“Nid yw oedran yn rhwystr. Os ydych chi wir angen rhywbeth – ewch amdani!”


Doedd Lorna Hughes ddim eisiau bod yn nyrs yn wreiddiol. Y gwir yw, fe astudiodd Ieithoedd ym Mhrifysgol Lancaster, cyn bwrw ymlaen i weithio am nifer o flynyddoedd fel cyfieithydd. Ond, ar ôl cael plentyn, a gofalu am ei thad, fe sylweddolodd Lorna mai nyrsio oedd y ffordd ymlaen i’w bywyd a’i gyrfa.

“Nid yw oedran yn rhwystr. Os ydych chi wir angen rhywbeth – ewch amdani!”

Yn 49 oed, credodd Lorna ei bod yn rhy hwyr i’w cael ei derbyn yn y Brifysgol. Fodd bynnag, gyda’i phlant yn tyfu i fyny ac yn fwy annibynnol, fe dyfodd hefyd yr awydd iddi hi ddilyn gyrfa mewn nyrsio.

Felly, aeth Lorna ymlaen i ddarganfod y cwrs Mynediad i Addysg Uwch yn ei choleg lleol yn Llandrillo. Dywedodd Lorna:

“Roeddwn yn mwynhau’r cwrs Mynediad yn arw yn Llandrillo. Roedd fy nhiwtor, Holly, mor gefnogol ac anogol. Erbyn hyn, roeddwn i’n 50 oed ac yn meddwl bod fy oedran yn rhwystr, ond wnaeth Holly helpu mi sylweddoli nad oedd hyn yn wir o gwbl”

Fe astudiodd Lorna y cwrs Mynediad yng Ngholeg Llandrillo, gyda Holly fel tiwtor, ac fe enwebodd hi Lorna am y Wobr Dysgwr y Flwyddyn Agored Cymru

“Roedd Lorna yn fyfyrwraig wych ar y cwrs mynediad iechyd a gofal, yn gynrychiolydd y cwrs ac yn cynnig cefnogaeth academaidd ac emosiynol i’w chyfoedion wrth weithio ar-lein drwy gyfnod Covid-19

Gwariodd Lorna gryn dipyn o’i hamser rhydd i gefnogi’r myfyrwyr yma a chredaf fod nifer ohonynt yn ddiolchgar iddi hi eu helpu nhw drwy’r flwyddyn heriol iawn i gwblhau’r cwrs”

Enillodd Lorna yr holl unedau graddedig ar lefel rhagoriaeth, ac yn ychwanegol y wobr fewnol Dysgwr Mynediad y Flwyddyn gan Goleg Llandrillo.

Derbyniwyd Lorna ar gwrs Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Bangor a dywedodd y fam o ddwy:

“Fe ddechreuais fy ngradd ym mis Medi 2021 ac rwy’n mor falch o gwblhau’r Cwrs Mynediad, sydd wedi fy mharhau yn wych ar gyfer bywyd academaidd. Rwy’n mwynhau’r Cwrs Gradd a’r lleoliadau nyrsio yn arw ac edrychaf ymlaen at fy ngyrfa nyrsio ar ôl diwedd y tair blynedd nesaf”

Yn wreiddiol o’r Alban, mae Lorna yn byw nawr yng Nglan Conwy, Gogledd Cymru, gyda’i gwr, dwy ferch yn eu harddegau a menagerie o gathod a cwn!!

 

~

 

Llongyfarchiadau unwaith eto i Lorna Hughes am ei gwaith caled drwy ei hastudiaeth a’i chefnogaeth i eraill o’i chwmpas yn ystod amser mor heriol. Mae Agored Cymru yn cydnabod eich ysfa a’ch ymroddiad ac wrth ein boddau i chwarae rhan ar eich taith i’ch gyrfa ddymunol. Fe ddymunwn bob lwc a llwyddiant i chi yn eich dyfodol.

 

Mae Agored Cymru yn datblygu, cymeradwyo a monitro Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch

Rydym yn gweithio gyda chanolfannau i gynnig ystod eang o Ddiplomâu Mynediad i AU o Fiowyddoniaeth i Ofal Cymdeithasol.

Ewch yma i weld rhestr lawn o Ddiplomâu Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru.

Rydym yn cael ein trwyddedu a'n rheoleiddio gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA).

Astudiaethau Achosn Eraill