Mae dysgwr sydd wedi ennill dwy wobr yn dweud bod diploma Mynediad i AU wedi bod yn allweddol i’w llwyddiant


“Dw i dal methu credu fy mod i wedi ennill!” ~~ Mae Kelly Osborne, myfyriwr Grŵp Llandrillo Menai - Coleg Meirion Dwyfor, wedi ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Agored Cymru eleni am Gyflawniad Academaidd Eithriadol yn ogystal â gwobr genedlaethol Keith Fletcher yn yr un categori!

Darren & Kelly

Nid oedd Kelly bob amser yn gwybod beth roedd hi eisiau ei wneud pan adawodd yr ysgol - ar ôl ychydig flynyddoedd yn teithio'r byd, amser yn byw yn Fiji, dychwelodd Kelly i'r DU i weithio fel cynorthwyydd addysgu mewn ysgol gynradd ac yna symud ymlaen i ddysgu cymorth cyntaf oedolion ar gyfer y Groes Goch Brydeinig.

Yn ystod y blynyddoedd dilynol bu Kelly yn gweithio i sawl elusen wahanol ond collodd weithio ym myd addysg a chwrdd â gwahanol bobl.

“Symudais i Ogledd Cymru yn 2017 i weithio ym maes addysg awyr agored a threuliais y blynyddoedd nesaf yn mynd â phlant i wneud gweithgareddau anturus fel cerdded mynyddoedd, dringo creigiau, caiacio ac ati a dysgu pytiau o ddaearyddiaeth, bioleg ac ati allan yn y maes.”

Yn anffodus, pan darodd pandemig Covid yn 2020 collodd Kelly ei swydd, a chydag ymrwymiadau i reoli roedd yn hanfodol bod Kelly yn dod o hyd i waith yr oedd ei dirfawr angen arni.

“Fe wnes i wneud sawl swydd ran amser yn ystod y flwyddyn. Gweithiais fel glanhawr ar safle adeiladu, gwneuthurwr mewn stiwdio grochenwaith, brechwr ar y rhaglen frechu Covid, cynorthwyydd gofal iechyd yn yr ysbyty, a gwnes a gwerthais fy nghrefftau fy hun fel busnes bach.”

Er mawr syndod i Kelly sylweddolodd ei bod gwir wedi mwynhau gweithio ym maes gofal iechyd yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig brechu a gweithio yn y gymuned, gan ymweld â chleifion gartref. Dyna le dechreuodd ei thaith i ddilyn gyrfa mewn gofal iechyd!

“Roedd iechyd y cyhoedd ac iechyd menywod yn arbennig yn ddiddordeb a ddarganfyddais yn ystod fy amser yn Fiji ac er nad oedd gennyf unrhyw blant fy hun, rwyf bob amser wedi gweld beichiogrwydd yn hynod ddiddorol a theimlais fy hun yn cael fy nenu at Fydwreigiaeth. Pan wnes i ymchwilio i sut i ddod yn fydwraig a darganfod y byddai angen i mi wneud gradd, fe wnes i wfftio'r syniad ar unwaith oherwydd nad oedd mewn sefyllfa ariannol i ddechrau gradd 3 blynedd llawn amser. Roedd gen i deimlad hefyd nad oedd gen i fawr o siawns o gael lle ar y cwrs gan fy mod wedi bod allan o addysg am bron i 10 mlynedd bryd hynny ac roedd y gofynion mynediad yn gofyn am gymhwyster diweddar.”

Fodd bynnag, bu’r syniad a’r uchelgais yng nghefn meddwl Kelly am fisoedd ac yn y diwedd penderfynodd gofrestru ar y cwrs Mynediad i Addysg Uwch, a oedd yn golygu y gallai Kelly barhau i weithio ochr yn ochr ag astudio a gweld sut yr oedd pethau’n datblygu.

