Maxine Pittaway MBE
Ymunodd Maxine Pittaway, MBE â’r Bwrdd yn 2011 fel aelod etholedig. Mae Maxine hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol.
Ers 1994, mae Maxine wedi bod yn gweithio fel pennaeth ysgol arbennig fwyaf Cymru, sef Ysgol Sant Christopher yn Wrecsam.
O dan ei rheolaeth a’i harweiniad hi, enillodd Ysgol Sant Christopher wobr ‘Ysgol Anghenion Arbennig Nodedig y Flwyddyn' yn atodiad addysgol y Times yn 2010. Y llynedd, cyrhaeddodd yr ysgol y rhestr fer ar gyfer ‘Ysgol Anghenion Arbennig Nodedig y Flwyddyn 2013’.
Mae Maxine wedi bod yn Gadeirydd Cymdeithas Penaethiaid Uwchradd Wrecsam. Mae hefyd wedi bod yn ymwneud â Llwybrau Dysgu 14-19 yn ogystal â chyfrannu at nifer o grwpiau Awdurdod Lleol sy'n mynd i'r afael â materion megis gwella ysgolion, derbyniadau, cyllid ac anghenion dysgu ychwanegol.
Yn 2009, enillodd Maxine Wobr Menter yr Adran Plant Ysgolion a Theuluoedd yn y Gwobrau Addysgu Cenedlaethol.