Cyn-ddysgwr Mynediad i Addysg Uwch yn Cael Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Bydwreigiaeth


Graddiodd Julia Fivash-Henderson o Ogledd Cymru, sy'n fam i ddau o blant ac a arferai fod yn rheolwr yn Body Shop, o Brifysgol Bangor gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Bydwreigiaeth ar ôl llwyddo i gael Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn gwyddor iechyd.

Cyn-ddysgwr Mynediad i Addysg Uwch yn Cael Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Bydwreigiaeth
Julia Fivash-Henderson

Gadawodd Julia Fivash-Henderson yr ysgol yn 17 oed oherwydd salwch. Roedd wedi rhoi'r gorau i'w gobeithion o fynd i'r brifysgol. 

Ar ôl iddi wella'n llwyr, cafodd Julia waith fel cynorthwyydd yn y siop Body Shop leol. 

Dros y blynyddoedd, gweithiodd Julia ei ffordd i fyny'r rhengoedd o fod yn gynorthwyydd yn y siop i fod yn rheolwr, ac ath yn ei blaen i briodi a setlo i'w bywyd teuluol. 

Yn 2003, ar ôl genedigaeth ei phlentyn cyntaf, gwnaeth Julia gais am le ar gwrs Mynediad ond canfu yn fuan wedyn ei bod yn feichiog gyda'i hail blentyn. 

A hithau'n awyddus i roi'r un cychwyn i'w babi newydd ag a roddodd i'w merch, gohiriodd Julia ei lle ar y cwrs hyd nes bod ei dau blentyn yn yr ysgol.

Yn 2008, cofrestrodd Julia ar gwrs Mynediad i Addysg Uwch llawn amser mewn gwyddor iechyd yng Grŵp Llandrillo Menai, Rhos-on Sea.

Yn fuan ar ôl dechrau ei chwrs, cysylltodd Julia â Phrifysgol Bangor i holi beth oedd y gofynion mynediad ar gyfer gradd mewn Bydwreigiaeth.

Gyda chefnogaeth ac arweiniad gan ei thiwtor Mynediad, gwnaeth Julia gais a chynigiwyd lle iddi ar y cwrs ar yr amod ei bod yn pasio ei harholiadau.  

Dywedodd Julia: "Roeddwn i wrth fy modd nôl mewn addysg. Fe wnes i ailddarganfod fy hoffter o wyddoniaeth. 

"Fe wnaeth y cwrs Mynediad fy mharatoi i ar gyfer bywyd yn y brifysgol.  Pan ddechreuais ar y cwrs, roeddwn i wedi bod allan o addysg am gyfnod hir.  Prin yr oeddwn i'n gwybod sut i anfon negeseuon e-bost.

"Bu'r cwrs yn help i mi ddatblygu sgiliau newydd o ran TG, ysgrifennu traethodau, cyfeirnodi ac ysgrifennu academaidd."

Er gwaethaf yr heriau a wynebodd yng nghyswllt cydbwyso astudiaethau â bywyd teuluol, llwyddodd Julia i gwblhau ei chwrs Mynediad i Addysg Uwch a dechreuodd ym Mhrifysgol Bangor.  

Yn 2012, graddiodd Julia gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Bydwreigiaeth.

Dywedodd Julia: "Roeddwn i am brofi i mi fy hun fy mod i'n gallu graddio o'r Brifysgol.

"Cynigiwyd llu o gyfleoedd i mi yn sgil y cwrs Mynediad. Roedd yn gam i yrfa newydd sbon.

"Heddiw, mae gen i yrfa sy'n werth chweil ac yn emosiynol foddhaus. Bob dydd, mae gen i gyfle i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl. 

"Rydw i mor falch fy mod i wedi ymgymryd â'r her a byddwn yn annog eraill i fentro...byddwch yn ddewr ac ewch amdani!"

Mae Julia yn gweithio fel bydwraig i'r GIG yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd.

Astudiaethau Achosn Eraill