Nid taith chweched ddosbarth arferol Sut llwyddodd Guto i gyfuno Cymwysterau Safon Uwch gyda dysgu awyr agored i adeiladu gyrfa


I nifer o ddysgwyr, mae chweched ddosbarth yn dilyn llwybr cyfarwydd ac wedi'i hen sefydlu. Dewis tri neu bedwar cymhwyster Safon Uwch, mynychu gwersi yn y dosbarth, sefyll arholiadau, a chychwyn meddwl am brifysgol neu gyflogaeth yn y dyfodol. Ond i Guto, roedd y daith honno ychydig yn wahanol.

Alldaith Guto yn Eryri
Alldaith Guto yn Eryri

Ar ôl cwblhau ei TGAU, roedd Guto mewn sefyllfa y gall llawer o ddysgwyr 16+ uniaethu â hi. Er bod ganddo syniad cyffredinol o'r pynciau roedd yn eu mwynhau, nid oedd yn hollol siŵr pa gyfeiriad roedd am ei ddilyn neu sut fyddai ei yrfa hirdymor yn edrych. 

Yr hyn roedd yn ei wybod oedd ei fod bob amser wedi'i ddenu at yr awyr agored.  

“Doeddwn i ddim wir yn gwybod beth roeddwn eisiau ei wneud,” esboniodd. “Ond rydw i wastad wedi bob â diddordeb yn yr awyr agored. Mae pethau fel syrffio a dringo wedi bob yn rhan fawr o'r hyn rwyf wedi'i fwynhau erioed.” 

Pan gyflwynodd athro yn Ysgol John Bright y cymhwyster Agored Cymru Lefel 3 Dysgu yn yr Awyr Agored iddo, roedd hynny'n cynnig opsiwn newydd ac annisgwyl. Ar ôl ymchwilio i’r cwrs a siarad gyda’r tiwtor Nick Fleet am yr hyn oedd yn ei gynnwys, sylweddolodd Guto yn gyflym ei fod yn cynnig rhywbeth gwahanol i’r profiad traddodiadol yn y chweched ddosbarth a Safon Uwch.  

“Roedd yn swnio'n dda iawn. Meddyliais i, ie, mae hwn i fi,” meddai.  

Dull hyblyg o ddysgu ôl-16 

Un o agweddau mwyaf nodweddiadol taith Guto yw'r ffordd y llwyddodd i gyfuno'r cymhwyster Lefel 3 mewn Dysgu yn yr Awyr Agored gyda’i gymwysterau Safon Uwch. Er nad oedd ei ysgol yn cynnig y cwrs Dysgu yn yr Awyr Agored, roedd modd iddo gael mynediad ato trwy drefniad “cwrs cyswllt” lleol, gan fynychu ysgol arall unwaith yr wythnos wrth  barhau gyda'i astudiaethau eraill. 

 “Bob Dydd Mercher es i i ysgol wahanol i’w wneud,” esboniodd. “Felly roeddwn i yn gwneud fy nghymwysterau Safon Uwch a’r cymhwyster Lefel 3 ar yr un pryd.” 

Rhoddodd yr hyblygrwydd hwn gyfle i Guto siapio ei addysg o amgylch ei ddiddordebau, yn hytrach na theimlo ei fod wedi'i gyfyngu i lwybr academaidd unffurf yn unig.  Ynghyd â'i ddau bwnc arall, Addysg Gorfforol a Bagloriaeth Cymru, roedd y cymhwyster Dysgu yn yr Awyr Agored yn darparu elfen fwy ymarferol a chymhwysol i’w astudiaethau.  

I Guto, nid yn unig roedd y cydbwysedd hwn yn fuddiol, roedd hefyd yn ei gymell. 

“Oherwydd bod hyn yn rhywbeth roeddwn i wir eisiau ei wneud, mi wnes i roi mwy o flaenoriaeth i'r cwrs hwn,” myfyriodd. “Roedd yn teimlo’n fwy perthnasol i'r hyn y gallwn fod eisiau ei wneud yn y dyfodol.”  

Mae ei brofiad yn amlygu neges bwysig i ddysgwyr sy'n ystyried eu camau nesaf. Nid oes rhaid i'r chweched dosbarth fod yn ateb unffurf i bawb. Gyda’r cyfleoedd cywir, gellir ei siapio'n rhywbeth sy’n adlewyrchu diddordebau ac uchelgeisiau dysgwyr. 

