Mam o Gaerffili drodd at nyrsio er gwaethaf ei chanser yn ennill Gwobr Genedlaethol


Mae Emma Hughes, myfyrwraig o Goleg Y Cymoedd, wedi ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Agored Cymru eleni am Ymrwymiad Eithriadol i Astudio. Mae ein gwobrau’n dathlu cyflawniadau unigolion sydd wedi cwblhau diploma Mynediad i Addysg Uwch – cymwysterau sy’n paratoi rhai heb gymwysterau traddodiadol i astudio mewn prifysgol.

Mam o Gaerffili drodd at nyrsio er gwaethaf ei chanser yn ennill Gwobr Genedlaethol

Mae Emma, 36 oed, mam i ddau o Caerffili wedi ennill gwobr i gydnabod ei dewrder a’i hymroddiad i’w hastudiaethau ar ôl dychwelyd i’r coleg fel dysgwr aeddfed yng Ngholeg Y Cymoedd tra’n brwydro yn erbyn canser a gweithredu fel prif ofalwr ei mab anabl.

Cafodd Emma ddiagnosis ffurf ymosodol o ganser pan oedd hi’n 32 mlwydd oed, arweiniodd at golli’r ddwy fron a thynnu ei ofarïau, ond cafodd ei hysbrydoli gan y gefnogaeth a dderbyniodd gan y GIG i ddilyn gyrfa o fewn y gwasanaeth iechyd.

Fel mam i blentyn ag anableddau dysgu difrifol, sbardunodd ei phrofiad iddi ystyried sut byddai ei sefyllfa hi yn teimlo i rywun oedd ag anghenion cymhleth, a chymhellodd hyn awydd ynddi i weithio ym maes ‘Nyrsio Anabledd’, fel y gallai gynnig cefnogaeth i eraill yn seiliedig ar ei phrofiadau personol ei hunan.

Gan iddi ymadael â’r ysgol yn 16 mlwydd oed heb unrhyw gymwysterau, roedd angen i Emma ddychwelyd i fyd addysg cyn y gallai ystyried gyrfa newydd. Ymunodd â Choleg y Cymoedd yn 2020 i astudio cwrs cychwynnol Mynediad Lefel 2 mewn ‘Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach,’ ac yna diploma ‘Mynediad i Addysg Uwch ym maes Gofal Iechyd’ oedd yn gwrs dwy flynedd. Galluogodd hyn hi i fynd i’r brifysgol.

Yn ôl Emma, sydd bellach yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio Nyrsio Anabledd ym Mhrifysgol De Cymru: “Tra roeddwn i’n mynd drwy fy holl driniaethau meddygol, roeddwn yn ceisio dychmygu pa mor anodd fyddai hi i bobl ag anableddau, fel fy mab, sydd yn ddi-eiriau, i fynd drwy rywbeth o’r fath. Y gwir amdani ydy bod pobl ag anawsterau o’r fath yn tueddu i gael canlyniadau llai ffafriol o ran salwch oherwydd y rhwystrau cyfathrebu sydd ganddyn nhw.”

“Does gan lawer ohonyn nhw mo’r gallu gwybyddol i sylweddoli a chyfathrebu eu bod yn teimlo’n sâl, sy’n arwain at oedi mewn diagnosis. Ar yr un pryd, gall yr ymddygiad y gallan nhw ei arddangos wneud i driniaeth fod yn heriol. Mae cemotherapi yn anodd i unrhyw un, heb sôn am rywun sydd heb fod â dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd. Roedd gwybod yn uniongyrchol pa mor anodd fyddai hi i’m plentyn i fy hun wedi fy ngwneud yn benderfynol i fod yn Nyrs Anabledd Dysgu fy hunan, fel gallwn innau fod o help i eraill. ”

Ar ôl treulio’r 15 mlynedd blaenorol yn gweithio’n rhan amser mewn canolfan alwadau, roedd mynd yn ôl i’r coleg yn ei thridegau yn codi ofn arni. Gofidiai Emma’n sut y byddai’n gallu cyfuno ei hastudiaethau â’i thriniaethau canser ataliol a’i chyfrifoldebau gofalu – rhywbeth fu’n rhwystr iddi rhag newid gyrfa flynyddoedd ynghynt.

Er mwyn galluogi hyn, cynigiodd Coleg y Cymoedd iddi gael dysgu’n hyblyg, gan ganiatáu iddi astudio a derbyn gwersi ar-lein a chadw at ddedleins aseiniadau fyddai’n ffitio o gwmpas ei hapwyntiadau ysbyty a’i rôl fel gofalwraig.

