Cymwysterau Cyntaf o’u Math ar Gyfer y Diwydiannau Cynhyrchu Bwyd a Diod yng Nghymru


Fel rhan o Brosiect Bwyd a Sgiliau Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Lantra Cymru a Creo Skills, mae Agored Cymru wedi datblygu cymwysterau cyntaf o’u math ar gyfer y diwydiannau bwyd a diod a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.

Cymwysterau Cyntaf o’u Math ar Gyfer y Diwydiannau Cynhyrchu Bwyd a Diod yng Nghymru
Bwyd a diod

Mae’r cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 arloesol yn cynnig hyfforddiant mewn swydd pwrpasol ac achrediad i ddysgwyr sy’n gweithio yn y meysydd canlynol:

  • ffermio;
  • cynhyrchu bwyd; a
  • y diwydiant bwyd a diod.

Mae’r cymwysterau’n rhoi sylw i bynciau amrywiol, gan gynnwys labelu bwyd, gwerthiant a marchnata, prosesu cig, cyfryngau cymdeithasol ac e-farchnata i enwi dim ond rhai. 

Ers lansio’r prosiect, mae mwy na 500 o ddysgwyr yng Nghymru wedi derbyn credydau a chymwysterau.

Darllen yr astudiaeth achos llawn.

Lawrlwytho Fersion PDF

Astudiaethau Achosn Eraill