Dysgu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth 

Newid allweddol ym mhrofiad Guto oedd natur y dysgu ei hun. Tra bod cymwysterau Safon Uwch traddodiadol yn aml yn canolbwyntio ar addysgu yn yr ystafell dosbarth ac arholiadau ysgrifenedig, roedd y cymhwyster Dysgu yn yr Awyr Agored yn cynnig dull llawer mwy ymarferol a gafaelgar.  

“Dwi bob amser wedi ffafrio pethau ymarferol,” dywedodd Guto. “Felly roedd cael cwrs fel hwn yn berffaith i mi.” 

Mae’r cwrs wedi'i ddylunio i ddatblygu sgiliau'n raddol, gan alluogi dysgwyr i ddatblygu hyder a chymhwysedd dros amser. Roedd y sesiynau cynnar yn canolbwyntio ar wybodaeth sylfaenol megis darllen mapiau a mordwyo, cyn symud ymlaen at weithgareddau mwy datblygedig gan gynnwys cyfeiriannu, cynllunio alldeithiau, ac amrywiaeth o chwaraeon awyr agored.  

“Mewn ffordd, fe ddatblygodd dros amser,” meddai. “Fe ddechreuon ni gyda theithiau cerdded byrrach a dysgu pethau fel gwaith map a chwmpawd, yna symud at bethau anoddach fel cyfeiriannu a chynllunio.” 

Roedd y dull strwythuredig hwn yn sicrhau bod dysgwyr yn teimlo'n barod ac yn hyderus  wrth gyrraedd heriau mwy anodd.  

Yr alldaith: o’r sgiliau cyntaf i’r copa 

Un o atgofion mwyaf cofiadwy Guto oedd ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf, pan gymerodd ran mewn alldaith gwersylla gwyllt am dri diwrnod ym mynyddoedd y Carneddau yn Eryri.  

“Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, fe wnaethon ni alldaith gwersylla. Tri diwrnod, dwy noson,” mae'n cofio. 

I Guto, roedd y profiad yn sefyll allan nid yn unig oherwydd y lleoliad, ond oherwydd y ffordd yr oedd yn dod â phopeth yr oedd wedi'i ddysgu ar y cwrs hyd at hynny at ei gilydd.  

“Fe ddaethon ni o hyd i safle da iawn ar y noson gyntaf, wrth ymyl nant fach ar waelod mynydd o’r enw Carnedd Llywelyn,” meddai. “Ac yna ar yr ail noson, fe wnaethon ni wersylla wrth ymyl hen lyn cronfa ddŵr. Roedd hynny'n wych hefyd!” 

Yr hyn a wnaeth y profiad yn arbennig o werthfawr oedd y paratoad arweiniodd ato. Yn hytrach na chael eu taflu i mewn i’r pen dwfn, roedd dysgwyr wedi treulio misoedd yn datblygu'r sgiliau yr oedd eu hangen arnynt i lwyddo.  

“Fe ddatblygodd y cyfan yn raddol,” eglurodd Guto. “Fe wnaethon ni wneud y theori hefyd, fel pa offer y byddem yn ei gymryd, pa bebyll y byddem yn eu defnyddio a pham, a sut i gynllunio popeth.” 

O ganlyniad i hyn, pan ddaeth yr alldaith ei hun, roedd y dysgwyr yn teimlo'n hyderus yn eu gallu.  

“Felly pan aethon ni, roedden ni'n gwybod yn union beth i'w wneud,” meddai. “Roedden ni'n gwybod beth i’w gymryd, sut i ymdopi gyda'r amodau, popeth fel yna.” Roedd y profiad nid yn unig yn profi eu sgiliau, ond hefyd yn atgyfnerthu eu hannibyniaeth, eu gwaith tîm, a'u hyder mewn amgylcheddau awyr agored.  

Grwpiau llai ar gyfer mwy o ymgysylltiad 

Agwedd arall ar y cwrs a oedd yn sefyll allan i Guto oedd yr amgylchedd dysgu. Gyda charafán gymharol fach yn cynnwys dysgwyr o flynyddoedd gwahanol, roedd yr amgylchedd yn wahanol iawn i ddosbarth chweched cyffredin. 

“Dim ond ychydig ohonom ni oedd, felly doedd hi ddim yn rhy llawn,” eglurodd. “Roedd pawb oedd yno eisiau bod yno, ac fe wnaeth hynny wahaniaeth mawr.”  

