Y cwrs a ddeffrodd angerdd Mollie


Pan gofrestrodd Mollie ar gyfer y cymhwyster Gwaith Ieuenctid gyda Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent, doedd ganddi ddim syniad y byddai’n newid cyfeiriad ei bywyd. Doedd hi ddim yn siŵr i ba gyfeiriad yr oedd yn mynd, ond gwyddai ei bod hi eisiau gweithio gyda phobl ifanc. Yr hyn a gafodd yn lle hynny oedd ymdeimlad newydd o hyder, cymuned, a phwrpas, a gyrfa y mae hi wir yn ei charu.

Delwedd o Mollie gyda theitl yr erthygl.
Y cwrs a ddeffrodd angerdd Mollie

Cyn darganfod y cwrs, doedd Mollie ddim yn sylweddoli pa mor bwerus y gallai gwaith ieuenctid fod. “Wnes i erioed sylweddoli’n llawn pa mor bwerus y gallai ei ymarfer fod” meddai. “Roeddwn i’n meddwl mai dim ond canolfannau ieuenctid wythnosol oedd gwaith ieuenctid lle mae pobl ifanc yn mynd yn eu hamser hamdden.” Newidiodd hynny’n gyflym. Trwy ei hyfforddiant, daeth i weld gwaith ieuenctid fel lle hanfodol lle gall pobl ifanc fynegi eu hunain, teimlo’n ddiogel, a chael eu cefnogi i ddatblygu.

Fel llawer o ddysgwyr, nid oedd llwybr Mollie yn uniongyrchol. Roedd ffrind i’r teulu yn gweithio yng Ngwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent a ddywedodd wrth Mollie am y cymhwyster. Roedd hi wedi ceisio cwblhau’r cwrs ddwy flynedd ynghynt ond roedd hi wedi tynnu’n ôl gan nad oedd yr amseriad yn iawn iddi. Ond y tro hwn, roedd hi’n teimlo’n wahanol. “Dyma’r tro cyntaf i mi deimlo’n ddigon parod a hyderus ynof fy hun i gymryd y cyfle,” meddai. “Ac rwyf mor falch fy mod wedi cymryd y cyfle, oherwydd mae’r cymhwyster wedi newid fy mywyd!”

Ar y pryd, roedd Mollie hefyd yn gorffen ei gradd yn y brifysgol, a olygai ei bod hi’n astudio ar gyfer y ddau gwrs am sawl mis. Roedd yn her, ond fe fwriodd ymlaen. “Roedd yn anodd, ond yn werth chweil ,” eglurodd. “Meddyliais i, beth sydd gen i i’w golli?”

Unwaith iddi ddechrau, roedd Mollie yn gweld ei hun yn edrych ar y byd mewn ffordd wahanol. “Mae wedi caniatáu i mi weld y byd mewn ffordd wahanol yn bendant,” myfyriai. “Mae wedi gwneud i mi fod yn llawer mwy beirniadol a gonest gyda mi fy hun a’r byd o’m cwmpas.” Fe wnaeth y cyfuniad o theori ac ymarfer ei helpu i ddeall sut olwg sydd ar waith ieuenctid da, a pham ei fod yn bwysig.

“Drwy ddysgu’r theori ac yna cael y cyfle i’w ymarfer mewn gwahanol leoliadau, des i’n weithiwr ieuenctid gwell i bobl ifanc,” eglurodd. “Nawr, rwy’n sicrhau bod gan bopeth a wnawn gyda phobl ifanc bwrpas ac ystyr i’w bywydau.”

Cafodd y cwrs effaith ar unwaith. Ychydig fisoedd ar ôl cwblhau’r cymhwyster, symudodd Mollie i swydd â thâl fel gweithiwr cymorth ieuenctid, gan adael y swydd ran-amser a oedd ganddi ers pedair blynedd. “Agorodd y cymhwyster y drws i mi,” meddai.

