Rydym am i chi gael profiad cadarnhaol wrth ddefnyddio ein gwasanaethau a'n cymwysterau; fodd bynnag, os nad ydych yn hapus â gwasanaeth rydych wedi'i dderbyn neu os ydych am adolygu penderfyniad asesu, cyfeiriwch at ddogfennau Agored Cymru canlynol:

Gall unrhyw ddysgwr gyflwyno cwyn neu apêl yn erbyn asesiad neu benderfyniadau eraill atom ni, fodd bynnag, rydym yn eich cynghori i geisio cyngor ac arweiniad gan eich Canolfan yn gyntaf.

Mae gan bob Canolfan Agored Cymru eu gweithdrefnau cwyno ac apelio eu hunain, y dylech eu dilyn yn y lle cyntaf. Os nad ydych yn fodlon â chanlyniad yr ymchwiliad i gwyn/apêl a gynhaliwyd gan y Ganolfan, gallwch gyflwyno eich cwyn neu apêl atom ni. Efallai y bydd amgylchiadau penodol lle mae angen i chi gyflwyno'r gŵyn atom ni'n uniongyrchol.

Rydym wedi ymrwymo i ymchwilio i unrhyw gŵyn/apêl ffurfiol yn deg, ac i fod yn gefnogol ac yn broffesiynol bob amser. Byddwn yn cydnabod derbyn unrhyw gŵyn neu apêl ffurfiol a gyflwynir atom ni o fewn 5 diwrnod gwaith ac yn anelu at ddatrys eich cwyn/apêl cyn gynted â phosibl. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi drwy gydol unrhyw ymchwiliad a gynhaliwn ac yn rhoi adroddiad ysgrifenedig i chi o'n canfyddiadau.

Mae pob cwyn/apêl a gyflwynir atom ni yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac yn unol â gofynion ein rheoleiddwyr cymwysterau a chyfraith diogelu data.

Rydym yma i'ch cefnogi drwy'r prosesau cwyno ac apelio. Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen esboniad pellach arnoch. Rydym yn hapus i helpu.