“Roeddwn i wrth fy modd gyda’r cwrs Mynediad i AU ac fe roddodd gymaint o angerdd o’r newydd i mi am ddysgu, roedd yn bendant yn un o’r pethau gorau i mi ei wneud ers tro! Roedd y dosbarth yn llawn o bobl ddiddorol o bob oed gyda llawer o brofiadau bywyd gwahanol ac roedd yn awyrgylch gefnogol iawn i ddysgu ynddo.”

“Mae’r cyfle i astudio a chymdeithasu’n ddwyieithog ar y cwrs Mynediad i AU wir wedi fy helpu i symud ymlaen gyda fy nysgu Cymraeg ac rwyf wedi magu hyder i ddefnyddio rhywfaint o Gymraeg gyda fy nghleifion.”

Parhaodd Kelly i weithio ochr yn ochr ag astudio a oedd yn her i reoli ei hamser ond roedd yn ymroddedig i gwblhau'r cwrs a llwyddo.

“Fe wnes i fwynhau’r agwedd academaidd ar y cwrs Mynediad i AU yn fawr ac rwy’n teimlo ei fod wedi fy helpu’n fawr i gael fy mhen yn ôl at ysgrifennu academaidd a chyflwyniadau. Gwnes gais i astudio gradd mewn Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor a derbyniais fy nghynnig ym mis Mai 2022 – mae’r cwrs yn wirioneddol orlawn felly doeddwn i ddim wedi disgwyl cael lle, felly yn amlwg roeddwn i wrth fy modd!”

Mae Kelly bellach 2/3 o'r ffordd drwy ei blwyddyn gyntaf fel myfyriwr Bydwreigiaeth ac mae wrth ei bodd ac yn gyffrous ar gyfer y dyfodol.

“Fe wnaeth y cwrs Mynediad i AU fy mharatoi’n dda ar gyfer y radd ac rwy’n falch iawn fy mod wedi dewis ei gwneud. Heb y cyfle a’r gefnogaeth a gynigir gan y tiwtoriaid (ac wrth gwrs gefnogaeth ddiddiwedd fy mhartner a’m teulu gwych) rwy’n amau a fyddwn i erioed wedi cofrestru yn y brifysgol ac wedi gallu dilyn yr yrfa rwy’n teimlo mor angerddol amdani.”

Wrth sôn am lwyddiant Kelly, dywedodd ei thiwtor Mynediad i AU Maia Jones : “Cynhyrchodd Kelly waith cyson sy’n haeddu gwobr o gyflawniad academaidd rhagorol. Roedd pob un o unedau Kelly ar draws y diploma ar lefel rhagoriaeth. Rhagorodd yn ei rôl fel cynrychiolydd dosbarth ac mae wedi bod yn ôl y flwyddyn academaidd hon i gynnig geiriau o gyngor i’r flwyddyn academaidd newydd a rhannu ei phrofiadau o’i chais llwyddiannus i astudio bydwreigiaeth.”

Dyma beth oedd gan feirniad Gwobrau cenedlaethol Keith Fletcher i’w ddweud am gyflawniadau Kelly : “Safon wych o waith ac arddangosiad o sgiliau academaidd. Bydd yr enwebiad sy’n amlygu eu rôl fel cynrychiolydd dosbarth a dychwelyd i gynnig geiriau o gyngor yn ysbrydoliaeth.”

~

Llongyfarchiadau unwaith eto i Kelly Osborne ar ei gwaith caled yn ystod ei hastudiaethau. Mae Agored Cymru yn cydnabod dy egni a dy ymroddiad ac rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu chwarae rhan yn dy daith i dy yrfa ddymunol. Dymunwn bob lwc a llwyddiant i ti yn dy ddyfodol.

Mae Agored Cymru yn datblygu, cymeradwyo a monitro Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch.

Rydym yn gweithio gyda chanolfannau i gynnig ystod eang o Ddiplomâu Mynediad i AU o Fiowyddoniaeth i Ofal Cymdeithasol.

Ewch yma i weld rhestr lawn o Ddiplomâu Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru.

Rydym yn Asiantaeth Dilysu Mynediad drwyddedig ac yn cael ein rheoleiddio gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA).

Astudiaethau Achosn Eraill