Mae'r cymhwyster Symud Ymlaen wedi helpu Paige Williams, sy’n 16 oed, i baratoi ar gyfer bywyd yn y Lluoedd Arfog.


Mae Paige, sy’n ddisgybl 16 oed yn Ysgol Gyfun Treforys yn Abertawe, yn astudio cymysgfa o TGAU, Bagloriaeth Cymru, Trin Gwallt a chymwysterau mewn Lletygarwch ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Paige Williams
Paige Williams

 “Yn wreiddiol roeddwn i wedi meddwl gwneud rhywbeth gyda chwaraeon ond mi roddais i'r gorau i TGAU Addysg Gorfforol ar ôl i mi gael llawdriniaeth i dynnu fy mhendics oedd yn golygu nad oeddwn i’n gallu ymdopi â chymaint o weithgarwch corfforol.”

Mae tad Paige yn y fyddin ac oddi cartref.  Felly nawr mae ganddi ddiddordeb mewn bod yn barafeddyg, yn yr Awyrlu, o bosib.

“Rydw i wedi bod yn gweithio’n galed i godi lefel fy ffitrwydd ac rydw i’n gwybod bod yn rhaid i mi wneud yn dda yn academaidd eleni os ydw i am gael mynediad i'r coleg i wneud y cwrs rydw i eisiau ei wneud tan rydw i'n gallu ymuno â’r Awyrlu.”

Mae Paige yn gobeithio y bydd y Dystysgrif Lefel 2 mewn Sgiliau Annibyniaeth (Symud Ymlaen) yn rhoi hwb iddi gael y pwyntiau sydd eu hangen arni.  Mae hi eisoes wedi cwblhau'r Dyfarniad Lefel 2 drwy orffen yr uned mewn Rheolaeth Bersonol ac mae hi wrth ei bodd â'r ffordd y mae’r cwrs wedi'i drefnu.

“Mae'r uned gyntaf yn ein cyflwyno i lawer o'r meysydd pwnc y mae angen i ni ymdrin â nhw ar gyfer y dystysgrif lawn ac mae'r bedair uned sy'n weddill yn adeiladu ar y wybodaeth hon ac yn ymdrin â phethau yn fwy manwl, felly rydw i'n teimlo’n hyderus fy mod i’n mynd i gwblhau bopeth mewn pryd.”

Mae Paige yn credu bod y cymhwyster Symud Ymlaen wedi ei helpu i baratoi ar gyfer bywyd yn y Lluoedd Arfog.

“Mae’r wybodaeth a’r sgiliau rydw i’n eu meithrin o ganlyniad i'r cwrs hwn wedi bod yn ddefnyddiol iawn mewn bywyd go iawn.  Rydw i’n gweld gwerth mewn dysgu sut i gyllidebu’n effeithiol ac ymchwilio i rai o'r arbedion y gallwn eu gwneud drwy brynu nwyddau sy’n rhoi gwerth am arian neu drwy fod yn ymwybodol o’r technegau y mae gwerthwyr yn eu defnyddio i fy mherswadio i wario'r arian rydw i wedi gweithio mor galed i'w gael.”  

“Rydw i hefyd wedi mwynhau'r elfen paratoi bwyd a choginio oedd yn rhan o'r cymhwyster: roedd ein pryd tri chwrs yn flasus iawn ac mi wnes i fwynhau'r cawl cennin a thatws wnaethon ni gyda’r bara caws a pherlysiau a minnau wirioneddol yn meddwl na fyddwn i'n ei hoffi!  Roedd yn ddiddorol bwyta gyda’r grŵp mewn sefyllfa gymdeithasol - roedd yn gyfle i ni weld beth oedd y bobl eraill wedi'i goginio.”

Mae tiwtor Paige, Sandra Morgan, sydd hefyd yn gydlynydd y Cymhwyster yn Ysgol Gyfun Treforys, yn cytuno bod y sesiwn goginio yn ddefnyddiol. “Roedd yn amlwg nad oedd rhai o'r disgyblion erioed wedi coginio pryd o'r dechrau un o'r blaen gan ddilyn rysáit a defnyddio cynhwysion ffres. Roedd y profiad yn gyfle iddynt ddysgu sgiliau byw a pharatoi eu hunain ar gyfer byw’n annibynnol.  Mae rhai o'r pynciau yr ymdriniwyd â nhw eisoes wedi cael sylw fel rhan o’n sesiynau Gyrfaoedd ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) yn yr ysgol ond mae’n syniad da treulio mwy o amser ar rai o'r meysydd hyn ac achredu'r hyn mae'r disgyblion yn ei ddysgu.”

Mae Sandra wedi sefydlu cyfres o ffeiliau dysgwyr sy'n golygu bod disgyblion yn gallu gweithio ar eu cyflymder eu hunain unwaith y mae hi wedi cyflwyno'r hanfodion iddynt neu ar ôl esbonio'r adnoddau.

“Rydw i wrth fy modd â’r ffordd hon o ddysgu” esboniodd “Mae’n wirioneddol yn apelio at ein disgyblion. Mae rhai yn dod i nôl eu ffeiliau er mwyn gweithio ar bethau pan mae ganddyn nhw amser rhydd ar ôl yr ysgol neu yn ystod amser cinio ac mae rhai disgyblion yn cefnogi ei gilydd drwy rannu gwefannau a dod â thaflenni y maen nhw wedi dod o hyd iddyn nhw i mewn gyda nhw os ydynt yn cynnwys gwybodaeth berthnasol.”

Darllen yr astudiaeth achos llawn.

Lawrlwytho Fersion PDF

Astudiaethau Achosn Eraill