Myfyriwr Hŷn o Abertawe yn Profi bod Penderfyniad a Gwaith Caled yn Talu ar ei Ganfed


Llwyddodd mam i dri o blant, Vicki Brooke (Gooden cyn priodi), 33 oed, o Abertawe i ganfod yr hyder a’r penderfyniad i ddychwelyd i’r coleg i wireddu ei breuddwyd o fod yn fydwraig.

Vicki Brooke
Vicki Brooke

Ar ôl gadael yr ysgol gydag un neu ddau o gymwysterau TGAU, roedd Vicki yn credu am flynyddoedd lawer y byddai’n ‘gaeth’ i swyddi nad oedd eisiau eu gwneud, a cheisio ymdopi â’r heriau dyddiol o fod yn rhiant ar incwm isel.

Tra’r oedd yn gweithio mewn cartref nyrsio lleol dechreuodd Vicki ymchwilio i sut y gallai hyfforddi i fod yn fydwraig. 

Dywedodd Vicki, "Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda phobl erioed.  Ond dim ond ar ôl cytuno i fod yn bartner genedigaeth i fy chwaer y sylweddolais fy nyhead cryf iawn i fod yn fydwraig."

Er gwaethaf ei diffyg hyder a nerfau, cofrestrodd Vicki ar gwrs cyn mynediad deuddeg wythnos yng Ngholeg Gŵyr Abertawe cyn dechrau ar Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru mewn Gofal Iechyd.  Mae’r Diploma hwn yn darparu cyfleoedd i wneud cynnydd i addysg uwch i astudio nyrsio, bydwreigiaeth ac ystod eang o bynciau eraill sy’n gysylltiedig â galwedigaethau iechyd.

Dywedodd Vicki, "Nid oedd yn benderfyniad hawdd i mi adael fy swydd llawn amser a dychwelyd i’r coleg fel myfyriwr hŷn.

"Nid oedd gennyf unrhyw hyder.  Yr unig gymwysterau a oedd gennyf oedd rhai cymwysterau TGAU a chymhwyster y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau mewn Gofal Iechyd a Chymdeithasol a wnes wrth weithio yn y cartref nyrsio.

"Roedd yn rhaid i mi ddysgu i ddarllen a deall testun academaidd, rhoi cyflwyniadau a siarad yn gyhoeddus.

"Ond yr her fwyaf i mi oedd ceisio trefnu fy mywyd teuluol ac astudio’n llawn amser.”

Fodd bynnag, gyda chymorth ei thiwtoriaid ac agwedd broffesiynol gadarnhaol a threfnus iawn, fe ragorodd Vicki.

Dywedodd Rhian Ellis, tiwtor Vicki, "Fel ei thiwtor, rwyf wedi dod i adnabod Vicki’n eithaf da yn ystod y flwyddyn.  Mewn amgylchiadau personol a fu’n heriol yn aml, roedd Vicki yn parhau i fod yn gadarnhaol, yn ddigynnwrf a phragmatig.

"Mae ei hymdrech a’i hagwedd eithriadol wedi talu ar ei ganfed yn nhermau cyflawniad aruthrol.

"Mae gan Vicki botensial aruthrol.  Rwy’n falch iawn ei bod wedi dewis ein coleg ni i’w helpu i gyflawni ei llwybr i’r brifysgol.  Mae wedi bod yn ased gwirioneddol i’r cwrs.”

Yn 2015, derbyniodd Vicki ei Diploma Agored Cymru mewn Gofal Iechyd a derbyniodd yr ail wobr yng Ngwobrau Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru am ‘Gyflawniad Academaidd Eithriadol’.

Dywedodd Vicki, "Mae’r profiad hwn nid yn unig wedi rhoi cyfleoedd newydd i mi ond hefyd hyder yn academaidd ac yn broffesiynol.

"Yr hyn sydd wedi fy ysgogi yw fy nyhead i ddilyn gyrfa ym maes cystadleuol Bydwreigiaeth a hefyd i sicrhau bywyd gwell i mi a fy nheulu.

"Roedd yn sicr yn werth yr ymdrech.  Rwy’n gwneud cais yn awr i’r Brifysgol i ddilyn gradd mewn Bydwreigiaeth.”

Astudiaethau Achosn Eraill