Andrew Cooksley
Cafodd Andrew Cooksley ei fagu yng Nghaerdydd, a gadawodd yr ysgol yn 15 oed heb ddim cymwysterau. Ar ôl rhoi cynnig ar nifer o swyddi a gweld ei obeithion yn cael eu chwalu dro ar ôl tro, yn 1988 – pan oedd Andrew ond yn 22 oed – sefydlodd ACT, sef darparwr hyfforddiant mwyaf blaenllaw Cymru.
O’r cychwyn cyntaf, gweledigaeth Andrew ar gyfer ACT oedd creu gwasanaeth sy’n canolbwyntio’n llwyr ar y cwsmer ac yn cynnig hyfforddiant o safon fyd-eang. Dim ond 12 aelod o staff oedd gan ACT ar y dechrau ond erbyn hyn mae’n cyflogi dros 300 o bobl ac yn hyfforddi hyd at 6,500 o ddysgwyr bob blwyddyn. Mae ganddo ddwy ganolfan yng Nghaerdydd a phedair arall yng Nghaerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, y Barri ac Aberdâr.
Mae Andrew yn credu mai ethos cadarnhaol y cwmni sy’n ei wneud yn wahanol i ddarparwyr hyfforddiant eraill. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu gan y ffaith mai ACT sydd wedi cael y contract hyfforddi unigol mwyaf gan Lywodraeth Cymru, sy’n arwain at drosiant o £25 miliwn i ACT.
Mae Andrew a’i uwch dîm rheoli yn gwneud yn siŵr bod ACT yn newid drwy’r amser, a bod staff yn cael digon o gyfrifoldeb a chyfle i ddiffinio eu rôl. Mae Andrew yn awyddus i sicrhau bod yr holl staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod ganddynt ran amlwg yn llwyddiant y cwmni. Cafodd hyn ei adlewyrchu’n ddiweddar gan y ffaith bod ACT wedi cael safon aur (yr uchaf bosib) ar gyfer safon Buddsoddwyr mewn Pobl - safon hynod uchelgeisiol y mae amryw yn dyheu amdani.