Karen Balmer

Ymunodd Karen Balmer â’r Bwrdd yn 2014 fel aelod etholedig. Mae Karen hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid a Materion Cyffredinol.

Mae gan Karen, sy’n gyfrifydd cymwysedig, dros 25 mlynedd o brofiad o reolaeth ariannol, yn rhoi arweiniad ariannol gweithredol a strategol yn y sectorau cyhoeddus, preifat a dielw.

Penodwyd Karen yn Brif Weithredwr Groundwork Gogledd Cymru yn 2011, sef elusen amgylcheddol sy’n gweithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â’r materion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy’n wynebu cymunedau lleol.

Mae profiadau Karen o weithio yn yr amgylchedd hwn, ac yn arbennig, ym maes sgiliau a chyflogadwyedd, yn golygu bod ganddi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i gefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau strategol yn llwyddiannus.