Mae'n hawdd ac yn ddiogel rhannu eich e-dystysgrifau ar Veri.

Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu mewngofnodi ar unrhyw adeg i weld a rhannu’r e-dystysgrifau yn ddiogel. Ar ôl mewngofnodi, yr opsiynau cyntaf y byddwch chi’n eu gweld yw i fynd i’ch tystysgrifau neu i’ch cysylltiadau. Mae modd rhannu tystysgrifau drwy’r Cysylltiadau.

Mae dewislen ar gyfer pob tystysgrif ar y dudalen Tystysgrifau lle gallwch ddod o hyd i’r opsiwn Rhannu Dogfen. Bydd hyn yn mynd a chi i’r dudalen Cysylltiadau i ychwanegu cysylltiad newydd.

Dim ond enw a chyfeiriad e-bost y cysylltiad newydd fydd eu hangen, yn ogystal ag enw eu cwmni.  Gallai hyn fod yn goleg, yn brifysgol neu’n gyflogwr, er enghraifft.  Fel arall, gallwch chi bennu dyddiad dod i ben ar gyfer y cysylltiad, gan alluogi mynediad y derbynnydd tan y dyddiad hwnnw yn unig.

Bydd y person cyswllt o’ch dewis yn cael neges e-bost, yn ei wahodd i weld y dystysgrif a rannwyd. Gallwch ddychwelyd i’r dudalen Cysylltiadau ar unrhyw adeg i ychwanegu, diwygio neu ddiddymu caniatadau.