Rhondda Cynon Taf yn Datblygu Dull Dweithredu Arloesol i Ymgysylltu â Dysgwyr
Mae awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf yn Ne Cymru wedi datblygu dull arloesol gan ddefnyddio unedau a chymwysterau Agored Cymru i roi Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, Cynllun Gweithredu a Strategaeth Genedlaethol Cymru ar gyfer Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru ar waith.
Datblygwyd y dull hwn gan Wasanaeth Ymgysylltiad a Chyfranogiad Ieuenctid Rhondda Cynon Taf fel rhan o gynllun dwy flynedd yr awdurdod lleol ar gyfer rhoi'r fframwaith ar waith yn effeithiol.
Mae ysgolion uwchradd Rhondda Cynon Taf yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau addysg eraill i gyflwyno rhaglenni addysg a hyfforddiant sydd wedi'u cynllunio'n benodol i wneud y canlynol:
- ymgysylltu â dysgwyr a'u helpu i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol,
- creu cyfleoedd i ddysgwyr gyflawni cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol,
- cefnogi pobl ifanc i oresgyn rhwystrau i ddysgu, a
- darparu cyfleoedd i bobl ifanc symud ymlaen at ddysgu pellach, cyflogaeth, gwirfoddoli a hunangyflogaeth.
Mae'r rhaglenni addysg a hyfforddiant achrededig yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd pwnc yn cynnwys iechyd a lles, cyfranogiad gwirfoddol a chymunedol a mentergarwch a chyflogadwyedd.
Ers datblygu'r dull hwn o weithredu, mae holl ysgolion uwchradd Rhondda Cynon Taf wedi dod yn ganolfannau a gydnabyddir gan Agored Cymru a gallant ddarparu unedau a chymwysterau Agored Cymru.
Mae'r gwasanaeth Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid hefyd wedi pennu dau aelod o staff llawn amser i bob ysgol uwchradd sydd â'r dasg o ddarparu gweithgareddau ymgysylltu gan ddefnydio unedau a chymwysterau Agored Cymru.
Darllen yr astudiaeth achos llawn.
Lawrlwytho Fersion PDF