Roedd Cory, sy’n 17 mlwydd oed, ar y ffordd i ennill llond llaw o gymwysterau TGAU yn ei ysgol gyfun pan fu’n rhaid iddo gael amser o'r ysgol yn dilyn damwain. O ganlyniad, roedd ar ei hôl hi gyda’i waith.


Erbyn Blwyddyn 11, roedd cyfraddau presenoldeb Cory yn wael ac, o ganlyniad, ni lwyddodd i ennill y graddau TGAU oedd ei angen arno. “Cefais fy nerbyn ar gwrs Lefel 2 i wneud chwaraeon yn y coleg, a fy newis i chwarae rygbi i academi’r coleg” esboniodd.

Cory Jenkins
Cory Jenkins

Yn anffodus, cafodd Cory ddamwain wrth chwarae'r gêm roedd o mor hoff ohoni, lle cafodd gyfergyd.  Penderfynodd Cory nad oedd arno eisiau ymwneud â chwaraeon ar y lefel honno bellach, a gadawodd y coleg.

Ond, mae wedi troi pethau ar eu pennau erbyn hyn. Mae ganddo swydd amser llawn fel prentis plymer gyda City Plumbing lle mae’n astudio tuag at gymhwyster Lefel 2. Mae’n gweithio oriau ychwanegol bob cyfle mae’n ei gael ac yn gweithio’n galed, gan wenu wrth ddweud “Rydw i wirioneddol yn mwynhau fy ngwaith: Rydw i’n hoffi'r bobl rydw i'n gweithio â nhw ac, er bod y gwaith yn her, rydw i’n mwynhau bod yn brysur.”

Mae Cory hefyd yn newid i fyw’n annibynnol ac mae’n rhan o Raglen Byw’n Annibynnol sy’n cael ei redeg gan Priority Childcare yn y cartref preswyl lle mae’n byw mewn fflat â chymorth.  Er mwyn sicrhau bod Cory yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i’w gefnogi gyda’r newid hwn, mae Gweithiwr Trosglwyddo Priority Childcare, Chantal Stone, yn darparu Tystysgrif Lefel 2 Agored Cymru mewn Sgiliau Annibyniaeth (Symud Ymlaen).

“Mae'r cymhwyster yn ymdrin â chymaint o bethau” meddai Cory “ac mae’n rhaid i mi ddarparu tystiolaeth fy mod yn gwybod am lawer o bethau gwahanol.” Er enghraifft, mae ymwybyddiaeth iechyd rhywiol ac atal cenhedlu yn rhan o'r cymhwyster.  Cyn y cwrs, dywedodd Cory nad oedd yn gwybod am yr holl ddulliau gwahanol o atal cenhedlu, tan y bu'n rhaid iddo ymchwilio iddynt a chanfod ble roedd yn gallu mynd i gael cymorth gyda hyn yn lleol.

Maes arall y mae'r cymwysterau’n ymdrin ag ef yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol. “Roeddwn i’n gwybod bod gen i hawliau o dan CCUHP oherwydd bod Dinas a Sir Abertawe wedi gwreiddio'r CCUHP yn y ffordd y maent yn gosod eu polisïau. Roeddwn i hefyd yn ymwybodol o'r Comisiynydd Plant, ond doeddwn i ddim yn gwybod digon am fy hawliau pan fyddwn yn troi’n 18, na ble rydw i’n gallu mynd os na fydd fy hawliau’n cael eu parchu.”

Dywedodd Cory “Roedd rhai o bynciau'r cymhwyster, fel cytundebau tenantiaeth a thai, wedi cael eu trin a’u trafod fel rhan o’r rhaglen roeddwn i’n ei dilyn ar gyfer symud i mewn i fy fflat fy hun.  Mae'r cymhwyster Symud Ymlaen yn golygu fy mod i’n cael f'achredu am ddysgu rhywbeth roeddwn i'n ei wneud beth bynnag, felly mae hynny'n grêt!”

Mae rhai o'r pynciau roedd y cymhwyster yn ymdrin â nhw wedi bod yn broc defnyddiol iawn i'r cof o safbwynt Cory “Roeddwn i wedi dysgu am gamddefnyddio sylweddau ac ysgrifennu CV yn fy ngwersi ABCh yn yr ysgol, ond mae hynny’n teimlo’n bell iawn yn ôl i mi erbyn hyn, mae yna gymaint o bethau wedi newid yn fy mywyd.”

Mae Cory hefyd wedi dysgu sgiliau mewn meysydd newydd. “Rydw i'n falch fy mod i’n cael y cyfle i edrych ar f’addysg ariannol a dysgu am hawliau'r defnyddiwr”.

Mae ei diwtor, Chantal Stone yn falch iawn o'r cynnydd mae Cory yn ei wneud. “Mae Cory wedi bod yn ddysgwr brwdfrydig ac mae’n cyflwyno gwaith da o safon uchel. Mae Cory wedi gorffen yr uned gyntaf ac wedi cael ei Ddyfarniad Lefel 2.  Mae nawr yn gweithio tuag at ei Dystysgrif. Mae cysylltiad rhwng llawer o unedau'r Dystysgrif a'r gwaith y mae eisoes wedi'i wneud ar gyfer y Dyfarniad, felly mae’n gyfle i mi edrych yn fwy manwl ar bethau fel perthnasoedd personol a dinasyddiaeth.”

Ychwanega fod y cymwsterau wedi bod yn ffordd wych o sicrhau bod Cory yn parhau i ymgysylltu â'r Rhaglen Byw’n Annibynnol. Darllen yr astudiaeth achos llawn.

Lawrlwytho Fersion PDF

Astudiaethau Achosn Eraill