Brenig Davies
Ymunodd Brenig Davies â’r Bwrdd yn 2009 fel aelod penodedig. Mae hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Ansawdd, Safonau a Rheoleiddio.
Enillodd Brenig radd Baglor mewn Addysg dosbarth cyntaf o Brifysgol Caerdydd ym maes datblygu cwricwlwm addysg bellach. Yna, aeth ymlaen i ennill gradd Meistr mewn Addysg ym maes ymchwil i addysg a hyfforddiant galwedigaethol.
Mae Brenig wedi treulio blynyddoedd lawer yn gweithio ym myd addysg. Ar ôl cwblhau prentisiaeth cerbydau modur, bu'n gweithio fel technegydd yn Adran Ceir Modur Rolls Royce a bu’n addysgu astudiaethau cerbyd modur yng Ngholeg Merthyr Tudful.
Yn dilyn secondiad, bu Brenig yn gweithio fel tiwtor ym Mhrifysgol Caerdydd. Yna, bu'n ymwneud â Datblygu ac Adolygu'r Cwricwlwm Addysg Bellach am gyfnod cyn dychwelyd i Brifysgol Caerdydd fel tiwtor ar gyrsiau hyfforddi'r coleg ar gyfer athrawon addysg bellach a goruchwylwyr Rhaglenni Cyfleoedd i'r Ifanc.
Yn sgil hyn, fe'i penodwyd yn Is-Bennaeth Coleg Pontypridd. Yn ystod ei gyfnod yn y coleg cyfun, Coleg Morgannwg, roedd yn ymwneud yn helaeth â phrosiectau datblygu cwricwlwm Ewropeaidd.
Ers iddo ymddeol o’i swydd fel Is-bennaeth, mae Brenig yn ymwneud yn bennaf â gwaith gwirfoddol. Mae’n lywodraethwr Coleg AB, ysgol uwchradd ac ysgol gynradd. Mae’n parhau i fod yn Asesydd ar gyfer Gwobr y Frenhines am Addysg Uwch a Phellach, a Gwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau.
Bu Brenig yn cyfrannu at raglen Meistr ColegauCymru am dros ddeng mlynedd a bu'n Gadeirydd CCET Rhondda Cynon Taf.