Cerys Furlong
Ymunodd Cerys Furlong â’r Bwrdd yn 2013 fel aelod penodedig. Mae hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Ansawdd, Safonau a Rheoleiddio.
Arferai Cerys fod yn Gyfarwyddwr Rhaglen yn NIACE (Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion) Cymru. Roedd yn gyfrifol am bob agwedd ar ymchwil, datblygu ac eirioli ledled y sector ôl-16 yng Nghymru.
Yna, ymgymerodd â swydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Strategaeth Allanol) Prifysgol Agored Cymru.
Drwy gyflawni’r swyddogaethau hyn, mae Cerys wedi meithrin profiad helaeth o ehangu cyfranogiad, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyflogwyr a chydweithio â phartneriaethau allanol ledled Cymru.
Mae Cerys bellach wedi cael ei phenodi yn Gyfarwyddwr NIACE Cymru.
Bu hefyd yn Gynghorydd dros Gaerdydd ac yn Ymddiriedolwr Sefydliad Bevan, sef melin drafod annibynnol sy'n ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru.