Anne Lewis

Anne Lewis yw Prif Weithredwr Dros Dro, Agored Cymru.

Ymunodd Anne ag Agored Cymru yn 2001, ac mae wedi cyflawni sawl swyddogaeth ym maes sicrhau ansawdd a datblygu busnes.

Mae cwmpas eang i gyfrifoldebau Anne. Yn bennaf, mae’n cynnwys cyfrifoldeb strategol dros ddatblygu cynnyrch a busnes, marchnata a datblygu, adolygu a gwella swyddogaethau sicrwydd ansawdd.

Cyn ymuno ag Agored Cymru fel Cyfarwyddwr Datblygu Busnes, bu Anne yn gweithio yn y sector Addysg Bellach. Roedd hi’n arbenigo mewn Addysg Gymunedol a Garddwriaeth Fasnachol. Roedd hyn yn golygu swyddogaethau darlithio, arholi, rheoli ac, yn y pen draw, arwain Ysgol Addysg Gymunedol mewn coleg.

Mae Anne wedi cymryd yr awenau gyda nifer o brosiectau Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Prawf, y Gwasanaeth Rheoli Troseddwyr Cenedlaethol, Cynghorau Sgiliau Sector, mudiadau gwirfoddol a cholegau Addysg Bellach.

Mae gan Anne HND mewn Garddwriaeth Fasnachol, Dyfarniad Lefel 3 y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) mewn Hyfforddi a Mentora, Dyfarniad Lefel 5 CMI mewn Hyfforddi a Mentora Rheolwyr a chymwysterau ar wahân fel Asesydd a Gwiriwr Allanol.

Am bum mlynedd, bu Anne hefyd yn is-gadeirydd pwyllgor arholiadau’r Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol. 

Cysylltwch â Anne Lewis.