“Dechrau’r cwrs Mynediad oedd un o’m penderfyniadau gorau”


Yn wreiddiol o Kurdistan, yng Ngogledd Iraq, ac yn gweithio yno fel nyrs anesthetig, fe symudodd Shokhan Hasan i’r DU i briodi ym mis Awst 2010 ac i fyw yng Nghaerdydd. Ar yr adeg yma dim ond Kurdish yn unig oedd Shokhan yn gallu siarad, gyda’i bwriad yn y lle cyntaf o ddysgu Saesneg, er mwyn bwrw ymlaen gyda’i astudiaethau.

“Dechrau’r cwrs Mynediad oedd un o’m penderfyniadau gorau”

Yn 2016, fe gofrestrwyd Shokhan ar gwrs Diploma Sgiliau i Astudio Ymhellach yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro (CAVC). Wedyn i ddatblygu ei sgiliau Saesneg ymhellach, symudodd Shokhan ymlaen i astudio’n rhan amser ar gyfer Diploma Mynediad i Wyddorau Iechyd.

Mae Shokhan yn disgrifio ei phrofiad fel hyn: 

“Ni fuaswn yma heddiw heblaw am y staff a’r athrawon yn y Coleg. Wnai byth anghofio'r gefnogaeth ffeind a’r geiriau calonogol a gefais ganddynt pryd bynnag roeddwn i’n cael trafferth. Roedd y blynyddoedd yma’n galed ofnadwy i mi. Mae bywyd yn cynnig digwyddiadau anrhagweladwy i mi bob amser.

Yn 2018, fe dderbyniodd Shokhan y newyddion trist fod ei rhieni wedi marw. Er hynny, roedd ei hagwedd bositif a’i rhagolygon optimistaidd ar fywyd yn gymorth i Shokhan fwrw ymlaen gyda’i astudiaethau drwy’r cyfnod galar yma, er mwyn cyflawni ei huchelgeisiau.

Drwy gydol ei hastudiaethau, roedd Shakhan yn gofalu am ddau o blant, gwirfoddoli mewn ysbyty plant a gweithio ar ei aseiniad Mynediad drwy’r ddwy flynedd y pandemic. Er gwaethaf yr heriau hyn, ni fethodd Shokhan unrhyw wers neu ddyddiad cau. Mae ei hagwedd tuag at ei astudiaethau a’i gyrfa yn esiamplaidd.

Yn ystod ei hail flwyddyn o’r cwrs Mynediad, daeth Shokhan yn feichiog, ond parhaodd gyda’r un graean a phenderfyniad- yn bwrw ymlaen i astudio ac yn methu dim ond pythefnos o wersi ar ôl geni ei babi. Dygymydodd yn wych a chwrs dwys, ar yr un adeg yn rheoli gwaith ysgol gartref i’w ddau blentyn tra’n gofalu am y babi newydd - i gyd gyda gwen ar ei hwyneb.

Hefyd, roedd Shokhan yn ceisio wynebu iselder ar ôl geni, ond unwaith eto yn parhau i gyflwyno aseiniadau gwych ar amser.

Mae Shokhan yn trafod ei phrofiad:

“Nid yw astudio mewn ail iaith yn hawdd, ac mae’n gallu creu nifer o rwystrau. Yn ychwanegol, mae gofalu dros blant, heb gymorth teuluol ac mewn gwlad ddieithr yn cymhlethu bywyd.

Fodd bynnag, roedd dechrau’r cwrs Mynediad yn un o’m penderfyniadau gorau – fy nod oedd cyflawni digon o ragoriaethau i ddechrau yn y brifysgol.

Rwy’n falch o ddweud fy mod wedi ennill 36 rhagoriaethau a 9 teilyngdod, er fy mod wedi wynebu heriau a chaledi drwy’r cyfnod yma.”

Roedd Julie Pritchard a Sal Willetts, tiwtoriaid Shokhan yn CAVC, yn falch o enwebu hi am y Wobr Dysgwr y Flwyddyn Agored Cymru:

Mae Shokhan yn ddynes a myfyrwraig benderfynol ac ymroddedig iawn. Fe ddechreuodd hi gyda ni ar Lefel 2 o’r cwrs Sgiliau i Astudio Ymhellach, yn gwario oriau yn cyfieithu aseiniaid ar draws sbectrwm eang o bynciau, er mwyn cwblhau gwaith mewn amser a chyflawni’r diploma. I ddatblygu ei sgiliau Saesneg ymhellach, symudodd Shokhan ymlaen i gwrs Mynediad i Wyddorau Iechyd ar ran amser.”

Er mai Saesneg yw ail iaith Shokhan, mae ei sgiliau wedi datblygu dros gyfnod y cwrs ac erbyn diwedd y flwyddyn, fe gynhyrchodd hi waith gwych a datblygodd ei sgiliau yn arw iawn drwy’r broses”

Nawr, mae Shokhan yn fam i dri ac yn gweithio fel cynorthwyydd gofal, wrth geisio am Nyrsio Oedolion.

Llongyfarchiadau unwaith eto i Shokhan Hasan am ei gwaith caled drwy ei hastudiaeth. Mae Agored Cymru yn cydnabod eich ysfa a’ch ymroddiad ac wrth ein boddau i chwarae rhan ar eich taith i’ch gyrfa ddymunol. Fe ddymunwn bob lwc a llwyddiant i chi yn eich dyfodol.

 

~

 

Mae Agored Cymru yn datblygu, cymeradwyo a monitro Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch.

Rydym yn gweithio gyda chanolfannau i gynnig ystod eang o Ddiplomâu Mynediad i AU o Fiowyddoniaeth i Ofal Cymdeithasol.

Ewch yma i weld rhestr lawn o Ddiplomâu Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru.

Rydym yn cael ein trwyddedu a'n rheoleiddio gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA).

Astudiaethau Achosn Eraill