Cymwysterau Lefel Uwch ar Gyfer y Sector Diwylliannol a Chreadigol


Mewn partneriaeth â Sgiliau Creadigol a Diwylliannol, mae Agored Cymru, y corff dyfarnu o ddewis ar gyfer darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru, wedi datblygu’r cymwysterau lefel uchaf cyntaf o’u bath ar gyfer sectorau Crefft, Dylunio a Threftadaeth Ddiwylliannol yng Nghymru.

Cymwysterau Lefel Uwch ar Gyfer y Sector Diwylliannol a Chreadigol

Mae’r cymwysterau’n targedu  dysgwyr uchelgeisiol a dawnus yng Nghymru nad oes modd iddynt gael mynediad rhwydd at lwybr mwy traddodiadol at addysg uwch neu na allant fforddio cymryd interniaeth ddi-dâl. Maent yn cynnwys y sgiliau sydd eu hangen i ddilyn gyrfa mewn gwahanol rolau megis Swyddog Casgliadau, Gweithiwr Treftadaeth, Cynorthwyydd Dylunio, Dylunydd Iau a Dylunydd-Wneuthurwr.

Cafodd y cymwysterau eu datblygu drwy ymgynghori ag unigolion a sefydliadau arbenigol  ar draws y tri sector; Crefft, Dylunio a Threftadaeth Ddiwylliannol.

Mae creu partneriaeth gyda’r arbenigwyr hyn wedi sicrhau bod y cymwysterau’n cwmpasu’r bylchau a ganfuwyd mewn sgiliau a’r anghenion sy’n datblygu gan gyflogwyr yng Nghymru ym mhob sector.

Darllen yr astudiaeth achos llawn.

Lawrlwytho Fersion PDF

Astudiaethau Achosn Eraill