Mae’r tabl isod yn rhestru canlyniadau’r broses adolygu cymwysterau.

Dyrennir un o bedwar argymhelliad i’r cymwysterau:

1. Ymestyn: caiff dyddiad adolygu newydd ei bennu

2. Ymestyn / Newid: unwaith y bydd y diwygiadau perthnasol wedi’u gwneud, bydd y cymhwyster yn cael ei ailgyhoeddi a bydd dyddiad adolygu newydd yn cael ei bennu.

3. Tynnu'n ôl (heb unrhyw beth yn ei le): ni fydd unrhyw gofrestriadau newydd yn cael eu derbyn ar ôl y dyddiad tynnu’n ôl: gall dysgwyr gwblhau'r cymwysterau o fewn blwyddyn ar gyfer Dyfarniadau, o fewn 2 flynedd ar gyfer Tystysgrifau ac o fewn 3 blynedd ar gyfer Diplomâu.

4. Tynnu’n ôl (gyda rhywbeth yn ei le)​: bydd cymhwyster newydd yn cymryd lle’r cymhwyster a adolygwyd.  Ni fydd unrhyw gofrestriadau newydd yn cael eu derbyn ar ôl y dyddiad tynnu’n ôl ar gyfer hen fersiwn y cymhwyster: gall dysgwyr gwblhau'r cymwysterau o fewn blwyddyn ar gyfer Dyfarniadau, o fewn 2 flynedd ar gyfer Tystysgrifau ac o fewn 3 blynedd ar gyfer Diplomâu.

Bydd unrhyw gymhwyster sydd wedi cael ei dynnu’n ôl yn cael ei restru yma am flwyddyn ar ôl dyddiad cyhoeddi’r canlyniadau.

Bydd modd gweld cymwysterau y dyrannwyd categori dosbarthiad arall iddynt am 6 mis ar ôl dyddiad cyhoeddi'r canlyniadau.  Bydd y cymwysterau hyn yn cael eu harddangos ar dudalennau cymwysterau perthnasol eu gwefan a bydd y dyddiadau newydd a’r holl ddiwygiadau wedi’u hamlygu yn y canllaw ar gymwysterau - o dan ‘Diwygiadau’.

An error has occurred. This has been logged.