Creodd y diddordeb cyffredin hwn amgylchedd gyda mwy o ffocws a chefnogaeth, lle'r oedd dysgwyr yn gallu ymgysylltu'n llawn gyda'r elfennau ymarferol a damcaniaethol o'r cwrs. 

“Roedd hynny'n golygu bod pawb yn cymryd rhan,” ychwanegodd. “Doedd neb yno nad oedd eisiau bod yno.”  

Roedd yr addysgu ei hun yn atgyfnerthu'r profiad hwn ymhellach. Gyda mewnbwn gan staff yr ysgol ac arbenigedd allanol, gan gynnwys tiwtor o Brifysgol Bangor, roedd y sesiynau'n cyfuno gweithgareddau ymarferol â theori gymhwysol mewn ffordd a oedd yn teimlo’n berthnasol ac yn ddiddorol. 

“Roedd yn fwy ymarferol, hyd yn oed pan oedden ni'n gwneud theori,” dywedodd Guto. “Roedd y cyfan yn cysylltu gyda phethau roedden ni'n eu gwneud go iawn.” 

Sgiliau ar gyfer nawr, ac ar gyfer y dyfodol 

Er bod y cymhwyster Dysgu yn yr Awyr Agored yn hynod ymarferol, mae hefyd yn cynnwys agwedd ddamcaniaethol gref. Ar y dechrau, doedd Guto ddim wedi disgwyl hyn. 

“Roedd mwy o theori nag oeddwn i’n ei disgwyl,” mae’n cyfaddef. “Ond fe wnes i ei fwynhau mewn gwirionedd oherwydd roedd y cyfan yn ymwneud â phethau oedd o ddiddordeb i mi.”  

Roedd aseiniadau yn cynnwys tasgau megis asesiadau risg, adolygiadau gweithgaredd, a chymariaethau offer. Gan fod y rhain yn cysylltu'n uniongyrchol â phrofiadau go iawn, roeddent yn teimlo'n bwrpasol yn hytrach nag yn haniaethol. 

Ers cwblhau'r cwrs, mae Guto eisoes wedi gweld effaith y profiadau hyn. Mae bellach yn gweithio fel Cydlynydd Antur, yn arwain ac yn cefnogi gweithgareddau megis rhaffau uchel, dringo, a phrofiadau bynji. 

“Dwi’n meddwl bod y cwrs wedi helpu'n bendant,” dywedodd. “Mae’n rhoi mwy o hyder a phrofiad i chi.”  

Mae’r hyder hwnnw'n arbennig o bwysig wrth weithio gydag eraill mewn amgylcheddau awyr agored. 

“Os yw pobl yn ofnus, mae'n ymwneud â gwybod beth i’w ddweud i’w tawelu,” eglurodd. “Eu helpu i ymddiried yn y system a theimlo’n ddiogel.” 

Ffordd wahanol ymlaen 

Mae taith Guto yn dangos nad oes rhaid i'r chweched dosbarth ddilyn un llwybr  traddodiadol. Gan gyfuno cymwysterau safon uwch gyda chymhwyster galwedigaethol, roedd modd iddo archwilio ei ddiddordebau, ennill profiad ymarferol, a chymryd camau pwysig tuag at yrfa yn y dyfodol ar yr un pryd. 

I ddysgwyr a all fod yn ansicr am eu camau nesaf, neu sy'n teimlo nad yw llwybr academaidd yn unig yn addas iddynt, mae ei brofiad yn cynnig safbwynt gwerthfawr. 

“Dwi’n credu ei fod e'n dda i bobl sy’n gyfarwydd â'r awyr agored yn barod, ond hefyd i bobl sydd ddim yn gwybod dim,” meddai Guto. “Gallwch chi ddatblygu mewn amgylchedd diogel.”  

“Os oes gennych chi hyd yn oed ychydig o ddiddordeb yn yr awyr agored, mae'n bendant yn werth ei wneud.”  

Mae ei stori yn ein hatgoffa ni, gyda’r gefnogaeth a’r cyfleoedd cywir, y gall dysgwyr greu llwybr sy’n gweithio iddyn nhw, gan gyfuno gwybodaeth, profiad, ac angerdd mewn ffordd sy'n eu paratoi ar gyfer beth bynnag ddaw nesaf. 

Astudiaethau Achosn Eraill