Ychwanegodd Emma: “Roeddwn i’n gofidio byddai bod heb gymwysterau TGAU wedi golygu na allai gyrfa mewn gofal iechyd byth fod yn opsiwn i mi a doeddwn i ddim yn gwybod am fodolaeth cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch, ond maen nhw wedi gweddnewid fy mywyd. Ar ôl dwy flynedd yn unig yn y coleg, rydw i wedi newid o fod yn unigolyn heb unrhyw gymhwyster i fod â 39 ‘rhagoriaeth’ ac wedi cael lle yn y brifysgol – rhywle na freuddwydiais i erioed y byddwn i’n ei gyrraedd. Byddwn yn argymell unrhyw un arall sy’n ystyried gwneud Cwrs Mynediad i fynd amdani!"

“Rwyf newydd fod ar fy lleoliad cyntaf fel Nyrs Anabledd Dysgu ac wedi ei wir fwynhau. Mae’n anodd credu fy mod yn gwireddu fy mreuddwyd o ran gyrfa ac yn gorfod pinsio fy hunan weithiau. Rwy’n teimlo bod gen i lawer i’w gynnig i’r diwydiant drwy fy mhrofiadau personol ac rwy’n ffaelu aros i gael cychwyn gweithio o ddifrif. Mae ennill gwobr fel hyn nawr yn goron ar y cwbl ac mae’n braf clywed rhai eraill yn fy nghanmol am fod yn ysbrydoliaeth.”

Yn dilyn ei llwyddiant yng ngwobrau Agored Cymru, mae enw Emma bellach wedi’i gyflwyno ar gyfer gwobr genedlaethol ‘Keith Fletcher’ lle bydd yn cystadlu yn erbyn enillwyr eraill o bob rhan o’r DU. Dyfernir y wobr i fyfyrwyr Mynediad i Addysg Uwch sydd wedi arddangos yr ymroddiad mwyaf i’w cwrs.

Dywedodd Tanya Gordon, tiwtor Emma yng Ngholeg Y Cymoedd: “Mae stori Emma yn gymaint o ysbrydoliaeth, ac mae hi’n gwir haeddu’r wobr y mae hi wedi’i derbyn. Fe weithiodd mor galed dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’n wirioneddol drawiadol sut mae hi wedi goresgyn cymaint ac wedi parhau i fod mor bositif drwy’r cyfan.”

“Rydyn ni mor falch ein bod wedi gallu helpu Emma ar ei thaith tua’r swydd mae hi wedi dyheu amdani – mae ei chynnydd wedi bod yn fwy na rhyfeddol ac rydyn ni’n sicr y bydd hi’n llwyddiant ysgubol yn ei rôl newydd!”

Dywedodd Darren Howells, Prif Weithredwr Agored Cymru:

“Mae Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru wedi’u cynllunio i ddarparu cyfleoedd i oedolion ddilyn eu dyheadau a chyflawni eu potensial trwy symud ymlaen i’r brifysgol ac yna ymlaen i ystod o yrfaoedd o nyrsio i gyfrifiadura, o blismona i feddygaeth.

Mae cwblhau Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn gofyn am lawer iawn o ymrwymiad ac yn aml, rhaid i ddysgwyr Mynediad i AU oresgyn rhwystrau sylweddol i gyflawni eu hamcanion.

Gyda chefnogaeth y timau ymroddedig yn y colegau rydym yn gweithio gyda nhw, mae llawer o straeon llwyddiant y gallwn eu rhannu am y cyflawniadau eithriadol y mae’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn eu hwyluso.

Mae Emma Hughes, a gwblhaodd y Diploma Mynediad i AU mewn Gofal Iechyd yng Ngholeg y Cymoedd yn 2022, yn enghraifft wych o sut y gall y cyfle hwn harneisio penderfyniad unigolyn i lwyddo a goresgyn rhwystrau gyda’r gallu i ddysgu a llwyddo ar y lefelau uchaf.

Mae Emma yn gwbl haeddiannol o Wobr Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru am Ymrwymiad Eithriadol i Astudio. Rydym yn ei llongyfarch ar y gamp hon ac yn dymuno pob llwyddiant iddi ar gyfer y dyfodol.”

~

Mae Agored Cymru yn datblygu, cymeradwyo a monitro Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch.

Rydym yn gweithio gyda chanolfannau i gynnig ystod eang o Ddiplomâu Mynediad i AU o Fiowyddoniaeth i Ofal Cymdeithasol.

Ewch yma i weld rhestr lawn o Ddiplomâu Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru.

Rydym yn Asiantaeth Dilysu Mynediad drwyddedig ac yn cael ein rheoleiddio gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA).

Astudiaethau Achosn Eraill