Cymru. Cafodd y derminoleg ei ffurfioli ganddo, yn ogystal â’r manylebau dylunio a’r egwyddorion a’r systemau angenrheidiol er mwyn gwneud yn siŵr bod systemau sicrhau ansawdd priodol ar gael ar gyfer aseinio a dyfarnu credydau.

Roedd Rhwydwaith Coleg Agored Cymru hefyd yn asesu’r broses o ddefnyddio a  datblygu Safonau Credydau Datblygiad Cymunedol, Dysgu ar gyfer Troseddwyr a dysgu / llwybrau dysgu ffurfiol ac anffurfiol 14-19 oed.

Bu gan Rwydwaith Coleg Agored Cymru ran weithgar yn y rhaglen ddiwygio galwedigaethol a sefydlodd y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF) yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon.

Ym mis Awst 2009, newidiodd Rhwydwaith Coleg Agored Cymru ei enw i Agored Cymru, y sefydliad dyfarnu newydd cyntaf i gael ei gymeradwyo i weithredu yn y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau.

Heddiw, mae Agored Cymru yn creu cymwysterau ac unedau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol a’u hansawdd wedi ei sicrhau, ar draws ystod amrywiol o bynciau.

Caiff y sefydliad ei werthfawrogi’n fawr a’i barchu’n genedlaethol gan gyflogwyr am ei agwedd arloesol a hyblyg tuag at ddatblygu cymwysterau a sgiliau ar gyfer dysgwyr yng Nghymru.