Mynediad i Addysg Uwch - Cofrestru 2024-25

Gofynion

  • Rhaid i ddysgwyr sy’n ymgymryd â Diploma Mynediad i Addysg Uwch fod wedi cofrestru a’u hardystio ar gyfer unedau sy’n dod i gyfanswm o ddim mwy na 60 o gredydau, beth bynnag fo’u dull astudio.
  • Rhaid i ganolfannau sicrhau bod ffurflenni cofrestru wedi cael eu hanfon at Agored Cymru cyn pen 42 diwrnod i ddyddiad dechrau’r cwrs y mae’r dysgwyr wedi cofrestru ar ei gyfer (diwrnod cyntaf yn bresennol gan gynnwys y cyfnod ymsefydlu).
  • Rhaid i ddysgwyr sy’n ymuno â’r cwrs ar ôl y diwrnod cyntaf penodol o fod yn bresennol fod wedi cofrestru ar gyfer rhaglen ychwanegol (fel carfan benodol) sy’n cynnwys y dyddiad dechrau penodol y bydd y cyfnod cofrestru o 42 diwrnod yn berthnasol iddo.
  • Rhaid i ddysgwyr gofrestru ar gyfer unedau sy’n dod i gyfanswm o 60 o gredydau erbyn diwedd wythnos chwech.  Mae modd gofyn am newid yr unedau mae dysgwyr wedi cofrestru ar eu cyfer hyd at ddiwedd wythnos 12 neu cyn bydd y dysgwr yn gwneud cais ffurfiol ar gyfer cwrs addysg uwch drwy UCAS neu unrhyw broses ymgeisio arall, pa bynnag ddyddiad a ddaw gyntaf.
  • Codir tâl ar ganolfannau am unrhyw newidiadau a gymeradwyir i gofrestriadau tu allan i’r cyfnod cofrestru a nodir. Gweler prisiau 2023-2024 er gwybodaeth.
  • Canllawiau
  • Trosglwyddo credyd / ffurflen gais RPL

 

Dyddiad cau ar gyfer cofrestru

Er mwyn cydymffurfio â gofynion yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd i gofrestru dysgwyr ar Ddiplomâu Mynediad i Addysg Uwch ar gyfer pob uned sy’n dod i gyfanswm o 60 o gredydau cyn pen 6 wythnos i’w dyddiad dechrau, mae’n rhaid i ganolfannau gyflwyno eu ffurflenni cofrestru erbyn 14 Hydref 2024 fan bellaf. Mae hyn yn berthnasol i’r dyddiad dechrau cyffredinol, sef 02 Medi 2024. Rhaid cofrestru dysgwyr sy’n cofrestru’n hwyr ar raglen ar wahân.  

Sylwch fod rhaid i ganolfannau gyflwyno cofrestriadau erbyn 17 Chwefror 2025 fan bellaf ar gyfer derbyniadau mis Ionawr 2024. Mae hyn yn seiliedig ar ddyddiad cychwyn tybiedig o 06 Ionawr 2025. Cysylltwch â accesstohe@agored.cymru os oes unrhyw garfanau Mynediad i Addysg Uwch yn dechrau ar gyrsiau ar ôl 06 Ionawr 2025 er mwyn gallu cymeradwyo dyddiad cau ar gyfer cofrestru yn nes ymlaen.

Ffioedd

Bydd ffi’n cael ei chodi am gofrestru yn fuan ar ôl cofrestru.

 


Diwygio Unedau Cofrestredig

Ni fydd gan ganolfannau hawl i ddiwygio cofrestriadau fel rheol. Bydd Agored Cymru yn ystyried unrhyw amgylchiadau eithriadol. Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy ddefnyddio’r ffurflen hon - Cais i Ddiwygio Cofrestriad, a’i hanfon at cefnogaeth.canolfan@agored.cymru. Codir tâl ar ganolfannau am bob cofrestriad a gymeradwyir tu allan i’r cyfnod cofrestru a nodir.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y canllawiau.