Mark Isherwood

Ymunodd Mark â’r Bwrdd yn 2013 fel aelod etholedig. Mae hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Ansawdd, Safonau a Rheoleiddio.

Mae gan Mark hanes o lwyddiant blaenorol yn gweithio ym myd addysg.

Ar hyn o bryd, Mark yw Pennaeth y Coleg, yng Ngholeg Cymunedol YMCA Cymru yng Nghaerdydd. Mae hefyd yn arolygydd cymheiriaid dros ESTYN, yn llywodraethwr ar ysgol gynradd (Is-gadeirydd) ac yn Gadeirydd Pwyllgor Personél, yn ogystal ag yn Ymddiriedolwr Chwarae Cymru ac yn cynrychioli ColegauCymru ar Safonau Addysg a Hyfforddiant (ETS) Cymru.

Mae profiad Mark hefyd yn cwmpasu rolau cynrychioliadol ar gyrff allanol. Dyma rai ohonynt: Grwp Effeithiolrwydd ac Ansawdd Ôl-16 AdAS; Pwyllgor Cynghori Cenedlaethol City & Guilds Cymru; Pwyllgor Gweithredol Cyfanfyd; Grwp Datblygu'r Gweithlu Gwaith Ieuenctid AdAS; Rhwydwaith Dysgu Datblygu Cymunedol Llywodraeth Cymru; Rhwydwaith Rheolwyr Datblygu Proffesiynol ColegauCymru a Chyngor y Prifysgolion ar gyfer Addysgu Athrawon Ôl-16 Cymru.

Mae Mark hefyd yn cyflawni swyddogaeth fel gweithiwr ieuenctid gwirfoddol ar gyfer Archesgobaeth Caerdydd; plwyf Sant Joseff a'r Santes Fair.