Un o brofiadau mwyaf cofiadwy Mollie oedd ei rhan yng Nghwpan y Byd Street Child, menter fyd-eang sy’n mynd â phobl ifanc o bob cwr o’r byd i gynrychioli eu cymunedau drwy chwarae pêl-droed. Gan weithio gyda grŵp o ferched o Flaenau Gwent a deithiodd i Fecsico i gynrychioli Cymru, helpodd Mollie i arwain a hwyluso sesiynau ac ymunodd â

nhw ar daith breswyl dros nos i wylio Merched Cymru yn herio Awstralia yng Nghaerdydd.

Roedd lleoliadau Mollie hefyd yn cynnwys darpariaethau mewn ysgolion, ac mae hi’n gobeithio eu harchwilio ymhellach yn y dyfodol. “Byddwn i’n bendant yn hoffi archwilio hyn yn fy nyfodol o ymarfer gwaith ieuenctid.” Helpodd y profiadau hyn hi i ddatblygu darlun cliriach o ba fath o ymarferydd y mae hi eisiau bod: meddylgar, cyson, ac wedi’i llywio gan bwrpas.

Trwy’r cymhwyster, magodd Mollie’r hyder a’r offer ymarferol i ymdrin â rhai o agweddau pwysicaf gwaith ieuenctid. “Rwyf bellach yn llawer mwy ymwybodol, gwybodus a hyderus wrth ryngweithio â phobl ifanc, yn bendant,” meddai. “Mae’r cymhwyster wedi rhoi’r adnoddau a’r cyfleoedd i mi fod yn weithiwr ieuenctid effeithiol, o sut i ymdrin â materion diogelu i ddelio ag ymddygiad heriol.”

I Mollie, mae gwaith ieuenctid yn llawer iawn mwy na swydd. Mae’n ymwneud â chreu mannau lle mae pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gweld a’u gwerthfawrogi. “Rwy’n teimlo bod pobl ifanc yn aml yn cael eu gweld mewn ffordd nad yw’n eu hadlewyrchu nhw mewn gwirionedd,” meddai. “Dylai pob person ifanc gael y cyfle i gael mynediad at le diogel lle gallant fynegi eu hunain a bod yn nhw eu hunain.”

Mae hi’n aml yn atgoffa ei hun, i rai pobl ifanc, yr ychydig oriau hynny mewn canolfan ieuenctid yw’r unig amser y maent yn teimlo’n gwbl ddiogel. “Nid yw pawb yn cael magwraeth dda a diogel,” meddai. “Dyna pam rwy’n sicrhau fy mod yn rhoi 100% wrth ryngweithio â phobl ifanc, oherwydd gallai’r amser byr rydyn ni’n ei dreulio gyda pherson ifanc olygu popeth iddyn nhw.”

Pan mae hi’n edrych yn ôl nawr, mae Mollie yn dweud ei bod hi’n falch o ba mor bell y mae hi wedi dod. “Pe bawn i’n gallu rhoi unrhyw gyngor i’m hun yn y gorffennol byddwn i’n dweud: Cer amdani! Ac ymddiried yn y broses.” Mae hi’n disgrifio bod yn weithiwr ieuenctid fel braint, un sy’n anodd ei fynegi. “Mae’n fraint bod yn rhan o rywbeth mor bwysig a phwerus,” meddai.

Mae’r cymhwyster Agored Cymru Tystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid, a gyflwynir mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Fynwy ac Academi Hyfforddi Gwaith Ieuenctid (ETS Cymru, a ariannir gan Lywodraeth Cymru), ac a gynhelir gan Wasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent, yn enghraifft ddisglair o’r hyn y gall cydweithio ei gyflawni. Drwy gyfuno dealltwriaeth academaidd ag ymarfer ymarferol, mae’r bartneriaeth yn rhoi cyfle i ddysgwyr fel Mollie dyfu, cysylltu a gwneud gwahaniaeth parhaol yn eu cymunedau.

I Mollie, roedd y cymhwyster yn fwy na chwrs. Rhoddodd gyfeiriad, hyder, a phwrpas iddi, gan ei helpu i ganfod ei hangerdd, yn debyg iawn i’r gwaith y mae hi’n ei wneud bob dydd i helpu pobl ifanc i wneud yr un peth.

Lawrlwytho Fersion PDF

Astudiaethau Achosn Eraill