Siwrnai anhygoel mam sengl o dde Cymru wnaeth wrthod gadael i’r gorffennol ddiffinio ei dyfodol


Ar ôl cael ei cham-drin a’i hesgeuluso’n ddifrifol am flynyddoedd lawer, ar ôl colli ei rhieni ac ar ôl treulio amser mewn gofal, penderfynodd y fam sengl, Karly Jenkins o Lanelli, ailysgrifennu ei dyfodol a dychwelyd i addysg.

\\ocnwales.local\Agored2\FCS\Marketing & communication\Marketing\Photography\Events\AHE Awards Jan 1
Karly Jenkins

Cafodd penderfyniad a gwytnwch  y ferch 26 oed eu gwobrwyo eleni pan enillodd Wobr Dysgwr y  Flwyddyn ‘Ymrwymiad Rhagorol i Astudio’, Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru.
Meddai Karly:
 
"Cefais blentyndod anodd iawn; trais, caethiwed i sylweddau, camdriniaeth ac esgeulustod, marwolaeth fy rhieni a gorfod mynd i ofal. Wrth dyfu i fyny, collais lawer o ysgol a oedd yn golygu fy mod i wastad ar ei hôl hi. Roeddwn hefyd yn cael fy mwlio’n ddrwg am flynyddoedd lawer oherwydd lliw fy ngwallt, fy nillad budr neu fy esgidiau rhacs ac rwyf bellach yn rhannol ddall mewn un llygad ar ôl cael fy nharo yn fy llygad â charreg. Roedd yr ysgol yn anodd iawn. Roedd yr athrawon yn aml yn fy niystyru oherwydd fy sefyllfa. Wnes i erioed deimlo fy mod i’n cael cefnogaeth na gofal yn yr ysgol. Fe wnaethant fy annog i adael yn gynnar a mynd i goleg. Nid oedd neb yn disgwyl i mi gael mwy nag un TGAU ond doeddwn i ddim eisiau gadael. Roeddwn i wrth fy modd. Dyma fy nihangfa o’m bywyd gartref."
 
Fodd bynnag, yn 16 oed, a hanner ffordd drwy ei arholiadau TGAU, bu’n rhaid i Karly helpu i ofalu am ei brodyr ar ôl i’w mam farw’n sydyn.

Er iddi basio 7 TGAU, gadawodd Karly y byd addysg a chael ei dal mewn perthynas dreisgar pan fu’n ddigartref am gyfnodau.
 Karly ymlaen:
 
"Rhywsut, mi gefais i nerth i adael  y berthynas. Cefais help gan loches i fenywod a dechrau ail-adeiladu fy mywyd. Cefais waith ag EE a Gamestation a dechrau perthynas â thad fy merch. Flwyddyn i mewn i’r berthynas, roeddwn i’n feichiog â’m merch, Abigail. Roedd yn feichiogrwydd anodd dros ben, a chefais ddwy strôc a adawodd greithiau ar fy ymennydd. Doedd y meddygon ddim yn deall sut wnaethon ni fyw. Pan ddywedodd y meddygon wrthyf y dylai Abigail fod wedi marw, syrthiais i drobwll o orbryder. Dechreuais glywed lleisiau a chefais byliau seicotig."
 
Ond wrth i’r amser i Karly ddychwelyd i’r gwaith nesáu, cafodd chwalfa nerfol a cheisiodd help gan Dîm Argyfwng Clinig Iechyd Meddwl Brynmair. Cafodd Karly ei diagnosio â PTSD difrifol, a dechreuodd ar ei siwrnai at wellhad â help Therapi Ymddygiad Dialectig a Therapi Trawma. Mae hefyd wedi dod yn Gristion ac mae hynny wedi ei helpu yn ei bywyd bob dydd.
Yn ystod un o’r sesiynau therapi, dechreuodd Karly ystyried pa fath o ddyfodol fyddai ganddi tybed.
 Karly ymlaen:
 
"Penderfynais fy mod eisiau dychwelyd i addysg a bod yn weithiwr cymdeithasol, yn helpu plant a theuluoedd mewn sefyllfa debyg i mi. Awgrymodd fy therapydd y dylwn edrych i mewn i Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch."
 
Ar ôl gwneud ychydig o ymholiadau, aeth Karly i ddiwrnod agored yn Ngholeg Gwyr Abertawe lle cyfarfu â rhai o’r tiwtoriaid Mynediad a chwblhau’r asesiadau cychwynnol yn llwyddiannus. Ym mis Medi 2017, dechreuodd Karly ar ei siwrnai’n ôl i addysg a chofrestru ar gyfer Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn Gofal Cymdeithasol.
 Karly ymlaen:
 
"Doedd hi ddim yn hawdd dychwelyd i addysg. Am gyfnod hir, yr unig adeg roeddwn i’n gadael y t ˆy oedd i fynd i’m therapi. Doeddwn i ddim yn hoffi s ˆwn ac roeddwn i’n cael pyliau o banig difrifol. Roeddwn i’n hollol paranoid ac yn cael problemau
â rhithweledigaethau. Roedd yn rhaid i mi ddysgu sut i fod ynghanol pobl mewn lleoliad cymdeithasol. Roeddwn i’n meddwl fy mod yn mynd i golli Abigail, yn union fel wnes i golli fy rhieni. Roedd yn rhaid i mi hefyd adennill hai sgiliau bywyd sylfaenol yn ogystal â dysgu sut i astudio eto."
 
Fodd bynnag, gyda chefnogaeth barhaus ei thiwtoriaid<

Astudiaethau Achosn Eraill