Carys Swain
Ymunodd Carys Swain â’r Bwrdd yn 2017 fel aelod penodedig.
Mae gan Carys Swain dros 15 mlynedd o brofiad yn y sector Addysg Bellach. Bu’n Reolwr Maes Cwricwlm Sgiliau i Oedolion, ESOL a’r Gymraeg yng Ngholeg Penybont. Cyn hynny roedd hi’n Reolwr Cymraeg a dwyieithrwydd ac erbyn mae hi’n Reolwr Gwasanaethau Myfyrwyr.
Mae Carys yn gredwr cryf mewn Addysg Bellach a Dysgu Gydol Oes. Bu’n gyfrifol am ddatblygu a darparu prosiectau Dysgu Teuluol a chymuedol yn ardal Penybont ble caiff oedolion gyfle i ennill cymwysterau sgiliau hanfodol yn ogystal â dysgu sut i gefnogi eu plant yn yr ysgol.
Mae Carys wedi cyfrannu’n helaeth at y gwaith o ddatblygu cyfleoedd i bobl ifanc and staff ddefnyddio’r Gymraeg mewn Addysg Bellach. Mae hi’n aelod o Rwydwaith Hyrwyddwyr Dwyeithog ColegauCymru a Fforwm Trawsffiniol y De-ddwyrain. Bu Carys yn aelod o Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar y Strategaeth Addysg Gymraeg cyntaf Llywodraeth Cymru. Mae hi hefyd yn aelod o Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae gan Carys M.A. Rheolaeth ac Arweinyddiaeth (AB) yn ogystal â Thystysgrif Addysgu Ôl Radd. Mae hi’n aelod o Gyngor y Gweithlu Addysg. Mae hi hefyd yn Arweinydd Adran ac Aelwyd yr Urdd Porthcawl a sefydlwyd dros ddegawd yn ôl er mwyn rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc yr ardal gwrdd a chymdeithasu yn Gymraeg.