Mentora ITM


Mae Mentora ITM wedi bod yn cynnig dwy uned alwedigaethol wedi eu hachredu a ardystiwyd gan Agored Cymru i’w mentoriaid myfyrwyr am y pedair blynedd ddiwethaf. Cynlluniwyd yr achrediad gan dîm y prosiect mewn cydweithrediad ag Agored Cymru, cyn-fentoriaid ac athrawon. Mae wedi’i rannu i ddwy uned y gall myfyrwyr eu cwblhau dros y ddau semester y maent yn gweithio gyda’r prosiect.

Mentora ITM

Mae Mentora ITM wedi bod yn cynnig dwy uned alwedigaethol wedi eu hachredu a ardystiwyd gan Agored Cymru i’w mentoriaid myfyrwyr am y pedair blynedd ddiwethaf. Cynlluniwyd yr achrediad gan dîm y prosiect mewn cydweithrediad ag Agored Cymru, cyn-fentoriaid ac athrawon. Mae wedi’i rannu i ddwy uned y gall myfyrwyr eu cwblhau dros y ddau semester y maent yn gweithio gyda’r prosiect.

Yr hyn sy’n wych am yr achrediad yw ei fod yn ymdrin nid yn unig â’r wybodaeth ond hefyd y sgiliau y mae myfyrwyr yn eu hennill trwy eu profiad mentora gyda’r prosiect. Mae Uned 1 yr achrediad yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio’r theori a’r ethos mentora a drafodwyd yn ystod y penwythnos hyfforddi mentoriaid sy’n sail i Fentora ITM. Yn y cyfamser, mae Uned 2 yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymarfer y sgiliau y maent wedi eu datblygu yn ystod y cylch mentora a myfyrio ar eu profiadau.

Mae myfyrwyr yn cwblhau’r achrediad  trwy lyfr gwaith ysgrifenedig, wedi’i gynllunio i gefnogi datblygiad gwybodaeth a sgiliau ymarferol a damcaniaethol. Ar gyfer rhai cwestiynau mae gan fyfyrwyr yr opsiwn i gyflwyno ymatebion yn ysgrifenedig neu drwy gyflawniadau fideo, gan gynnig hyblygrwydd a ffyrdd mwy hygyrch i fyfyrwyr ymgysylltu â’r asesiad. Mae’r asesiad wedi’i gynllunio i ddatblygu sgiliau proffesiynol myfyrwyr ac i gefnogi eu dealltwriaeth o ba mor drosglwyddadwy yw’r sgiliau y maent wedi’u hennill drwy’r prosiect. Mae’r achrediad yn hyrwyddo myfyrdod yn weithredol sy’n sgil amhrisiadwy i fyfyrwyr ei ddatblygu ac yn eu paratoi’n dda ar gyfer byd gwaith.

Mae’r achrediad yn fuddiol i bob myfyriwr, ond yn arbennig o berthnasol i’r rhai sydd am fynd i faes rheoli, cynlluniau graddedig neu addysgu. Mae mentora ei hun yn sgil trosglwyddadwy iawn ac mae galw mawr amdano ymhlith cyflogwyr. Felly rydym yn annog pob myfyriwr mentora i ystyried cwblhau un uned neu’r ddwy uned wedi eu hachredu. Eleni mae 27 o fyfyrwyr o 6 phrifysgol wahanol (Bangor, Caerdydd, Aberystwyth, Abertawe, Met Caerdydd a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant) wedi cwblhau’r naill uned neu’r llall neu’r ddwy uned.

Mae cwblhau’r unedau yn golygu bod myfyrwyr yn gadael y prosiect gydag achrediad a gydnabyddir gan Agored Cymru, sy’n dangos cyfoethogrwydd y wybodaeth a’r sgiliau y maent wedi’u hennill drwy’r profiad mentora - ac mae’n ychwanegiad gwych at eu CVs.

Astudiaethau Achosn Eraill