Mae’r cymwysterau a restrir yn y tabl isod bellach ar y cam gwerthuso.

Yn ystod y cam hwn o’r broses adolygu, byddwn yn casglu, gwerthuso a dadansoddi’r holl adborth a ddaeth i law.

Os ydych chi wedi cysylltu â ni i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y Grŵp Llywio, ar gyfer unrhyw un o’r cymwysterau a restrwyd, fe fyddwch chi eisoes wedi cael gohebiaeth mewn perthynas â hyn.

Mae’r cyfnod ymgynghori ar gyfer y cymwysterau hyn wedi dod i ben.

Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ar y dyddiad a restrir yn y tabl o dan y tab proses adolygu cymwysterau.

Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ar y dudalen Canlyniadau Cymwysterau ac ar bob un o dudalennau Cymwysterau perthnasol y wefan. 


Enw Cymhwyster

Cymwysterau Dyddiad Dechrau Ymgynghori
(dechrau’r mis)
dechrau gwerthusiad
(dechrau’r mis)
Cyhoeddi Canlyniadau (diwedd y mis)
Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Llysgenhadon Ifanc Iechyd Cyhoeddus Cymru Tachwedd 2025 Ionawr 2026 Ebrill 2026
Agored Cymru Dyfarniad Lefel 4 mewn Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol Rhagfyr 2025 Chwefror 2026 Mai 2026
Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel 4 mewn Rheoli Treftadaeth Ddiwylliannol Rhagfyr 2025 Chwefror 2026 Mai 2026
Agored Cymru Diploma Lefel 4 mewn Cefnogaeth Gofal Cymhleth Ionawr 2026 Mawrth 2026 Mehefin 2026