Roedd y fam i dri, Caroline Read, wedi gweddnewid ei bywyd ar ôl cofrestru ar gwrs nyrsio Mynediad i Addysg Uwch


A hithau wedi cael ei phlant yn ifanc roedd Caroline Read o Dde Cymru yn dioddef o iselder ac yn methu dod o hyd i unrhyw uchelgais.

Roedd y fam i dri, Caroline Read, wedi gweddnewid ei bywyd ar ôl cofrestru ar gwrs nyrsio Mynediad i Addysg Uwch
Caroline Read

Doedd Caroline ddim yn credu bod ennill cymwysterau a chael gyrfa yn opsiwn iddi hi. 

Gyda phenderfyniad o'r newydd a chyfarwyddyd gan ei gweithiwr cefnogi, cofrestrodd Caroline ar gyrsiau seicoleg a chwnsela yn ei chanolfan gymunedol leol.

Ar ôl cwblhau'r cyrsiau hyn yn llwyddiannus, tyfodd hyder Caroline. Roedd hi'n benderfynol ei bod am fod yn fodel rôl da i'w phlant ac fe ysbrydolodd hyn iddi fynd ar drywydd gyrfa mewn nyrsio.

Cofrestrodd Caroline ar gwrs Sylfaen i Oedolion yng  Ngholeg Caerdydd a'r Fro cyn symud ymlaen i'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn Nyrsio a'r Proffesiynau Iechyd.

Yn 2014, cafodd penderfyniad ac ymrwymiad Caroline i ddysgu eu cydnabod pan roedd yn un o'r ddau a enillodd Gwobr flynyddol Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru.   

Dywedodd Caroline: "Dwi wrth fy modd fy mod wedi ennill y wobr hon - mae'n golygu gymaint. Mae mynd yn ôl i addysg wedi bod yn gam sydd wedi newid fy mywyd a byddwn i'n annog unrhyw un sy'n ystyried gwneud hyn yn hwyrach ymlaen yn eu bywyd i wneud hynny - dydy hi ddim yn rhy hwyr a byddai'n dda gen i petawn i wedi cymryd y cam yn gynharach."

Dywedodd Jane Chambers, tiwtor cwrs Caroline: "Mae Caroline yn fyfyriwr ysbrydoledig. Mae hi wedi goresgyn anawsterau ac wedi wynebu sialensiau sylweddol pan fyddai'r rhan fwyaf o bobl wedi rhoi'r ffidil yn y to.

Mae Caroline wedi llwyddo ar y lefel uchaf. Mae hi'n sicr yn haeddu gwobr ac mae pawb sy'n ei hadnabod hi o'r un farn."

Mae Caroline nawr yn gwneud cais ar gyfer gradd Nyrsio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gwyliwch cyfweliad gyda Caroline.

Astudiaethau Achosn Eraill