Dr Angela Jones-Evans

Ymunodd Dr Angela Jones-Evans â’r Bwrdd yn 2015 fel aelod penodedig.

Yn ystod ei gyrfa, mae Angela wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi rheoli ac academaidd, gan gynnwys sylfaenydd yr ymgynghoriaeth ymchwil a hyfforddi, Enlli Associates Ltd, Dirprwy Gyfarwyddwr Rhanbarthol y Brifysgol Agored yng Nghymru, uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Northumbria a Phennaeth yr Is-adran Llyfrgelloedd yn UWIC.

Mae Angela yn Swyddog Strategaeth a Chyfathrebu i Dr Kay Swinburne, ASE dros Gymru.  Yn rhinwedd ei gwaith fel ymgynghorydd, mae Angela yn helpu menywod o bob cefndir drwy weithgareddau hyfforddi, datblygu a rhyngweithio i gael mwy o ran mewn bywyd cyhoeddus. Mae Angela yn gweithio gyda Chwarae Teg ac Ysgol Fusnes Caerdydd i gyflwyno'r rhaglen arloesol, Cynllun Datblygu Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus, cynllun mentora ar gyfer menywod dan arweiniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn cael ei hyrwyddo gan Lywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler.

Mae gan Angela brofiad helaeth o gynllunio a chyflwyno rhaglenni hyfforddi a chymwysterau galwedigaethol achrededig. Mae hi hefyd yn frwd iawn o blaid busnes a mentergarwch ac mae wedi cefnogi'r gwaith o gyflwyno Fast Growth 50 Cymru.

Mae gan Angela Ddoethuriaeth mewn Astudiaethau Gwybodaeth, tystysgrif addysgu ôl-radd a thystysgrif ôl-radd mewn Hyfforddi i Ysbrydoli Arweinwyr.

Mae Angela yn Aelod Siartredig o CILIP, ac yn Aelod o'r Ffederasiwn Busnesau Bach.